Gweithredoedd yr Apostolion 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Geiriau Crist a’i angelion wrth yr Apostolion, 9 derchafiad Crist, 15 dewis Matthias.

1 Mi a orphennais y traethawd cyntaf ô Theophilus am yr holl bethau y rhai a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dyscu,

2Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fynu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân roddi gorchymyn i’r Apostolion y rhai a etholase efe.

3I’r rhai, wedi iddo ef ddioddef yr ymddāgosodd efe yn fyw trwy lawer o arwyddion siccr, gan fod yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, ac yn ymddiddan yng-hylch pethau o deyrnas Dduw.

4

15A’r dyddiau hynny Petr yn cyfodi i fynu yng-hanol y discyblion a ddywedodd (ac yr oedd o rifedi pobl yn yr vn lle yng-hylch vgain chant)

16Ha wŷr, frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr scrythur ymma, yr hon y rhagddywedodd Psal.41.9. Ioan.13.27. yr Yspryd glân trwy enau Dafydd am Iudas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu.

17Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, ac efe a gawse rann o’r weinidogaeth hon.

18Ac efe a feddiannodd faes gobrwy anwiredd, ac Math.27.5. wedi ymgrogi efe a dorrodd yn ddwyran yn ei ganol, a’i holl ymyscaroedd a dywalltwyd allan.

19Ac y mae hyn yn eglur i holl bresswylwyr Ierusalem, hyd oni elwir y maes hwn, â’u tafod priodol hwy, Aceldama, hyn yw, maes y gwaed.

20Canys scrifennedic yw yn llyfr y Psalmau, bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na Psal.69.25. & 109.7. bydded a drigo ynddi, a chymmered arall ei escobaeth ef.

21Am hynny y mae yn rhaid (o’r gwŷr a fu yn ein cymdeithas ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,

22Gan ddechreu o fedydd Ioan, hyd y dydd yn yr hwn y cymmerwyd ef i fynu oddi wrthym ni) bod vn gyd â ni yn dyst o’r ailgyfodiad ef,

23Ac hwy a osodasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a henwid Bersabas ac a gyfenwid Iustus, a Matthias.

24A chan weddio hwy a ddywedasant: Tydi Arglwydd yr hwn a ŵyddost galōnau pawb, dangos pa vn o’r ddau hyn a etholaist,

25I dderbyn swydd y weinidogaeth hon, a’r Apostoliaeth o’r hon y cyfeiliornodd Iudas, i fyned iw le ei hun.

26Ac hwy a fwriasant goel-brennau, ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gyfrifwyd gyd â’r vn Apostl ar ddêc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help