1Gair yr Arglwydd, yr hwn a ddaeth at Osea fab Beeri yn nyddiau Osea, Iotham, Ahas, ac Hezecia brenhinoedd Iuda, ac yn nyddiau Ieroboam fab Ioas, brenin Israel.
2Pan ddechreuodd yr Arglwydd lefaru drwy Osea, yna yr Arglwydd a ddywedodd wrth Osea, dos, cymmer it wraig odinebus a phlant odineb: o herwydd y mae y wlâd gan butteinio yn putteinio oddi ar ôl yr Arglwydd.
3Ac efe a aeth, ac a gymmerodd Gomer ferch Deblaim, a hi a feichiogodd ac a ymddug iddo ef fâb.
4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, galw ei enw ef 2.Bren.10.11.Iezrahel: canys ar fyrder yr ymwelaf â gwaed Iezrahel ar dŷ Iehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod.
5A’r dydd hwnnw y torraf fŵa Israel, yng-lynn Iezrahel.
6A hi a feichiogodd eil-waith, ac a escorodd ar ferch, a dywedodd wrtho, galw ei henw hi Loruchamah, am na chwanegaf drugarhaû wrth dŷ Israel, eithr gan ddwyn dygaf hwynt ymmaith.
7Ac etto trugarhâf wrth dŷ Iuda, a chadwaf hwynt drwy yr Arglwydd eu Duw, nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, â meirch, nac â marchogion y cadwaf hwynt.
8A hi a ddiddyfnodd Loruchamah, ac a feichiogodd ac a escorodd ar fâb.
9Ac efe a ddywedodd, galw ei enw Loammi, am nad ydych bobl i mi, am hynny ni byddaf i chwithau
10Etto bydd nifer meibion Israel Rhuf.9.26.fel tyfod y môr, y rhai ni’s mesurir, ac ni’s cyfrifir: a bydd yn y man lle y dywedwyd wrthynt, nid pobl i mi chwi, y dywedir wrthynt, meibion i Dduw byw
11Yna meibion Iuda, a meibion Israel a gesclir yng-hyd, ac hwy a osodant iddynt vn pen: a deuant i fynu o’r tîr: canys mawr dydd Iezrahel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
