Luc 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Crist yn iachau gwâs y canwriad. 11 Yn codi o farw i fyw fab gwraig weddw. 20 Yn atteb ac yn canmol Ioan. 37 Ffydd, edifeirwch, a maddeuant Mair Magdalen.

1Wedi A bu drannoeth iddo fyned i ddinas a elwid Nain: a llawer o’i ddiscybliō a aethant gydag ef, a thyrfa fawr.

12Pan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas: wele vn marw a ddygid allan, yr hwn oedd vnic fab ei fam, a honno yn weddw, a llawer o bobl y ddinas oedd gyd â hi.

13A phan welodd yr Arglwydd hi, efe a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, nac ŵyla.

14A phan ddaeth yn nes, efe a gyffyrddodd â’r elor, (a’r rhai oedd yn ei dwyn a safasant) ac efe a ddywedodd, y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthit cyfot.

15Yna y cyfodes y marw yn ei eistedd, ac efe a ddechreuodd lefaru: ac efe a’i rhoddes iw fam.

16Ac ofn a ddaeth arnynt oll, ac hwy a ogoneddasant Dduw gan ddywedyd: yn ddiau prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith, ac ymwelodd Duw â’i bobl.

17A’r gair hwn a aeth allan am danaw tros holl Iudæa, a thros gwbl o’r wlâd oddi amgylch.

18A Math.11.2.mynegodd ei ddiscyblion i Ioan am hyn oll.

19Ac wedi i Ioan alw dau o’i ddiscyblion atto, efe a’u gyrrodd hwynt at yr Iesu, gan ddywedyd: ai tydi yw’r hwn sydd ar ddyfod, ai arall a ddysgwiliwn?

20A phan ddaeth y gŵyr atto, hwynt hwy a ddywedasant: Ioan Fedyddiwr a’n anfonodd ni attat ti, gan ddywedyd: ai ti yw’r hwn sydd ar ddyfod, ai arall a ddisgwiliwn?

21A’r awr honno efe a iachâodd lawer oddi wrth glefydau, a phlauau, ac ysprydion drwg: ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.

22A’r Iesu a attebodd gan ddywedodd wrthynt: ewch ymmaith a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch, ac a glywsoch: fod y Esa.35.5. & 61.1. Math.11.5.deillion yn cael eu golwg, y cloffion yn rhodio: y gwahan-gleifion yn eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn derbyn yr Efengyl.

23A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir o’m plegit i.

24Ac Math.11.7.wedi i gennadau Ioan fyned ymmaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y dyrfa am Ioan: beth yr aethoch allan i’r diffaethwch iw weled? ai corsen yn siglo gan wynt?

25Ond pa beth yr aethoch allan iw weled? Ai dŷn wedi ei ddilladu â gwiscoedd esmwyth? wele, y rhai sy yn arferu dillad anrhydeddus a maswedd ydynt mewn palasoedd brenhinoedd.

26Eithr beth yr aethoch allan iw weled? ai prophwyd? yn ddiau meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.

27Hwn yw efe o’r vn yr scrifennwyd: Mal.3.1. wele yr wyf yn anfon fyng-hennad o flaen dy wyneb, yr hwn a drefna dy ffordd o’th flaen.

28Canys meddaf i chwi ym mhlith y rhai a aned o wragedd nid oes brophwyd mwy nag Ioan fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.

29Yna yr holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r Publicanod a foliasant Dduw, y rhai a fedyddiasid â bedydd Ioan.

30Eithr y Pharisæaid a’r cyfreithwŷr yn eu herbyn eu hunain a wrthodasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

31Yna yr Arglwydd a ddywedodd, i Math.11.16.bwy y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon, ac i ba beth y maent tebyg?

32Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, gan ddywedyd: canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch, cwynfanasom i chwi, ac nid ŵylasoch.

33Daeth Ioan Fedyddiwr heb fwytta bara, nac yfed gwîn, a meddwch chwi, y mae cythrael ganddo.

34Daeth Mab y dŷn yn bwytta ac yn yfed, ac yr ydych yn dywedyd, wele vn glwth, ac yfwr gwîn, cyfaill Publicanod a phechaduriaid.

35A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o’i phlant.

36Ac vn o’r Pharisæaid a’i gwahoddodd ef i fwytta gyd ag ef, ac yntef a aeth i dŷ’r Pharisæad, ac a eisteddodd.

37Ac wele wraig, yr hon a fuase bechadures yn y ddinas, pan ŵybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd, yn nhŷ’r Pharisæaid, hi a ddug flwch o ennaint:

38A Marc.14.3. Ioan.20.(sic.)chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac ŵylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, a’u sychu â gwallt ei phenn, a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd â’r ennaint.

39Pan welodd y Pharisæad, yr hwn a’i gwahoddase, efe a ddywedodd wrtho ei hun: pe bydde hwn brophwyd, efe a ŵydde pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.

40Yna’r attebodd yr Iesu gan ddywedyd wrtho, Simon, y mae gennif beth iw ddywedyd wrthit: yntef a ddywedodd, Athro, dywet.

41Dau ddyledwr oedd i’r vn echwynwr, y naill oedd arno bum cant ceiniog o ddylêd, a’r llall ddêc a deugain.

42A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau: dywet gan hynny pwy o’r rhai hyn a’i câr ef yn fwyaf?

43Simon a attebodd, ac a ddywedodd: yr wyf yn tybied mae’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf: yntef a ddywedodd wrtho, iniawn y bernaist.

44Yna wedi troi at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon: a weli di’r wraig hon? daethym i’th dŷ, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: a hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a’u sychodd â gwallt ei phenn.

45Ni roddaist i mi gusan, a hon er pan ddaethym i mewn, ni orphwysodd yn cusanu fy nhraed.

46Nid iraist fy mhenn ag olew, a hia irodd fy nhraed ag ennaint.

47Am hynny meddaf i ti, maddeuwyd llawer o bechodau iddi: canys carodd yn fawr, o achos i’r neb y maddeuer ychydig, ychydig a gâr efe.

48Ac efe a ddywedodd wrthi: maddeuwyd i ti dy bechodau.

49Yna y rhai oeddynt yn cyd-eistedd a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain: pwy yw hwn sydd yn maddeu pechodau hefyd?

50Ac efe a ddywedodd wrth y wraig: dy ffydd a’th gadwodd, dos mewn tangneddyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help