1Nid cymmwys i mi yn ddiau orfoleddu: eithr mi a ddeuaf at weledigaethau, a datcuddiedigaethau yr Arglwydd.
2 Act.9.3. Mi a adwaenwn ddyn yng-Hrist, er ys rhagor i bedair blynedd ar ddêc, (pa vn ai yn y corph, ni wn, ai allan o’r corph, ni wn: Duw a ŵyr;) yr hwn a gymmerwyd i fyny hyd y drydedd nef.
3Ie mi a adwaenwn y cyfryw ddyn (pa vn ai yn y corph, ai allan o’r corph ni wn: Duw a ŵyr)
4Ei gymmeryd ef i fynu i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddŷn eu hadrodd.
5Am hynny o beth y gorfoleddaf: ynof fy hun ni orfoleddaf, oddi eithr a’m fyng-gwendid.
6Canys pe gorfoleddwn, ni fyddwn ffôl: canys dywedaf y gwir, eithr mi a arbedaf, rhac i neb fyddylied am danaf vwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn clywed gennif.
7A rhac tra-ymdderchafu o honof gan odidogrwydd y datguddiedigaethau, y rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, im cernodio, rhac tra-ymdderchafu.
8Am y peth hwn mi a attolygais i’r Arglwydd dair gwaith, ar fod iddo ymadael a mi.
9Ac yntef a ddywedodd wrthif, digon i ti fyng-râs i: canys fy nerth i a berffeithir trwy gwendid: yn llawen iawn gan hynny y gorfoleddaf fi yn hytrach yn fyng-wendid, fel y trygo nerth Crist ynof.
10Am hynny yr ymddigrifhâf fi, mewn gwendid, mewn ammarch, mewn angen, mewn erlid, mewn ing er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.
11Ffôl oeddwn orfoleddu: chwychwi a’m gyrrasoch: canys dylaswn gael fyng-hanmol gennych chwi: canys ni mewn dim nid oeddwn yn ôl i’r Apostolion pennaf, er nad wyf ddim.
12Argoelion Apostol a weithredwyd yn eich plith chwi gan fawr ddioddefgarwch, gan arwyddion, a rhyfeddodau, a gwyrthieu.
13Canys ym mha beth yr oeddech chwi yn is nag eglwysi eraill, oddi eithr na fum i ormesol arnoch? madeuwch i mi hyn o gam.
14Wele, y drydedd waith yr wyfi yn barod i ddyfod attoch, ac etto ni byddaf ormesol arnoch, canys ni cheisiaf y pethau sydd eiddoch, ond chwychwi: gan na ddyle y plant gasclu tryssor i’r tadau ond y tadau i’r plant.
15A myfi yn llawenaf oll a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau: er pa fwyaf i’ch caraf, lleiaf i’m cerir.
16Eithr bydded na phwysais i arnoch, ond gan fôd yn gyfrwys, mi a’ch deliais trwy dwyll.
17A gribddeiliais i chwi drwy neb o’r rhai a ddanfonais attoch?
18Mi a ymbiliais a Titus, a chyd ag ef y danfonais y brawd arall: a espeiliodd Titus chwi am ddim o’ch da? oni rodiasant yn yr vnrhyw yspryd, oni cherddasant yn yr vnrhyw lwybrau?
19Drachefn a ydych chwi yn tybied mai ymescusodi yr ydym ni wrthych? yr ydym yn dywedyd ger bron Duw yng-Hrist: a’r cwbl (ô annwylyd) er adeiladaeth i chwi.
20Canys ofni yr wyf rhag pan ddelwyf na’ch caffwyf yn gyfryw rai ac a fynnwn: ac im ceffir finne i chwithau yn gyfryw ac ni fynnech: a rhac bôd yn eich plith ymryson, cenfigen, llid, cynhennau, absennau, athrod, ymchwyddo, terfysc:
21Rhac pan ddelwyf drachefn fôd i’m Duw fy narostwng yn eich plith, a dwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eusus, ac ni chymmerasant edifeirwch am yr aflendid a’r godineb a’r anlladrwydd a wnaethant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.