2.Corinthiaid 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Y mae efe yn eu hannog hwynt i amryw rinweddau rhagorol. 14. Ac yn anad dim i ochelyd ymgymharu a’r rhai anghredadwy.

1 Felly ninnau gan gydweithio ydym yn attolwg i chwi na dderbynioch râs Duw yn ofer

2(Canys medd efe, Esai.49.8.yn amser cymmeradwy i’th wrandewais, ac yn nydd iechydwrieth i’th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iechydwrieth)

3Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, rhag beio ar y weinidogaeth.

4Eithr gan ein gosod ein hun allan ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystadd, mewn angen, ac mewn cyfyngder,

5Mewn gwialennodau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poen, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,

6Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn ymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd glân, mewn cariad diragrith.

7Yng-air y gwirionedd, yn nerth Duw, mewn arfau cyfiawnder ar y llaw ddeheu, ac ar y llaw asswy.

8Mewn parch ac ammarch, mewn clôd, ac anglod, megis twyllwŷr, ac yn gywir,

9Megis anadnabyddus, ac yn adnabyddus, megis yn meirw, ac wele ni yn fyw, megis wedi ein cospi, a heb ein lladd,

10Megis yn dristion, ac etto yn oestad yn llawen: megis yn dlodion, ac etto yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ac atto yn meddiannu pôb peth.

11Oh y Corinthiaid, ein genau a agorwyd i chwi, ein calon a ehangwyd.

12Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr chwi a gyfyngwyd arnoch yn eich ymyscaroedd eich hunain.

13Am yr vn gwobr, megis wrth fy mhlant yr wyf yn dywedyd, ymehengwch chwithau.

14Nac iauer chwi yn anghymharus gyd â’r anffyddlonion; canys pa gymdeithas sydd rhwng cyfiawnder, ac anghyfiawnder? a pha gyfeillach rhwng goleuni a thywyllwch?

15A pha gyssondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i’r credadwy, ac i’r anghredadwy?

16A pha gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eulynnod? 1.Cor.3.16. & 6.19.canys chwi teml y Duw byw: fel y dywedodd Duw, Leuit.26.11.mi a bresswyliaf, ac a rodiaf yn eu mysc hwynt: a mi a fyddaf eu Dduw hwynt, ac hwy a fyddant yn bobl i mi.

17 Esay 52.11. Am hynny deuwch allan o’u plith hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd: ac na chyffyrddwch ddim aflā, yna mi a’ch derbyniaf chwi

18A mi a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwi a fyddwch yn feibion, ac yn ferched i mi: medd yr Arglwydd holl-alluoc.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help