Iosuah 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Iosuah yn gorsygu pum brenin. 12 yn cael gan Dduw beri i’r haul sefyll yn ei vn-lle. 26 yn crogi y pum brenin, ac yn dinistrio eu dinasoedd hwynt.

1A Phan glybu Adonizedec brenin Ierusalem i Iosuah ennill ai, ai difrodi hi, (fel y Iosuah.6.15.gwnelse efe i Iericho, ac iw brenin, felly y gwnaethe efe Ios.8.3.i Ai, ac iw brenin) ac heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, Pen.9.16.a bod yn eu mysc hwynt,

2Yna’r ofnasant yn ddirfawr o blegit dinas fawr Gibeon fel vn o’r dinasoedd brenhinawl: ac o herwydd mwy hi nac Ai, ei holl wŷr hefyd gedyrn.

3Am hynny Adonizedec brenin Ierusalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron: ac at Biram brenin Iarmuth, at Iaphia hefyd brenin Lachis, ac at Dabir brenin Eglon gan ddywedyd:

4Deuwch i fynu attafi, a chynnorthwywch fi fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd ag Iosuah, ac a meibion Israel.

5Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant i fynu brenin Ierusalem, brenin Hebron, brenin Iarmuth, brenin Lachis, brenin Eglon hwyntwy ai holl fyddinoedd: a gwerssyllasant wrth Gibeon, a rhyfelasant yn ei herbyn hi.

6A gwŷr Gibeon a anfonasant at Iosuah i’r gwerssyll i Gilgal gan ddywedyd, na thynu ymmaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyret i fynu yn fuan attom ni, achub ni hefyd a chynnorthwya ni, canys holl frenhinoedd yr Amoriaid y rhai ydynt yn trigo yn y mynydd-dir a ymgynnullasant i’n herbyn ni.

7Felly Iosuah a escynnodd o Gilgal, efe a’r holl bobl ryfeloc gyd ag ef, a’r holl gedyrn nerthol.

8A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah, nac ofna rhagddynt hwy canys yn dy law di y rhoddais hwynt: ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.

9Iosuah gan hynny a ddaeth yn ddiatrec attynt hwy: ar hŷd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.

10A’r Arglwydd ai drylliodd hwynt o flaen Israel, ac ai tarawodd hwynt a phla mawr yn Gibeon: ac ai hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fynu i Beth-horon, ac ai tarawodd hwynt hyd Azeca, ac hyd Macceda.

11Pan oeddynt yn ffoi o flaen Israel hwynt yng-oriwared Beth-horon, yna’r Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerric mawrion o’r nefoedd hyd Azeca fel y buont feirw: amlach y rhai a fuant feirw gan y cerric cenllysc, na’r rhai a laddodd meibion Israel a’r cleddyf.

12Yna y llefarodd Iosuah wrth yr Arglwydd, y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng-olwg Israel: ô haul aros yn Gibeon, a’r lleuad yn nyffryn Aialon.

13A’r Esa.28.21. Ecclesia.46.4.haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd nes i’r genedl ddial ar ei gelynnion, onid yw hyn yn scrifennedic 2.Sam.1.18.yn llyfr yr iniawn? felly’r haul a safodd yng-hanol y nefoedd, ac ni fryssiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14Ac ni bu y fath ddydd a hwnnw oi flaen ef, nac ar ei ol ef fel y gwrandawe yr Arglwydd ar lef dŷn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15Yna Iosuah a ddychwelodd, a holl Israel gyd ag ef i’r gwerssyll i Gilgal.

16Ond y pum-brenin hynny a ffoasant: ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.

17A mynegwyd i Iosuah gan ddywedyd: y pum brenin a gafwyd yng-hudd yn ogof Macceda.

18Yna y dywedodd Iosuah, treiglwch feini mawrion ar safn yr ogof: a gosodwch wrthi wŷr iw cadw hwynt.

19Ac na sefwch chwi, erlidiwch ar ôl eich gelynnion a threwch y rhai olaf o honynt: na adewch iddynt ddyfod iw dinasoedd, canys yr Arglwydd eich Duw ai rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

20a phan ddarfu i Iosuah, a meibion Israel eu taro hwynt a phla mawr iawn nes eu difa: yna y gweddillion a adawsid o honynt a ddaethant i’r dinasoedd caeroc

21A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwerssyll at Iosuah ym Macceda yn heddychlon, heb symmud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

22Ac Iosuah a ddywedodd agorwch enau yr ogof: a dygwch allan y pum brenin hynny attafi o’r ogof.

