Numeri 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.Yr Arglwydd yn gorchymyn rhoi trefi a thir i’r Lefiaid: 6 a bod rhai o’r trefi hynny yn noddfâu, ac yn dangos beth a wneir i’r llawrudiog, sef yr hwn a laddo ddyn: a pha destiolaeth a gymmeryr iw erbyn.

1A llefarodd yr Arglwyd wrth Moses, yn rhossydd Moab, am yr Iorddonen ag Iericho gan ddywedyd:

2Gorchymyn i feibion Israel * roddi o honynt i’r Lefiaid o etifeddiaeth eu meddiant ddinasoedd i drigo: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd oi hamgylch.

3A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ai pentrefol feusydd fyddant iw hanifeiliaid, ac iw cyfoeth, ac iw holl fwyst-filod.

4A meusydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid o fur y ddinas tu ac allan, fil o gufyddau o amgylch.

5A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, odu’r dwyrain yn ddwy fil o gufyddau, a thu’r dehau yn ddwy fil o gufyddau, a thu’r gorllewyn yn ddwy fil o gufyddau, a thu’r gogled yn ddwy fil o gufyddau: a’r ddinas yn y canol, hyn fydd iddynt yn feusydd pentrefol y dinasoedd.

6Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, Deut.4.41. Iosua 20.2.|JOS 20:2. Exod.21.13.|EXO 21:13. Deut 19.2.chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch fel y gallo y llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain attynt hwy.

7Yr holl ddinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid wyth ddinas a deugain, hwynt ai pentrefol feusydd.

8A’r dinassoedd y rhai a roddwch o feddiant meibion Israel, oddi ar yr aml y rhoddwch yn aml, ac oddi ar y prin y rhoddwch yn brin, pob vn yn ôl ei etifeddiaeth, yr hon a etifeddant a rydd i’r Lefiaid oi ddinasoedd.

9A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

10Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt, pan eloch tros yr Iorddonen, i dîr Canaan,

11Yna gosodwch i chwi ddinasoedd: dinasoedd noddfa fyddant i chwi, ac yno y ffŷ y llawruddiog yr hwn a laddo ddyn mewn amryfusedd.

12A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhac y dialudd: fel na ladder y llawruddiog hyd oni safo ger bron y gynnulleidfa mewn barn.

13Ac dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fyddant i chwi yn ddinasoedd noddfa.

14Tair dinas a roddwch o’r tu ymma i’r Iorddonen; a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

15I feibion Israel, ac i’r dieithr, ac i’r alltudd yn eich mysc, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa: fel y gallo pob vn a laddo ddyn meŵn amryfusedd ffoi yno.

16Ac Exod.21.14.os ag offer yn haiarn y tarawodd ef fel y bu farw, llawruddiog yw efe: ladder y llawruddiog yn farw.

17Ac os a charrec law yr hon y bydde efe farw oi phlegit, y tarawodd ef, ai farw, llawruddiog yw efe lladder y llawruddiog yn farw.

18Neu os efe ai tarawdd ef a llaw-ffon yr hon y bydde efe farw oi phlegit, ai farw, llawruddiog yw efe, lladder y llawruddiog yn farw.

19Dialudd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, lladded ef.

20Ac os Deut.19.11.mewn câs y gwthia efe ef, neu y teifl atto mewn bwriad, fel y byddo efe farw.

21Neu ei daro ef ai law mewn gelynastra fel y byddo farw, ladder yn farw yr hwn ai tarawodd, llofrudd yw hwnnw: dialudd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.

22Ond Exod.21.13.os yn ddisymmwth heb gâs y gwthia efe, neu y teifl atto vn offeryn yn ddifwriad:

23Neu a charrec yr hon y bydde efe farw oi phlegit heb weled: a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb ddwyn câs iddo, ac heb geisio niwed iddo ef:

24Yna barned y gynnulleidfa rhwng y tarawudd, a dialudd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.

25Ac achubed y gynnulleidfa y llofrudd, o law dialudd y gwaed, a throed y gynnulleidfa ef i ddinas ei noddfa yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntef ynddi hyd farwolaeth yr arch-offeiriad, yr hwn a eneiniwyd ag olew cyssegredic.

26Ac os y llofrudd gan fyned a aiff allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffôdd efe iddi:

27Ai gael o ddialudd y gwaed oddi allan i ddinas ei noddfa, a lladd o ddialudd y gwaed y llofrudd, na gwaed yn ei erbyn:

28Canys o fewn dinas ei noddfa y trig hyd farwolaeth yr arch-offeiriad, ac wedi marwolaeth yr arch-offeiriad, dychweled y llofrudd i dîr ei etifeddiaeth.

29A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedic drwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau.

30Pwy bynnac a laddo ddyn, wrth a Deut.17.6. Deut.19.15. Math.18.16. 2.Cor.13.1.ddywedo tystion y lladd efe y llofrudd: ac vn tŷst ni chaiff destiolaethu yn erbyn dŷn i farw o honaw.

31Hefyd na chymmerwch iawn am enioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw, ond lladder ef yn farw.

32Ac na chymmerwch iawn gan yr hwn a ffôdd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tîr, hyd farwolaeth yr offeiriad.

33Fel na halogoch y tîr yr hwn chwi ynddo, canys y gwaed hwn a haloga y tîr, a thros y tîr ni wneir iawn am y gwaed a dy welltir arno, ond a gwaed yr hwn ai tywalltodd.

34Am hynny nac aflanhâ y tîr yr hwn yr ydych yn trigo ynddo, yr hwn yr ydwyfi yn presswylio yn ei ganol: canys myfi’r Arglwydd ydwyf yn presswylio yng-hanol meibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help