1 Arglwydd, Ierem.10.24.na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd, ac na chosbpa fi yn dy lîd.
2Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi, ô Arglwydd, canys fy escyrn a gystuddiwyd.
3A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithe Arglwydd pa hŷd
4Dychwel Arglwydd, gwaret fy enaid: iachâ fi er mwyn dy drugaredd.
5Canys yn angeu nid goffa am dannat: yn y bêdd pwy a’th fawl?
6Deffygiais gan fy ochain, pob nos yr ydwyf yn gwneuthur fyng-wely yn foddfa: yr ydwyfi’n gwlychu fyng-orweddfa a’m dagrau.
7Tywyllodd fy llygad gan ddigter: heneiddiodd o herwydd fy holl elynnion.
8Ciliwch oddi wrthif holl weithred-wŷr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lêf fy ŵylofain.
9Clybu’r Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fyng-weddi.
10Fy holl elynnion a wradwyddir, ac a drallodir yn ddirfawr: dychwelir, chywilyddir hwynt yn ddisymmwth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
