1Yna Iudith a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a osododd ludw ar ei phen, ac a ddioscodd y sachliain a’r hwn yr oedd hi wedi ymwisco: ac yng-hylch yr amser yr offrymmwyd yr arogldarth yn Ierusalem o fewn tŷ yr Arglwydd y prydnawn-cwaith hwnnw, yna Iudith a waeddodd â llef vchel, ac a ddywedodd:
2O Arglwydd Dduw fy nhâd Simeon, i’r hwn y rhoddaist gleddyf i ddial ar y dieithriaid y rhai a agorasant grôth y forwyn drwy halogedigaeth, ac a noethasant y morddwyd drwy wradwydd, ac a halogasant forwyndod drwy warth, (canys tydi a archesit na wneid felly,
3Etto hwynt a wnaethant bethau am yr hyn y rhoddaist ti eu tywysogion hwynt i’r lladd-fa, canys wedi eu twyllo y golchasant eu gwely drwy waed) a thithe a darewaist y gweision gyd a’r pennaethiaid, a’r pennaethiaid gyd ai gorseddfeudd,
4Ac a roddaist eu gwragedd hwynt yn sclyfaeth, ai merched mewn caethiwed, ai holl anrhaith hwynt yn gyfran i feibion cu gennit: y rhai oeddynt yn gressynnu o’th ressyndod ti, ac yn ffiaidd ganddynt halogedigaeth eu gwaed, ac a alwasant arnat ti yn gynnorthwy, ô Duw, ô fy Nuw, gwrando arnafi weddw.
5Canys ti a wnaethost y pethau cynn y rhai hyn, a’r rhai hyn hefyd, a’r rhai a fyddant rhac llaw: a thi ydwyt yn canfod y pethau presennol, a’r pethau a ddeuant rhac llaw.
6Canys y pethau y rhai yr ydwyt ti yn eu hamcanu sy yn gydrychol, ac yn dywedyd, wele ni ymma: o herwydd dy holl ffyrdd di sy barod, a’th farnedigaethau wedi eu rhacluniaethu.
7Wele yr Assyriaid wedi amlhau drwy eu nerth, ymdderchafasant yn eu meirch ai marchogiō, ymogoneddasant yng-hadernid y gwŷr traed, ymddyriedasant i’r tarian, ar i’r bŵa, ac i’r dafl-ffon, ac nid ydynt yn gwybod mai tydi ô Arglwydd sydd yn torri y rhyfeloedd: yr Arglwydd yw dy enw.
8Rhwyga di eu cadernid hwynt a’th nerth di, a dryllia eu cryfder hwynt a’th ddigllouedd: canys y maent hwy wedi bwriadu halogi dy gyssegr, a difwyno y Tabernacl lle y mae dy enw gogoneddus yn gorphywys, ac i fwrw i lawr ag arfau gyrn dy allor di.
9Edrych ar eu balchder hwynt, anfon di dy ddigofaint ar eu pennau hwynt: dod ti yn fy llaw i yr hon ydwyf weddw y nerth yr hwn a arfaethais.
10 Barn.4.21|JDG 4:21. & 5.26. Taro di drwy ddichell fyng-wefusau y gwâs gyd a’r tywysog, a’r tywysog gyd ai wâs, torr di eu huchter hwynt drwy law benyw.
11 Barn.7.2. 2.Cron.14.11. & 16.8. & 20.6. Canys nid yw dy nerth di mewn lliaws na’th allu yn y rhai cedyrn: eithr tydi ydwyt Arglwydd y rhai gostyngedic, a chynnorthwy-wr y rhai bychain, amddeffyn-wr y gweniaid, ymgoledd-wr y rhai gwrthodedic, achub-wr y rhai anobeithiol.
12Yn ddiammeu Dduw fy nhad i, a Duw etifeddiaeth Israel, llywiawdur nefoedd a daiar, creawdur y dyfroedd, brenin dy holl greaduriaid gwrando fyng-weddi,
13A channiadhâ i’m air, a dichell, ac archoll ac anaf yn eu herbyn hwynt, y rhai ydynt yn amcanu pethau sceler yn erbyn dy destiolaeth di, a’th dŷ sanctaidd, a choppa Sion, a thŷ meddiant dy feibion.
14Dangos ym mhlith dy holl bobl holl allu, a’th gadernid: canys nid oes neb arall yn amddeffyn-wr i genhedlaeth Israel onid tydi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.