1Yna yr holl gynnulleidfa a dderchafodd ac a roddodd ei llef, a’r bobl a ŵylasant ar hyd y nôs honno.
2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, a’r holl gynnulleidfa, a ddywedasant wrthynt, ô na buasem feirw yn nhir yr Aipht, neu ô na buasem feirw yn y diffaethwch hwn.
3A pha ham y mae’r Arglwidd yn ein dwyn ni i’r tir hwn i gwympo ar y cleddyf? ein 61 gwraged a’n plant fyddant yn yspail: onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aipht?
4A dywedasant bob vn wrth ei gilydd, gosodwn ben[arnom,] a dychwelwn i’r Aipht.
5Yna y syrthiodd Moses ac Aaron a’r eu hwynebau ger bron holl gynnulleidfa tyrfa meibion Israel.
6 Eccle 46.9.|SIR 46:9. 1.Mac.2.56. Iosuah hefyd mab Nun a Chaleb mab Iephun o spiwyr y tîr a rwygasant eu dillad.
7Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd: y tîr yr hwn yr aethom trosto iw chwilio dîr da odieth.
8Os yr Arglwydd fydd bodlon i ni, yna efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac ai rhydd i ni y tîr yr hwn sydd yn llifeirio o laeth a mêl.
9Yn vnic na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tîr, canys ein bwyd ni ydynt: ciliodd eu hamddeffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd gyd a ni, nac ofnwch hwynt.
10Yna yr holl dorf a amcanasant eu llabyddio hwynt a meini, a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, pa hŷd y dirmyga y bobl ymma fyfi? a pha hŷd ni chredant i mi? am yr holl arwyddion, y rhai a wneuthum yn eu plith.
12Tarawaf hwynt a haint, a gorescynnaf hwynt, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt.
13Yna y dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Exod.32.12.felly yr Aiphtiaid a glywent (canys oi mysc hwynt y dygaist y bobl ymma i fynu yn dy nerth. )
14A a ddywedant i bresswylwyr y tîr hwn: (canys clywsant mai tydi Arglwydd sydd ym mysc y bobl ymma, ac mai ti Arglwyd syd yn ymddangos wyneb yn wyneb, a bod dy niwl di yn aros arnynt, Exod.13.21.a’th fod ti yn myned oi blaen hwynt mewn colofn niwl y dydd, ac mewn colofn dân y nôs. )
15Pan leddech y bobl ymma fel vn gŵr, yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn am danat gan ddywedyd:
16O eissie Deut.9.28.gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl ymma i’r tîr yr hwn trwy lŵ a addawse efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffaethwch.
17Yr awr hon gan hynny mawrhaer attolwg nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist gan ddywedyd.
18Yr Arglwydd Exod.34.6. psal.103.8.hwyrfrydic i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe Deut.5.9. Exod.20.5. & 34.7. Iere.22.18.ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd
19Madde attolwg anwiredd y bobl ymma, yn ôl dy fawr drugaredd megis y maddeuaist i’r bobl hynn o’r Aipht hyd ymma.
20Yna y dywedodd yr Arglwydd, maddeuais yn ôl dy air.
21Er hynny byw wyfi, a’r holl dîr a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.
22Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fyng-ogoniant am harwyddion y rhai a wneuthum yn yr Aipht, ac yn y diffaethwch, ac a’m temptiasant fi y ddeng-waith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais.
23Ni welant y tîr yr hwn trwy lw a addewais iw tadau hwynt, sef y rhai oll am dirmygasant nis gwelant ef.
24Ond fyng was Iosua 14.8.Caleb am fod yspryt arall gyd ag ef, ac iddo fyng-hyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tîr yr hwn y daeth iddo, ai hâd ai hetifedda ef.
25Ond y mae yr Amaleciaid a’r Cananeaid yn trigo yn y dyffryn: y foru dychwelwch ac ewch i’r diffaethwch ffordd y môr coch.
26Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd.
27 Psal.106.26. Pa hŷd ar y gynnulleidfa ddrygionus hon, yr hon sydd yn tuchan i’m herbyn? y gwrandawaf duchan meibion Israel y rhai ydynt yn tuchan i’m herbyn?
28Dywet wrthynt Num.32.10.[nid] byw fi medd yr Arglwydd onid fel y llefarasoch yn fyng-hlustiau felly y gwnaf i chwi.
29* Yn y diffaethwch hwn y cwymp eich celaneddau, a’ch holl rifedigion drwy eich holl rif, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn.
30Ni ddeuwch chwi i’r tîr yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi bresswylio ynddo, ond Caleb mab Iephun, ac Iosuah mab Nun.
31Ond Deut.1.39.eich plant chwi y rhai y dywedasoch y byddent yn yspail, hwynt a ddygaf a chânt adnabod y tîr yr hwn a ddirmegasoch.
32A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffaethwch hwn.
33A’ch meibion chwi fyddant fugeiliaid yn y diffaethwch ddeugain mhlynedd, ac a ddygant eich putteindra chwi nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffaethwch.
34Yn ôl rhifedi y dyddiau y chwiliasoch y tîr, deugain niwrnod, pob diwrnod am flwyddyn y dygwch eich anwireddau, deugain mlhynedd: a chewch adnabod fyn-nhor gair maufi.
35Myfi yr Arglwydd a lefarais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus ymma, y rhai ydynt wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y ddiffaethwch hwn y darfyddant ac yno y byddant feirw.
36A’r dynion y rhai a anfonodd Moses i chwilio y tîr, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, pan ddychwelasant gan rodd allan anair am y tir.
37Y dynion y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tîr a Heb 3.10.|HEB 3:10. 1 Cor 10.10.fyddant feirw o’r plâ ger bron yr Arglwydd.
38Ond Iosuah mab Nun, a Chaleb mab Iephun a fyddant fyw o’r gwyr hyn, y rhai a aethant i chwilio y tîr.
39A Moses a lefarodd yr holl eiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl fuant drist odieth.
40A Deut.1.41.chodasant yn foreu i fyned i ben y mynydd gan ddywedyd, wele ni, ac ni awn i fynu i’r lle yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom.
41A dywedodd Moses, pa ham yr ydych fel hyn yn trosseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.
42Nac ewch i fynu: canys nid yr Arglwydd yn eich plith: rhac eich taro o flaen eich gelynion.
43Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyd a chwi.
44Etto ymegniasant i fyned i ben y mynydd: ond Arch cyfammod yr Arglwydd a Moses ni symudasant o ganol y gwerssyll.
45Yna y descynnodd yr Amaleciaid ar Canaaneaid y rhai oeddynt yn presswylio yn y mynydd hwnnw, ac ai tarawsant, Deut.1.44.ac ai coethasant hyd Horma.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.