Genesis 42 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLII.Brodyr Ioseph yn dyfod ’ir Aipht i brynnu yd. 7 Ioseph yn eu hadnabod, ac yn eu holi hwynt. 24 yn rhoddi Simeon yng-harchar. 25 yn peri rhoi arian pob vn o honynt yn ei sachau hwynt. 26 Hwythau yn cychwyn a dref at eu tad i gyrchu Beniamin.

1Pan welodd Iacob fod ŷd yn yr Aipht, yna y dywedodd Iacob wrth ei feibion, pa ham yr edrychwch ar eich gilydd?

2Dywedodd hefyd, wele clywais fod ŷd yn yr Aipht, ewch i wared yno, a phrynnwch i ni oddi yno, fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

3Yna Act.7.12. Gen.37.5.dêc o frodyr Ioseph a aethant i wared i brynnu ŷd o’r Aipht.

4Ond ni ollynge Iacob Beniamin brawd Ioseph gyd ai frodyr: o blegit eb efe, rhac digwyddo angau iddo ef.

5Felly meibion Israel a ddaethant i brynnu ym mhlith y rhai oeddynt yn dyfod: o blegit yr ydoedd y newyn trwy wlad Canaan.

6Ac Ioseph oedd yr hwn oedd lywydd ar y wlad oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlâd: felly brodyr Ioseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef hwynebau.

7Yna Ioseph a ganfu ei frodyr, ac ai hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a ymddiddanodd a hwynt yn galed, ac a ddywedodd wrthynt hwy, o ba le y daethoch? hwythau a attebasant, o wlâd Canaan, i brynnu llyniaeth.

8Ac Ioseph oedd yn adnabod ei frodyr, ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

9Ioseph wrth hynny a gofiodd ei freuddwydion, yr rhai a freuddwydiase ef ’am danynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt: spiwyr chwi; i edrych noethder y wlâd y daethoch.

10Hwythau a ddywedasant wrtho ef, nage fy arglwydd: ond dy weision a ddaethant i brynnu llyniaeth.

11Nyni oll feibion vn gŵr: inion ni: nid yw dy weision di spiwyr.

12Yntef a ddywedodd wrthynt hwy, nage onid i edrych noethder y wlâd y daethoch.

13Hwythau a ddywedasant, dy weision di ddeuddeng mhrodyr: ny ni feibion vn gŵr yng-wlâd Canaan: ac wele yr ieuangaf heddyw gyd a’n tâd ni, a’r llall nid yw

14Yna Ioseph a ddywedodd wrthynt, dymma yr hynn a adroddais wrthych, gan ddywedyd: spiwir chwi.

15Wrth hyn i’ch profir: enioes Pharao os ewch allan oddi ymma, onid drwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf ymma.

16Hebryngwch vn o honoch, i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwitheu, fel y profer eich geiriau chwi, a gwirionedd ynoch: o blegit onid (myn enioes Pharao) spiwŷr yn ddiau chwi.

17Felly efe ai rhoddodd hwynt i gyd yng-harchar dridiau.

18Ac yn y trydydd dydd y ddywedodd Ioseph wrthynt, gwnewch hyn fel y byddôch fyw, ofni Duw ’r wyf fi.

19Os inion chwi, rhwymer vn brawd i chwi yn eich carchardŷ: ac ewch chwitheu, dygwch ŷd newyn i’ch tylwyth.

20A Gen.45.5.dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddoch feirw: hwythau a wnaethant felly.

21Ac a ddywedasant bôb vn wrth ei gilydd diau bechu o honom yn erbyn ein brawd: o blegit gweled a wnaethom gyfyngdra ei galon ef, pan ymbiliodd efe ani, ac nis gwrandawsom ef: ’am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnō ni.

22A Gen.37.21.Ruben ai hattebôdd hwynt gan ddywedyd, oni ddywedais wrthych gan ddywedyd: na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech, wele am hynny ynte y gofynnir ei waed ef.

23Ac nis gwyddynt hwy fod Ioseph yn clywed: ’am cyfiaithudd rhyngddynt.

24Yntef a ddychwelodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwel attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth oi mysc hwynt Simeon, ac ai rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25Ioseph hefyd a orchymynnodd lenwi o honynt eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi trachefn arian pôb vn hwy yn ei sach ef, a rhoddi bwyd iddynt iw fwytta ar y ffordd, ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

26Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hassynod hwynt, ac a aethant oddi yno.

27Ac vn a agorodd ei sach ar fedr rhoddi ebran iw assyn yn y llettŷ ac a ganfu ei arian, canys wele hwynt yng-enau ei ffetan.

28Ac a ddywedodd wrth ei frodyr rhoddwyd adref fy arian, ac wele hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwynt, ac a ddychrynnasant gan ddywedyd bawb wrth ei gilydd: pa ham y gwnaeth Duw ini hyn?

29Felly y daethant at Iacob eu tâd hwynt, i wlâd Canaan, ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau hwynt, gan ddywedyd.

30Dywedodd y gŵr arglwydd y wlâd wrthym ni yn galed: ac a’n rhoddodd ni fel spiwyr y wlâd.

31Ninnau a ddywedasom wrtho ef ni yn inion: nid spiwyr ydym.

32Deuddec o frodyr ni, meibion ein tâd ni: vn nid yw ac yr ieuangaf heddyw gyd a’n tâd ni yng-wlâd Canaan.

33Yna y dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlâd wrthym ni: wrth hyn y caf wybod mai inion chwi, gedwch gyd a myfi vn o’ch brodyr chwi, a chymerwch newyn eich teuluoedd, ac ewch ymmaith.

34A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi fel y gwybyddwyf nad spiwyr chwi, onid chwi’n inion: y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta trwy’r wlâd.

35Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau hwynt: yna wele goded arian pôb vn yn ei sâch: a phan welsant y codeidiau arian, hwynt ai tâd a ofnasant.

36Yna Iacob eu tâd hwynt a ddywedodd wrthynt hwy, diblantasoch fi: Ioseph nid yw a Simeō yntef nid a Bēiamin a ddygech ymmaith, yn fy erbyn y mae hyn oll.

37Yna y dywedodd Ruben wrth ei dâd, gan ddywedyd: cei ladd fy nau fâb i, oni ddygaf ef trachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi ai dygaf ef attat ti eilwaith.

38Yntef a ddywedodd, nid aiff fy mâb i wared gyd a chwy, o blegit bu farw ei frawd, ac yntef a adawyd ei hunan: pe digwydde iddo ef farwolaeth ar y ffordd, yr hon yr ewch rhyd-ddi, yna chwi a barech im pen-wynni ddescyn i’r bedd mewn gofid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help