4.Esdras 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.5 Ni ddichon neb ddyfod i’r bywyd tragywyddol heb adfyd. 12 Duw a ddatcuddia bob peth mewn amser. 28 Dyfodiad a marwolaeth Crist. 32 Yr ail gyfodiad a’r farn ddiwethaf.

1A Phan ddarfu i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd attaf angel yr hwn a ddan­fonasid attaf y nosweithiau cyntaf.

2A dywedodd wrthif, cyfot Esoras a gwrando y geiriau y daethym iw mynegi i ti.

3A dywedais inne, dywet fy Nuw, ac efe a ddywedodd wrthif, y môr a osodwyd mewn lle ehang, fel y byddo efe yn ddwfn ac yn fawr.

4Mewn lle cyfyng y gosodir y ffordd i fyned iddo, hyd onid yw efe debyg i afonydd.

5Pwy wrth hynny oi fodd a ai i’r môr, i edrych arno ef, ac iw lywodraethu ef: os efe nid ai drwy ’r lle cyfyng, pa fodd y galle efe ddyfod i’r lle ehang:

6Hefyd trachefn, adeiladwyd dinas ar faes gwastad, ac y mae hi yn llawn o bob daioni.

7Ai phorth hi sydd gyfyng, a gosodwyd hi mewn lle serth, fel pe bydde dân ar y llaw ddehau, a dwfr dwfn ar y llaw asswy.

8Ac vn llwybr cyfyng a osodwyd rhyngddynt, sef, rhwng y dwfr a’r tân, fel na’s galle fyned rhyd y llwybr ond vn gŵr.

9Pe rhoddid y ddinas yn etifeddiaeth i ŵr, ac efe erioed heb fyned y ffordd beryglus honno, pa fodd y derbynie efe ei etifeddiaeth:

10A dywedais, gwir fy Arglwydd, ac efe a ddywedodd wrthif, felly y mae rhan Israel.

11Canys er eu mwyn hwyntwy y gwnaethum y byd: a phan dorrodd Adda fyng-orchymynnion i, yr ordeiniwyd y peth sydd yn awr wedi ei wneuthur.

12A gwnaethbwyd dechreu y byd hwn yn gyfyng, yn drist, ac yn llafurus, yn ychydig, yn ddrwg, yn llawn perigl a phoen.

13Canys dechreuad y byd cyntaf oedd ehang a diberigl, ac yn dwyn ffrwyth anfarwol.

14Os gan hynny, y rhai sydd fyw nid ânt i mewn drwy ’r cyfyngora a’r oferedd hyn, ni’s gallant dderbyn y pethau a roddwyd i gadw yn ddirgel.

15Wrth hynny, paham i’th aflonyddi dy hun,, gan dy fod yn llygredic: a pha ham y cyn­hyrfi gan dy fod yn farwol?

16A pha ham na feddyli yn dy galon am y pethau sydd i ddyfod, ond am y pethau sydd bresennol:

17Atebais a dywedais, Arglwydd llywydd, wele ordeniaist drwy dy gyfraith i’r rhai cyfiawn feddiannu y pethau hyn, ac i’r anghyfi­awn fethu.

18A’r cyfiawn hefyd a ddioddefant gyfyngder, ac a obeithiant ehangder: a’r sawl a wnaeth anghyfiawnder a ddioddefasant gyfyngder, ac ni’s caffant weled ehangder.

19A dywedodd efe wrthif, nid oes farn-ŵr ar Dduw, na neb yn deall yn well na’r Goruchaf.

20Canys llawer a gollir o’r rhai presennol, o achos diystyru cyfraith Dduw ’r hon sydd oi blaen hwynt.

21Canys gan orchymyn y gorchymynnodd Duw i’r rhai a ddaeth pan ddaethant, pa beth a wnaent i fyw, a pha beth a gadwent fel na’s ceryddid hwynt.

22Er hynny y rhai hyn ni’s coeliasant ef, a dywedyd a wnaethant yn ei erbyn ef, a meddyliasant oferedd.

23A chann eu hamgylchu eu hun â beiau hwy a ddywedasant am y Goruchaf nad oedd efe, ac ni chydnabuant ei ffyrdd ef.

24Ai gyfraith ef a ddiystyrasant, a gwadasant ei addewidion ef, ac ni buant ffyddlon yn ei gyfreithiau ef, ac ni chyflawnasant ei weithredoedd ef,

25Am hyn Esoras, i’r gwag y mae y pethau gweigion, ac i’r llawn y pethau llawnion.

26Ac wele, ’r amser a ddaw, y cyflawner ’r arwyddion a ddangosais i ti, a’r briodas-ferch a ymddengys, a dangosir yr hon sydd yn awr dann y ddaiar.

27A phawb a’r a ddiango oddi wrth y drygi­oni vchod, a gaiff weled fy rhyfeddodau maufi.

28Canys fy mab Iesus a’r rhai sydd gyd ag ef a ddangosir, a’r rhai a adewir a lawenychant bedwar-cant o flynyddoedd.

29Yn ôl y blynyddoedd hyn y bydd marw fy mab Crist, a phob dyn byw.

30A’r byd a droir i’r hên ddistawrwydd dros saith niwrnod, fel yn y barnedigaethau cyntaf, fel na’s gadawer neb yn ôl.

31A digwydd yn ôl saith niwrnod y cyfodir y byd hwn sydd etto heb ddeffro, a’r peth llygredic a fydd marw.

32A’r ddaiar a ddyri trachefn y pethau sydd yn cyscu ynddi, a’r pridd y rhai sydd yn aros ynddo ef mewn distawrwydd, a’r celloedd yr enei­diau y rhai a roddwyd ynddynt hwy.

