1A dywedodd Balaam wrth Balac, adailada i mi ymma saith allor, a darpara i mi ymma saith o fustych, a saith o hyrddod.
2A gwnaeth Balac megis ac y dywedodd Balaam: ac offrymmodd Balac, a Balaam fustach a hwrdd a’r allor.
3A dywedodd Balaam wrth Balac, saf di wrth dy boeth offrwm, myfi a âf onid odid daw yr Arglwydd i’m cyfarfod, a mynegaf it pa air a ddangoso efe i mi, ac efe a aeth yn vwch.
4A chyfarfu Duw a Balaam, a dywedodd wrtho: darperais saith allor, ac aberthais fustach, a hwrdd ar allor.
5A gosododd yr Arglwydd air yng-enau Balaam, ac a ddywedodd, dychwel at Balac, a dywet fel hyn.
6Ac efe a ddychwelodd atto, ac wele efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boeth offrwm.
7Ac efe a gymmerodd ei ddāmeg, ac a ddywedodd, o Siria y cyrchodd Balac brenin Moab myfi, o fynyddoedd y dwyrain ni regodd Duw? a pha ham y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?
9Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o’r brynnau yr edrychaf arno ef: wele bobl yn presswylio eu hun, ac heb eu cyfrif yng-hyd a’r cenhedloedd.
10Pwy a rif lwch Iacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? marw a wnelwyf o farwolaeth y rhai inion, a bydded fy niwedd fel yntef.
11A dywedodd Balac wrth Balaam, beth a wnaethost i mi? i regu fyng-elynion i’th gymmerais, ac wele gan fendithio ti bendithiaist.
12Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fyng-enau, hynny a lefaraf yn wastadol.
13A dywedodd Balac wrtho ef, tyret attolwg gyd amfi i le arall, lle y gwelech hwynt, oddi yno y cei weled eu cwrr hwynt yn vnic, ac ni chei eu gweled hwynt eu gyd: rhêga dithe hwynt i mi oddi yno.
14Ac efe ai cymmerodd ef i faes amlwg, i ben brynn, ac a adailadodd saith allor, ac a offrymmodd fustach, a hwrdd ar allor.
15Ac a ddywedodd wrth Balac, saf ymma wrth dy boeth offrwm, a mi a âf accw i gyfarfod
16A chyfarfu yr Arglwydd a Balaam, ac a a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd: dychwel at Balac, a dywet fel hyn.
17Ac efe a ddaeth atto, ac wele efe yn sefyll wrth ei boeth offrwm, a thywysogion Moab gyd ag ef: a dywedodd Balac wrtho, beth a ddywedodd yr Arglwydd?
18Yna y cymmerodd efe ei ddammeg, ac a ddywedodd: cyfot Balac a gwrando, mab Ziphor clustymwrando a mi.
19Nid dyn Duw i ddywedyd celwydd, na mab dyn i edifarhau, a ddywed efc, ac nis cyflawna?
20Wele cymmerais arnaf fendithio: canys 66 bendithiodd efe, ac ni throafi hynny.
21Ni wêl efe anwiredd yn Iacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel: yr Arglwydd ei Dduw gyd ag ef, ac vdcorn-floedd brenin yn eu mysc hwynt.
22Duw ai dug hwynt allan o’r Aipht, nerth vnicorn iddo.
23Canys nid ofer-goel yn Iacob, na dewiniaeth yn Israel: y pryd y dywedir am Iacob, ac am Israel, beth a wnaeth Duw?
24Wele pobl a gyfyd fel hên lew, ac fel llew ieuangc yr ymgyfyd, ni orwedd nes bwytta yr sclyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.
25A dywedodd Balac wrth Balaam, gan regu na rega ef mwy, gan fendithio na fendithia ef y chwaith.
26Yna yr attebodd Balaam ac a ddywedodd wrth Balac, oni fynegais it gan ddywedyd? yr hyn oll a lefara yr Arglwydd hynny a wnaf.
27A dywedodd Balac wrth Balaam, tyret attolwg mi a’th gymmeraf i le arall: ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regu ef i mi oddi yno.
28A Balac a gymmerodd Balaam i ben Peor, yr hwn a welir tua’r diffaethwch.
29A dywedodd Balaam wrth Balac, adailada i mi ymma saith allor, a darpara i mi ymma saith bustach, a saith hwrdd.
30A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam, ac offrymmodd fustach, a hwrdd ar allor.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.