Exodus 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Dec gorchymyn Duw. 18 Duw yn ymddangos mewn mellt i beri ei ofni. 23 Duw yn gwahardd delwau. 24 portreiad yr allor.

1A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn gan ddywedyd.

2Myfi yr Arglwydd dy Dduw: yr hwn a’th ddygais di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

3Na fydded it dduwiau eraill ger fy mrō i.

4Na wna it ddelw gerfiedic, na llun dim a’r yn y nefoedd oddi vchod, nac a’r y yn y ddaiar oddi isod: nac a’r yn y dwfr oddi tann y ddaiar.

5Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: o blegit myfi yr Arglwydd dy Dduw[ydwyf] Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd o’r rhai a’m casânt.

6Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd: o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fyng-orchymynnion.

7Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.

8Cofia y dydd Sabboth iw sancteiddio ef.

9Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith.

10Onid y seithfed dydd Sabboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ddim gwaith, tydi na’th fab, na’th ferch, na’th wâsanaethwr nath wasanaeth-ferch, na’th anifail, na’th ddieithr-ddyn a fyddo o fewn dy byrth.

11O herwydd chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd, ar ddaiar, y môr, a’r hyn oll ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth, ac ai sancteiddiodd ef.

12Anrhydedda dy dad a’th fam: fel yr estynno dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

13Na ladd.

14Na wna odineb.

15Na ledratta.

16Na ddwg gamm destiolaeth yn erbyn dy gymmydog.

17Na chwennych dŷ dy gymydog: na chwennych wraig dy gymydog, nai wasanaethwr, nai wasanaeth ferch, na’i ŷch, nai assyn, na dim ar eiddo dy gymydog.

18A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr udcorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl yna y ciliasant, a safasant o hîr-bell.

19A dywedasant wrth Moses, llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhac i ni farw.

20Yna y dywedodd Moses wrth y bobl, nac ofnwch o herwydd ich profi chwi y daeth Duw: ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

21A safodd y bobl o hirbell: a nessaodd Moses i’r cwmmwl lle Duw.

22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, fel hyn y dywedi wrth feibion Israel: chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthich.

23Na wnewch gyd a mi na wnewch i chwi dduwiau arian, na duwiau aur.

24Gwna di i mi Exod.27.8.allor bridd, ac abertha arni dy boeth offrymmau, a’th ebyrth hedd, dy ddefaid, a’th eidionnau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf attat, ac i’th fendithiaf.

25Ond os gwnei i mi allor gerric Deut.27.5. Iosu.8.31.na nâdd y rhai hynny: pan gottech dy forthwyl arni ti ai halogaist.

26Ac na ddos i fynu ar hyd grissiau i’m hallor: fel nad amlyger dy noethni wrthi hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help