33A cheir gweled y Goruchaf ar orsedd­faingc y farn, a phob truêni a ânt ymmaith, a dioddefgarwch a gesclir yng-hyd.

34Ond y farn a eris, y gwirionedd a saif, a ffydd a gryfhâ.

35A’r weithred a galyn, a’r gwobr a ddangosir, cyfiawnder a beru, ac anghyfiawnder ni reola.

36A dywedais, yn gyntaf Abraham a weddiodd dros y Sodomiaid, a Moses dros y tadau a bechasant yn yr anialwch.

37A’r rai a fuant ar ei ôl yntef tros Israel yn nyddiau Achas a Samuel.

38A Dafydd rhag y destruw, a Salomon dros y rhai a ddaethant i’r cyssegr.

39A Helias dros y rhai a gawsant law, a thros y marw er mwyn caffael o honaw ef fyw.

40Ac Ezechias dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer dros laweroedd.

41Wrth hynny os yn awr (pan dyfodd llwgredigaeth, ac amlhau anghyfiawnder) y cyfiawn a weddiasant tros ar annuwiol: pa ham na bydd felly yr awron:

42Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, nid y byd hwn yw ’r diwedd: anrhydedd a geir ynddo ef yn fynych, am hynny y gweddiasant dros y gweniaid.

43Dydd y farn a fydd diwedd y byd hwn, a dechreuad y tragwyddoldeb sydd i ddyfod, yn yr hwn y diflanna pôb llygredigaeth.

44Anghymedroldeb a ryddhauwyd, anghredyniaeth a dorrwyd ymmaith: cynyddodd cyfiawnder, a gwirionedd a gododd.

45Y pryd hynny, ni’s gall neb achub yr hwn a gollwyd, na gorthrymmu y neb a orchfyga.

46Ac atebais gan ddywedyd, dymma ’r gair a ddywedais yn gyntaf ac yn ddiwethaf, mai gwell a fuase na roddasid y ddaiar i Adda, neu pan roddwyd hi, llesteir iddo ef bechu.

47Canys pa lessâd i ddynion fyw yn y byd presennol hwn mewn trymder, ac yn ôl marwolaeth disgwil am gospedigaeth:

48O ti Adda, pa beth a wnaethost: er i ti bechu, nid yw hynny yn gwymp i ti dy hun yn vnic, ond i ninnau hefyd y rhai a ddaethom o honot ti.

49Canys pa les i ni os addawyd i ni fywyd tragywyddawl, a ninnau a wneuthom weithredoedd marwolaeth:

50Ac er addo i ni obaith tragywyddawl: ninnau a wnaethpwyd yn wîr oferedd:

51Ac er darparu i ni drigfannau iechyd a diogelwch, a ninnau yn byw yn annuwiol:

52Ac er darparu gogoniant y Goruchaf i amddeffyn y rhai a fuant fyw yn ddioddefgar a ninnau yn rhodio ar hyd y ffordd waethaf?

53Ac er dangos i ni baradwys ai ffrwyth yn parhau yn dragywyddol, yn yr hwn y mae diogelwch a meddiginiaeth:

54A ninnau er hynny heb gael myned i mewn: (canys rhodio a wnaethom mewn lleoedd amhawddgar)

55Ac er disclaerio o wynebau y rhai a ym­gospasasant yn oleuach na’r sêr, a’n hwynebau ninnau yn dduach na’r tywyllwch:

56Canys tra fuo’m fyw yn gwneuthur anwiredd, ni feddyliasom ni y caem ddioddef am hynny yn ôl marwolaeth.

57Ac efe a atebodd gan ddywedyd, dymma fodd yr ymrafael ’r hwn a ymrafailia dŷn a’r a âner ar y ddaiar.

58Fel os gorchfygir ef, efe a gaiff ddioddef yr hyn a ddywedaist, ond os efe a orchfyga, efe a gaiff dderbyn y peth a ddywedaf.

59Canys hon yw ’r fuchedd am yr hon y dy­wedodd Moses, pan ddaeth efe at y bobl gan ddywedyd, dewis i ti fuchedd i fyw.

60Er hynny ni choeliasant ef na’r prophwydi ar ei ôl ef, na minne ychwaith yr hwn a ddywedais wrthynt,

61Na chai tristwch fod yn ddialedd arnynt, fel y daw llawenydd ar y rhai a dderbyniasant ddysceidiaeth i iechydwriaeth.

62Atebais gan ddywedyd, gwn Arglwydd, mai trugarog y gelwir y Goruchaf, am iddo fod yn drugarog i’r rhai ni ddaethant etto i’r byd,

63Ac yn drugarog wrth y rhai a rodio yn ei gyfraith ef.

64A dioddefgar ydyw efe, am iddo hîr ddioddef i’r rhai a bechasant yn erbyn ei greaduriaid ef.

65A hael yw efe, am iddo roddi lle y byddo rhaid.

66Ac y mae efe yn fawr ei drugaredd, o herwydd mwy yw ei drugaredd ef na’r rhai presennol, a’r rhai a bassiodd, a’r rhai a ddaw.

67Os efe ni’s chwanega ei drugareddau, ni bydd byw y byd a’r rhai sydd yn aros ynddo.

68Hefyd, efe a faddeu, canys oni faddeu efe oi ddaioni, fel yr esmuwythaer ar y rhai a wnaethant ddrwg, ni alle y ddecfed fîl o’r bobl fyw.

69Ac oni bai iddo ef (yr hwn sydd farn-wr) faddeu i’r rhai a iachauwyd drwy ei air ef, a phardynu eu haml ymryson,

70Os gatfydd ychydig iawn a adewid o laweroedd o honynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help