1A Gair yr Arglwydd a daeth attaf gan ddywedyd:
2Prophwyda fab dŷn yn erbyn prophwydi Ezec.14.9.Israel, y rhai ydynt yn prophwydo, a dywet wrth y rhai a brophwydant oi meddwl eu hun, gwrandewch air yr Arglwydd.
3Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae’r prophwydi ynfyd y rhai a rodiant yn ôl eu hyspryd eu hun, ac heb weled
4Dy brophwydi Israel ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.
5Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch gae o amgylch tŷ Israel: i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd.
6Gwagedd, a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, dywedodd yr Arglwydd: a’r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant ddisgwil am gyflawni gair.
7Onid gau weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, yr Arglwydd a ddywedodd, a minnef heb ddywedyd?
8Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: am lefaru o honoch wagedd, a gweled o honoch gelwydd: am hynny wele fi i’ch erbyn medd yr Arglwydd Dduw.
9A bydd fy llaw yn erbyn y prophwydi y rhai ydynt yn gweled gwagedd, ac yn dewino celwydd, yng-hyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn scrifen tŷ Israel ni scrifennir hwynt: i dir Israel hefyd ni ddeuant, fel y gŵybyddant mai myfi yr Arglwydd Dduw.
10O achos, ac o herwydd hudo o honynt fy mhobl gan ddywedyd, heddwch, lle nid heddwch: pan yw hwn yn adailadu mûr, wele hwythau yn ei galchu ef â salwedd.
11A dywet wrth y rhai a galchant â salwedd, y syrth efe: canys cur-law a fydd, a chwithau gerric cenllysc a syrthiwch: a gwynt temhestloedd a rwyga.
12Wele pan syrthio’r mûr, oni ddywedir wrthych? mae’r calch a’r hwn y calchasoch?
13Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, minne a rwygaf â gwynt yspryd temhestloedd yn fy llid, a chur-law fydd yn fy nig: a cherric cenllysc mewn llidiawgrwydd i ddifetha.
14Felly y dinistriaf y mûr yr hwn a galchasoch â salwedd, a tharawaf ef i’r llawr, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.
15Pan orphennwyf fy llid ar y mûr, ac ar y rhai ai calchant â salwedd: yna y dywedaf wrthych: y mûr nid na’r rhai ai calchasant,
16[Sef] prophwydi Israel y rhai a brophwydant am Ierusalem, ac a welant iddi weledigaeth heddwch, pan nad heddwch medd yr Arglwydd Dduw.
17Tithe fâb dŷn gosot dy wyneb yn erbyn merched dy bobl y rhai a brophwydant wrth eu meddwl eu hun: a phrophwyda yn eu herbyn hwynt.
18Dywet hefyd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, gwae y gwniadyddesau clustôgau tann holl elinoedd dwylo fy mhobl, a’r rhai a weithiant foledau am benn pob sefyll-beth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, i gadw yn fyw enioes i chwi?
19A halogwch chwi fi wrth fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dāmeidiau o fara, gan ladd yr eneidiau y rhai ni byddent farw, ac addo enioes i’r rhai ni byddent fyw, gan ddywedyd o honoch gelwydd wrth fy mhobl y rhai a wrandawent gelwydd?
20Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, wele fi at eich clustogau chwi, â’r rhai yr ydych yn hela eneidiau i beri iddynt ehedec, a rhwygaf, hwynt oddi wrth eich breichiau: a gollyngaf yr eneidiau yr eneidiau y rhai yr ydych yn eu hela i beri iddynt ehedeg.
21Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa, fel y gŵypoch mai myfi yr Arglwydd.
22Am dristau calon y cyfiawn drwy gelwydd, a minne heb ei ofidio ef, ac am gadarnhau dwylo’r annuwiol, fel na ddychwele oi ffordd ddrygionus iw fywhau,
23O herwydd hynny, ni welwch wagedd, ac ni ddewinwch ddewiniaeth mwy, canys gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi, fel y gŵypoch mai myfi Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.