Iosuah 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Yr Arglwydd yn peri gosod deuddec o feini yn eu sefyll i arwyddoccau treiddiad meibion Israel trwy yr Iorddonen.

1A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen: (canys Deut.27.2.llefarase yr Arglwydd wrth Iosuah gan ddywedyd,

2 pen.3.12. Cymmerwch i chwi ddeuddeng-ŵr o’r bobl: vn gŵr o bob llwyth.

3A gorchymynnwch iddynt gan ddywedyd cymmerwch i chwi oddi ymma, o ganol yr Iorddonen, o’r fann y mae traed yr offeiriaid yn sefyll y rhai ydynt yn daclus, ddeuddec o gerric: a throsgludwch hwynt gyd a chwi, a chyfleuwch hwynt yn y lle yr hwn y lleteuwch ynddo heno. )

4Yna Iosuah a alwodd am y ddeuddengwr y rhai a baratoase efe o feibion Israel: vn gŵr o bob llwyth.

5A dywedodd Iosuah wrthynt, ewch trosodd o flaen Arch yr Arglwydd eich Duw drwy ganol yr Iorddonen: a chodwch i chwi bob vn ei garrec ar ei yscwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel.

6Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysc chwi: pan ofynno eich meibion chwi ryw amser gan ddywedyd, beth y cerric hyn i chwi?

7Yna y dywedwch wrthynt, mai dyfroedd yr Iorddonen a holltwyd o flaen Arch cyfammod yr Arglwydd, tra fu hi yn myned trwy’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a holltwyd: am hynny y mae y cerric hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.

8A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchymynnase Iosuah, ac a gymmerasant ddeuddec carrec o ganol yr Iorddonen, fel y llefarase yr Arglwydd wrth Iosuah yn ol rhifedi llwythau meibion Israel: ac ai trosgludasant gyd a hwynt i’r lletŷ, ac ai cyfleuasant yno.

9Ac Iosuah a osododd i fynu ddeuddec carrec yng-hanol yr Iorddonen yn y lle traed yr offeiriaid (y rhai oeddynt yn dwyn Arch y cyfammod) yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

10Felly yr offeiriaid y rhai oeddynt yn dwyn yr Arch a safasant yng-hanol yr Iorddonen nes gorphen pob peth a’r a orchymynnase yr Arglwydd i Iosuah lefaru wrth y bobl, ym ôl yr hyn oll a orchymynnase Moses wrth Iosuah: yna y bobl a fryssiasant, ac a aethant trwodd.

11A phan ddarfu i’r holl bobl fyned trwodd: yna Arch yr Arglwydd a aeth trwodd, a’r offeiriaid yng-ŵydd y bobl.

12 Num 33 25. Meibion Ruben hefyd a meibion Gad, a hanner llwyth Manasses a dreiddiasant yn arfogion o flaen meibion Israel: fel y llefarase Moses wrthynt.

13Yng-hylch deugain-mil yn arfogion i’r filwriaeth a aethant trwodd o flaen yr Arglwydd i ryfel i rossydd Iericho.

14Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Iosuah yng-olwg holl Israel: a hwynt ai hofnasant ef fel yr ofnasent Moses holl ddyddiau ei enioes.

15A’r Arglwydd a lefarodd wrth Iosuah gan ddywedyd,

16Gorchymyn di i’r offeiriaid y rhai ydynt yn dwyn Arch y destiolaeth, ddyfod o honynt i fynu o’r Iorddonen.

17Am hynny Iosuah a orchymynnodd i’r offeiriaid gan ddywedyd: deuwch i fynu o’r Iorddonen.

18A phan ddaeth yr offeiriaid (y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd) i fynu o ganol yr Iorddonen y sangodd gwadnau traed yr offeiriaid ar y sych-dir yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant iw lle, ac a aethant megis cynt dros ei holl dorlannau.

19Felly y bobl a ddaethant i fynu o’r Iorddonen y decfed o’r mis cyntaf: ac a werssyllasant yn Gilgal, yn y cwrr eithaf o du’r dwyrain i Iericho.

20A’r deuddec carrec hynny y rhai a ddugasent o’r Iorddonen a sefydlodd Iosuah yn Gilgal.

21Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel gan ddywedyd: pan ofynno eich meibion chwi ryw amser iw tadau gan ddywedyd, beth y cerric hynn?

22Yna yr hyspysswch i’ch meibion gan ddywedyd: Israel a aeth drwy’r Iorddonen hon ar dîr sych.

23Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi Exod.14.21.nes i chwi fyned trwodd: megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned trwodd.

24Fel y gwypo holl bobloedd y ddaiar mai llaw’r Arglwydd sydd nerthol: fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw yr holl ddyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help