1Yna Iosuah a gyfododd yn forau, a chychwnnasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: a lleteuasant yno cynn iddynt fyned trosodd.
2Ac ym mhen y tri-diau y llywiawdwŷr drammwyasant drwy ganol y llu.
3A gorchymynnasant i’r bobl gan ddywedyd, pan weloch chwi Arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw a’r Lefiadaidd offeiriaid yn ei dwyn hi: yna cychwnnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hol hi.
4Etto bydded faith rhyngoch chwi a hithe yng-hylch dwy-fil o gufyddau wrth fesur: na nessewch atti fel y gwypoch y ffordd yr hon y rhodioch ynddi, canys ni thrammwyasoch y ffordd o’r blaen.
5Ac Iosuah a ddywedodd wrth y bobl Lefit.10.7. num.11.18.|NUM 11:8. 1.sam.16.5.|1SA 16:5. iosua 7.13.ymsancteiddiwch: canys y foru y gwna’r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysc chwi.
6Iosuah hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid gan ddywedyd, cymmerwch Arch y cyfammod, ac ewch trosodd o flaen y bobl: felly hwynt a gymmerasant Arch y cyfammod ac a aethant o flaen y bobl.
7Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Iosuah, y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng-ŵydd holl Israel: fel y gwypant mai megis y bum Iosua.1.5.gyd a Moses y byddaf gyd a thithe.
8Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid y rhai ydynt yn dwyn Arch y cyfammod gan ddywedyd: pan ddeloch hyd gwrr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.
9Yna Iosuah a ddywedodd wrth feibion Israel: nessewch ymma, a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw.
10Iosuah hefyd a ddywedodd, yn hyn y cewch ŵybod fod y Duw byw yn eich mysc chwi: a chan orescyn y gorescyn efe y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Pheriziaid, a’r Gergasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Iebusiaid o’ch blaen chwi.
11Wele Arch cyfammod Arglwydd yr holl fyd yn myned o’ch blaen chwi trwy’r Iorddonen.
12Gan hynny cymmerwch yn awr ddeuddeng-ŵr o lwythau Israel: vn gŵr o bôb llwyth.
13A phan orphywyso gwadnau traed yr offeiriaid (y rhai ydynt yn dwyn Arch Arglwydd Iôr yr holl fyd) yn nyfroedd yr Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a holltir, y dyfr oedd y rhai ydynt yn descyn oddi vchod Psal.114.3.ac a safant yn vn pen-twr.
14Pan gychwnnodd y bobl oi pabellau i fyned tros yr Iorddonen: yna yr offeiriaid oeddynt yn dwyn Act.7.45.Arch y cyfammod o flaen y bobl.
15A phan ddaeth y rhai oeddynt yn dwyn yr Arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed (yr offeiriaid y rhai oeddynt yn dwyn yr Arch) yng-hwrr y dyfroedd (a’r 1.Cron.12.15. eccles.24.30.Iorddonen oedd arferol o lenwi dros ei thorlannau ei gyd holl ddyddiau y cynhaiaf)
16Yna y dyfroedd y rhai oeddynt yn descyn oddi vchod a safasant, cyfodasant yn vn pentwrr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam yr hon o ystlys Zarthan a’r y rhai oeddynt yn descyn i fôr y rhôs i’r môr heli a ddarfuant, ac a dorrwyd ymmaith: felly y bobl a aethant trosodd ar gyfer Iericho.
17A’r offeiriaid y rhai oeddynt yn dwyn Arch cyfammod yr Arglwydd a safasant mewn sychder yng-hanol yr Iorddonen yn daclus: a holl Israel oeddynt yn myned trosodd mewn sychder nes darfod i’r holl genedl dreiddio yr Iorddonen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.