Numeri 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Trefn y lusernau. 4 Gwaith y canhwyll-bren. 6 Puredigaeth y Lefiaid. 24 Ar ba oedran y caent ddechreu a diweddu eu gwasanaeth.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

2Llefara wrth Aaron a dywet wrtho, pan roddech i fynu y lusernau, llewyrched y saith lusern Exod.25.37.ar gyfer wyneb y canhwyll-bren.

3Ac felly y gwnaeth Aaron, ar gyfer wyneb y canhwyll-bren y goleuodd efe ei lusernau ef megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

4Dymma waith y canhwyll-bren, Exod.25.18.cyfanwaith o aur hyd ei balader hyd ei flodau cyfan-waith fydd, yn ol y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses felly y gweithia efe y canhwyll-bren.

5Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:

6Cymmer y Lefiaid o fysc meibion Israel a phura hwynt.

7Ac fel hyn y gwnei iddynt iw pûro: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned tros eu holl gnawd hwynt, a golchant eu gwiscoedd ac ymlanhânt.

8Yna cymmerant fustach ieuangc, ai fwyd offrwm o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew, a’r ail bustach ieuangc a gymmeri di yn aberth tros bechod.

9A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod, a chynnull holl gynnulleidfa meibion Israel.

10Yna pâr i’r Lefiaid ddyfod ger bron yr Arglwydd, a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid,

11Ac offrymmed Aaron y Lefiaid ger bron yr Arglwydd, yn offrwm o feibion Israel, a byddant hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.

12A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: a pharatoa vn yn bech aberth, a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd i wneuthur iawn tros y Lefiaid.

13Yna gosod y Lefiaid ger bron Aaron, a cher bron ei feibion, ac offrwm di hwynt yn offrwm i’r Arglwydd.

14A nailltua y Lefiaid o blith meibion Israel, a Num.3.41.bydded y Lefiaid eiddofi.

15Wedi hynny deued y Lefiaid i wasanaethu pabell y cyfarfod: a phûra di hwynt, ac offrymma hwynt yn offrwm.

16Canys hwynt a roddwyd yn rhodd Num.3.9.i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pôb crôth pôb cyntafanedic o feibion Israel) y cymmerais hwynt i mi.

17 Exod.13.1. Luc.2.23. Canys i mi pôb cyntafanedic ym mhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y tarewais bôb cyntafanedic yng-wlad yr Aipht y sancteiddiais hwynt i mi fy hûn.

18A chymmerais y Lefiaid yn lle pôb cyntafanedic o feibion Israel.

19A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac iw feibion o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur iawn tros feibion Israel, fel na byddo plâ ar feibion Israel, wrth ddyfod o feibion Israel i’r cyssegr.

20Yna y gwnaeth Moses ac Aaron a holl gynnulleidfa meibion Israel i’r Lefiaid yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.

21A’r Lefiaid a ymburasant, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron ai hoffrymmddd hwynt yn offrwm ger bron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron iawn trostynt iw glanhau.

22Wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, ger bron Aaron ai feibion: megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaeth efe iddynt.

23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

24Dymma yr hynn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac vchod y deuant i filwrio milwriaeth yng-wasanaeth pabell y cyfarfod.

25Ac o fab deng-mlwydd a deugain y caiff vn ddychwelyd yn ei ol o filwriaeth y gwasanaeth fel na wasanaetho mwy.

26Ond gwasanaethed gyd ai frodyr ym mhabell y cyfarfod, i orchwylio: ac na wasanaethed y gwasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu gorchwyliaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help