Esay 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Cospedigaeth ar y wlad. 9 Am ddigywilydd-dra y bobl. 14 Chwant y swyddogion. 16 A balchder y gwragedd.

1Canys wele Arglwydd Dduw y lluoedd a dynn ymmaith o Ierusalem, ac o Iuda y cynhaliaeth, a’r cryfder: holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr.

2Y cadarn, a’r rhyfel-wr, y brawd-wr, a’r prophwyd, y synhwyrol, a’r hen-wr.

3Tywysog dêc a deugain, a’r anrhydeddus, y cynghor-wr hefyd, a’r doeth celfydd, a’r araithi-wr hyawdl.

4A rhoddaf langciau yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaethant arnynt.

5Felly y bobl a orthrymmir y naill gan y llall, a phob vn gan ei gyfaill: y bachgen yn erbyn yr hen-wr, a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus a ymfalchiant.

6Canys gŵr a ymeifl yn ei frawd o dŷ ei dâd dillad gennit, tywysog a fŷddi di i ni: fel y cwymp hwn tann dy law di.

7Yntef a dwng yn y dydd hwnnw gan ddywedyd, ni byddaf lywodraeth-wr, canys yn fy nhŷ nid fwyd, na dillad: na osodwch fi yn dywysog iy bobl.

8Canys cwympodd Ierusalem, a syrthiodd Iuda, o herwydd eu tafod hwynt, ai gweithredoedd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.

9Dull eu hwynebau hwynt a destiolaetha yn eu herbyn, eu pechod hefyd fel Sodoma a fynegant ni chelant: gwae eu heneidiau, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain.

10Dywedwch mai da i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt.

11Gwae yr anwir drygionus: fydd iddo; canys taledigaeth ei ddwy-law ei hun a fydd iddo.

12Fy mhobl ai treth-wŷr yn fechgyn: a gwragedd a arglwyddiaethant arnynt: ô fy mhobl y rhai a’th dywysant di gyfeiliorni y maent, a ffordd dy lwybrau a guddiasant.

13Yr Arglwydd sy yn sefyll i ymryson: yr Arglwydd sy yn sefyll i farnu y bobloedd.

14Yr Arglwydd a ddaw mewn barn gyd â henuriaid ei bobl, ai dywysogion: canys chwi a borasoch fyng-winllan, anrhaith y tlawd yn eich tai chwi.

15Beth i chwi a guroch ar fy mhobl? ac a friwoch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd,

16A’r Arglwydd a ddywedodd, o herwydd balchio o ferched Sion, a rhodio â gwddf estynedic, ac yn amneidio ai llygaid: gan rodio a rhygyngu y cerddent, ac y trystient ai traed,

17Am hynny y clafria yr Arglwydd gorynnau merched Sîon: yr Arglwydd hefyd a ddinoetha eu gwarthle hwynt.

18Yn y dydd hwnnw y tynn yr Arglwydd ymmaith addurn yr escidiau, y rhwyd-waith hefyd, a’r lloerawc wiscoedd,

19Y pêr-arogl, a’r breichledau, a’r moledau,

20Y pen-guwch a’r llawdrau, a’r snodennau, a’r dwyfronegau, a’r clust-dlysau,

21Y modrwyau, ac addurn-wisc y trwyn,

22Y gwiscoedd symmud-liw, ai hefysau: y misyrnau hefyd, a’r pyrsau.

23Y drychau hefyd, a’r lliain main-wych y coccwllau hefyd a’r gynau,

24A bydd yn lle per-arogl ddrewi, bydd hefyd yn lle gwregys rwygiad, ac yn lle iawn drefniad foelni, ac yn lle dwyfronnec gwregys o sach-liain: lloscfa yn lle prydferthwch.

25Dy ddynnion a syrthiant drwy’r cleddyf: a’th gadernid drwy ryfel.

26Felly ei phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: ac yn wâg yr eistedd hi ar y ddaiar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help