1Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Aethiop, yr hon a gymmerase efe: canys efe a gymmerase Aethiopes yn wraig
2A dywedasant, ai yn vnic trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd trwom ninnau hefyd? a’r Arglwydd a glybu
3A’r gwr Moses larieiddiaf or holl ddynion y rhai ar wyneb y ddaiar.
4A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymmwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod, felly hwynt a aethant allan ill trioedd.
5Yna y descynnodd yr Arglwydd mewn colofn o niwl, ac a safodd ddrws y babell ac a alwodd am Aaron a Miriam, ac aethant allan ill dau.
6Ac efe a ddywedodd, gwrandewch yr awr hon fyng-eiriau, os bydd prophwyd yr Arglwydd yn eich mysc mewn gweledigaeth yr ym hysbyssaf iddo, mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.
7Nid felly fyng-was Moses ffyddlon yw efe yn fy holl dŷ.
8 Exodd.33.11. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho gweledigaeth, nid mewn dammegion, onid caiff edrych a’r wedd yr Arglwydd: pa ham gan hynny nad ofnech ddywedyd yn erbyn fyng-wâs yn erbyn Moses?
9Digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt, ac efe a aeth ymmaith.
10A’r niwl a ymadawodd oddi ar y babell ac wele Miriam wahan-glwyfus, fel eira: ac edrychodd Aaron ar Miriam, ac wele hi yn wahan-glwyfus.
11Yna y dywedodd Aaron wrth Moses wrthif fy arglwydd attolwg na osot ti yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, yr hwn y pechasom.
12Na fydded hi attolwg fel vn marw yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa, pan ddel allan o groth ei fam.
13Yna Moses a waeddodd ar yr Arglwydd gan ddywedyd: ô Duw attolwg meddiginiaetha hi’r awr hon.
14A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, os ei thâd a boere boerin yn ei hwyneb, oni chywilyddie hi saith niwrnod? Lefit.13.46.caier arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwerssyll, ac wediderbynnier hi.
15A chaewyd ar Miriam o’r tû allan i’r gwerssyll saith niwrnod, a’r bobl ni chychwnnodd, hyd oni ddaeth Miriam yng-hyd a hwynt.
16Ac wedi hynny y cychwnnodd y bobl o Hazeroth, Num.33.18.ac a werssyllasant yn anialwch Pharan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
