1Yn y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu y bobl: a chafwyd yn scrifennedic ynddo, na ddyle’r Ammoniaid, na’r Moabiaid Deut.23.3. num.22.5.ddyfod i gynnulleidfa Duw yn dragywydd:
2Am na chyfarfuasent a meibion Israel â bara, ac â dwfr: eithr cyflogasent Baalam yn eu herbyn iw melidigo hwynt. a’n Duw ni a drôdd y felldith yn fendith.
3A phan glywsant hwy y gyfraith: yna y nailltuasant yr holl rai cymmysc oddi wrth Israel.
4Ac o flaen hyn Eliasib yr offeiriad a osodasyd ar drysor-gell tŷ in Duw ni: cyfnesaf i Dobiah
5Ac efe a wnaeth iddo ei hun gell fawr, ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi yr offrwm, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwîn, a’r olew wedi ei orchymyn i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion: ac offrwm yr offeiriaid.
6Ac yn hynn ei gyd ni bum i yn Ierusalem: canys yn y ddeuddecfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes brenin Babilon, y deuthun i at y brenin, ac ym mhen ddyddiau y cefais gannad gan y brenin
7Pan ddaethum i Ierusalem, yna y deallais y drygioni’r hwn a wnaethe Eliasib er Tobiah, gan wneuthur iddo stafell yng-hynteddoedd tŷ Dduw.
8A bu ddrwg iawn gennif: am hynny mi a fwriais holl lestri tŷ Tobiah allan o’r gell.
9Erchais hefyd lânhau o honynt hwy y celloedd: a mi a ddygais yno trachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm, a’r thus.
10Gwybum hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi: am hynny y ffoase pôb vn iw faes, y Lefiaid, a’r cantorion y rhai oeddynt yn gwneuthur y gwaith.
11Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais: pa ham y gwrthodwyd tŷ Dduw? a mi ai cesclais hwynt, ac ai cyfleuais hwynt yn eu llê.
12Yna holl Iuda a ddugasant ddegwm yr ŷd, a’r gwîn, a’r olew i’r tryssorau.
13A mi a roddais yn dryssorwŷr ar y tryssorau Selemiah yr offeiriad, a Zadoc yr scrifennudd, a Phedaiah o’r Lefiaid: a cher llaw iddynt hwy Hanan fab Zaccur, fab Mattaniah, canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy rannu iw brodyr.
14Cofia fi fy Nuw o herwydd hyn: ac na ddelea fy nhrugareddau, y rhai a wneuthum a thŷ fy Nuw, ac ai wiliadwriaethau ef.
15Yn y dyddiau hyny y gwelais yn Iuda yn sengi gwin-wryfau ar y Sabboth, ac yn dwyn i mewn ddassau ŷd, ac yn llwytho ar yr assynnod wîn, a grawn-wîn hefyd, a ffigus a phob beichiau, ac yn dwyn i Ierusalem ar y dydd Sabboth: a mi a destiolaethais ar y dydd y gwerthasant lynniaeth.
16Y Tyriaid hefyd oeddynt yn trigo ynddi, yn dwyn pyscod, a phob peth gwerthadwy: y rhai yr oeddynt hwy yn gwerthu ar y Sabboth i feibion Iuda, sef yn Ierusalem.
17Yna y dwrdiais bendefigion Iuda: ac y dywedais wrthynt, pa beth dryionus hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan eich bod yn halogi y dydd Sabboth?
18Ond fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? am hynny y dûg ein Duw ni’r holl ddrygfyd hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon: a chwithau ydych yn chwanegu digofaint ar Israel am halogi y Sabboth?
19A phan gyscodase pyrth Ierusalem cyn y Sabboth yr erchais i gaeu y dryssau, am y rhai y dywedais nad agorid hwynt hyd wedi ’r Sabboth: a mi a osodais o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddele baich i mewn ar ddydd y Sabboth.
20Felly y negesseu-wŷr, a gwerth-wŷr pôb peth gwerthadwy a letteuasant o’r tu allan i Ierusalem vn-waith, neu ddwy.
21A mi a destiosaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, pa ham yr ydych chwi yn aros tros nôs gyferbyn a’r mûr? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn: o’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Sabboth.
22A mi a ddywedais wrth y Lefiaid am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio y dydd Sabboth: fel hyn hefyd cofia fi fy Nuw, a maddeu i mi yn ôl lliaws dy drugaredd.
23Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais yr Iddewon yn priodi yr Astodiesau, yr Ammoniesau, Moabiesau y wragedd
24Ai meibion hwynt yn llefaru hanner o’r Astodiad-aec, ac heb fedru ymddiddan yn saith yr Iddewon: ond yn ôl tafodiaith amryw bobl.
25Yna’r ymrysonais a hwynt, ac y melldithiais hwynt, tarewais hefyd rai o honynt, ac ai plicciais hwynt: ac mi ai tynghedais hwynt drwy Dduw os rhoddwch eich merched iw meibion hwynt, neu os cymmerweh oi merched hwynt i’ch meibion, nac i chwithau
26Ond o achos y rhai hyn y pechodd Salomon brenin Israel? 1.Bren.30.(sic.)er na bu brenin cyffelyb iddo ef ym mysc cenhedloedd lawer, canys hôff gan ei Dduw oedd efe, am hynny y rhoddodd Duw ef yn frenin ar holl Israel: etto 2.Sam.12.24.|2SA 12:24. 1 bren.11.1,4.|1KI 11:1,4 ecclus.47.19.gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.
27Ai arnoch chwi y gwrandewir, gan wneuthur yr holl drygioni mawr hwn, gan drosseddu yn erbyn ein Duw, drwy briodi gwragedd dieithr?
28Ac o feibion Ioladah fab Eliasib yr arch-offeiriad ddaw i Sanebalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthif.
29O fy Nuw cofia hwynt: am iddynt halogi’r offeiriadaeth, a chyfammod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid.
30Yna y glanhêais hwynt oddi wrth bôb estron: gosodais hefyd orchwyliaethau i’r offeriaid, ac i’r Lefiaid, pôb vn yn ei waith,
31Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedic, ac at y blaen-ffrwythau: cofia fi ô fy Nuw er llês
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.