Esay 52 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. LII.Cyssur i bobl Dduw o gydrycholdeb Crist.

1Deffro, deffro, gwisc dy nerth Sion, gwisc wiscoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Ierusalem: canys ni ddaw ynot mwy ddienwaededic, nac aflan.

2Ymescwyt o’r llŵch, cyfot, eistedd Ierusalem, dattot rwymau dy wddf gaeth-ferch Sion.

3Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, yn rhad i’ch gwerthwys, ac nid ag arian i’ch gwaredir.

4Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, fy mhobl aeth i wared i’r Aipht yn y dechreuad i ymdaith yno: Assur hefyd ai gorthrymmodd yn ddiachos.

5Ac yn awr beth ymma i mi medd yr Arglwydd? canys dygwyd fy mhobl yn rhad, eu llywodraethwŷr a wnant wylo medd yr Arglwydd: a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.

6Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw, am hynny y dydd hwnnw, mai myfi yr hwn sy’n dywedyd: wele fi.

7Morr weddaidd ar y mynyddoedd traed yr hwn sydd yn mynegu yn cyhoeddi heddwch? a’r hwn sydd yn mynegu daioni, yn cyhoeddi iechydwriaeth, yn dywedyd wrth Sion, dy Dduw di sydd yn teyrnasu.

8Llef dy wil-wŷr derchafant lef, cyd-ganant, canys gwelant yn eglur pan ddychwelo’r Arglwydd Sion.

9Bloeddiwch, cyd-genwch diffaethwch Ierusalem, canys y Arglwydd a gyssurodd ei bobl, a waredodd Ierusalem.

10Dioscodd yr Arglwydd fraich ei sancteiddrwydd yng-olwg yr holl genhedloedd, a holl gyrrau’r ddaiar a welant iechydwriaeth ein Duw ni.

11Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffyrddwch a’r halogedic, ewch allan oi chanol, ymlanhewch y rhai a arweiniwch lestri’r Arglwydd.

12Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffô y cerddwch, eithr yr Arglwydd a aiff o’ch blaen chwi, a Duw Israel a’ch cascl chwi.

13Wele fyng-wâs a lwydda, a godir, a dderchefir, ac a fydd vchel iawn.

14Megis y rhyfeddodd llawer wrthit, morr llygredic ei wedd yn anad neb, ai brŷd ef yn anad meibion dynnion:

15Felly y gwascar efe genhedloedd lawer, brenhinoedd a gaeant eu geneu wrtho ef, am weled o honynt yr hyn ni fynegasid iddynt, a deall o honynt yr hyn ni chlywsent.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help