23A hwynt a wnaethant felly, ac a ddugasant allan y pum brenin atto ef o’r ogof: sef brenin Ierusalem, brenin Hebron, brenin Iarmuth, brenin Lachis, brenin Eglon.

24A phan ddugasant hwy y brenhinoedd hynny at Iosuah, yna Iosuah a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwŷr y rhai a aethent gyd ag ef, nessewch gosodwch eich traed ar wddfau y brenhinoedd hynn: a hwynt a nessasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.

25Yna Iosuah a ddywedodd wrthynt nac ofnwch, ac nac arswydwch: ymŵrolwch ac ymegniwch, canys fel hyn y gwna’r Arglwydd i’ch holl elynnion y rhai’r ydych chwi yn ymladd iw herbyn.

26Ac wedi hyn Iosuah ai tarawodd hwynt, ac ai rhoddodd i farwolaeth, crogodd hwynt hefyd ar bum-prenn: a buant yng-hrog ar y prennau hyd yr hwyr.

27Ac ym mhryd machluiad yr haul y Deut.21.23. Iosua.8.29.gorchymynnodd Iosuah iddynt eu descyn hwynt oddi ar y prennau, ai bwrw hwynt i’r ogof yr hon yr ymguddiasent ynddi: a bwriasant gerric mawrion ar enau’r ogof, hyd gorph y dydd hwn.

28Iosuah hefyd a ennillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac ai tarawodd hi a min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi gyd a hwynt, a phob enaid a’r ynddi, ni adawodd efe gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda Iosua.6.21.fel y gwnaethe i frenin Iericho.

29Yna yr aeth Iosuah a holl Israel gyd ag ef o Macceda i Libna: ac a ymladdodd yn erbyn Libna.

30A’r Arglwydd ai rhoddodd hi hefyd ai brenin yn llaw Israel, ac yntef ai tarawodd hi a min y cleddyf, a phob enaid a’r ynddi, ni adawodd ynddi yng-weddill: canys efe a wnaeth iw brenin hi fel y gwnelse i frenin Iericho.

31Ac Iosuah a drammwyodd a holl Israel gyd ag ef o Libna i Lachis: ac a werssyllodd wrthi, ac a ymladdodd îw herbyn.

32A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel, yr hwn ai ennillodd hi yr ail dydd, ac ai tarawodd hi a min y cleddyf, a phob enaid a’r ynddi: yn ôl yr hyn oll a wnaethe efe i Libna.

33Yna Horam brenin Gezer a ddaeth i fynu i gynnorthwyo Lachis: ond Iosuah ai tarawodd ef, ai bobl fel na adawyd iddo ef yng-weddill.

34Ac Iosuah a drammwyodd ai holl bobl gyd ag ef o Lachis i Eglon: ac a werssyllasant wrthi, ac a ymladdasant iw herbyn.

35A hwynt ai hennillasant hi y diwrnod hwnnw, a tharawsant hi a mîn y cleddyf, ac efe a ddifrododd bob enaid a’r ynddi y dwthwn hwnnw: yn ôl yr hyn oll a wnaethe efe i Lachis.

36Yna’r escynnodd Iosuah a holl Israel gyd ag ef o Eglon i Hebron: a rhyfelaant iw herbyn.

37Pan ennillasant hi, yna hwy ai tarawsant hi a min y cleddyf, ai brenin, ai holl ddinasoedd, a phob enaid a’r ynddi, ni adawodd efe yn weddill, yn ôl yr hyn oll a wnaethe efe i Eglon: canys efe ai difrododd hi, a phob enaid a’r ynddi.

38Yna Iosuah a ddychwelodd, a holl Israel gyd ag ef i Dabir: ac efe a ymladdodd iw herbyn.

39Pan ennillodd efe hi, ei brenin, ai holl ddinasoedd, yna hwynt ai tarawsant a min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid a’r ynddi, ni adawodd efe yng-weddill: fel y gwnaethe efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Dabir ac iw brenin, ac megis y gwnelse efe i Libna ac iw brenin.

40Felly y tarawodd Iosuah yr holl fynydd-dir a’r dehau, y gwastadedd hefyd a’r bronnydd, ai holl frenhinoedd, ni adawodd efe yng-weddill: eithr efe a ddifrododd bob perchaên anadl, fel y gorchymynnase Arglwydd Dduw Israel.

41Felly Iosuah ai tarawodd hwynt o Cades Barnea hyd Azza: a holl wlâd Gosen hyd Gibeon.

42Yr holl frenhinoedd hyn hefyd ai gwledydd a ennillodd Iosuah ar vn-waith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd tros Israel.

43Yna y dychwelodd Iosuah a holl Israel gyd ag ef i’r gwerssyll yn Gilgal.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help