Psalmau 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. xviij.Diligam te Domine.At y pen-cerdd Psalm Dafydd gwâs yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynnion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

1 Caraf di, Arglwydd fyng-hadernid.

2 2.Sam.22.2. Yr Arglwydd yw fyng-hraig, a’m hamddeffynfa, a’m gwaredudd, fy Nuw fyng-hadernid, ynddo ef Hebr.2.13.yr ymddyriedaf: fy nharian, a chorn fy iechydwriaeth, a’m noddfa.

3Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i’m cedwir rhag fyng-elynnion.

4Gofidion angau a’m cylchynâsant: ac afonydd y fall a’m dychrynnâsant i.

5Gofidion vffern a’m gogylchynâsant: maglau angeu a achubasant fy mlaen.

6Yn fyng-hyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef oi Deml, a’m gwaedd ger ei fron ef a ddaeth iw glustiau ef.

7Yna y cynhyrfodd, ac y crynodd y ddaiar, a seiliau y mynyddoedd a gyffroâsant: ac a ymsiglâsant, am iddo ef ddigio.

8Derchafodd mŵg oi ffroenau, a thân a yssodd oi enau ef: glô a enynnâsant ganddo ef.

9Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddescynnodd: a thywyllwch tann ei draed ef.

10Marchogodd efe hefyd ar y Cerub, ac a ehedodd: îe efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.

11Efe a osododd y tywyllwch yn ddirgelfa iddo ef, babell oi amgylch: tywyllwch y dyfroedd, chwmylau yr awyr.

12Gan y discleirdeb ger ei fron ef, cwmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor tanllyd.

13Yr Arglwydd hefyd a darânodd yn y nefoedd: a’r Goruchaf a roddes ei lef: cenllysc a marwor tanllyd.

14Anfonodd hefyd ei saethau, a gwascârodd hwynt: amlhâodd hefyd fellt, a dinistriodd hwynt.

15Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y bŷd a ddinoethwyd gan dy gerydd di ô Arglwydd, chan chwythad anadl dy ffroenau di.

16Anfonodd oddi vchod, cymmerodd fi, thynnodd fi o ddyfroedd lawer.

17Efe a’m gwaredodd oddi wrth fyng-elyn cadarn, a rhag fyng-haseion: canys y maent yn drech nâ mi.

18Achubâsant fy mlaen yn nydd fyng-ofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.

19Dûg fi i ehangder, gwaredodd fi: canys ymhoffodd ynof.

20Yr Arglwydd a’m gobrwya yn ôl fyng-hyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y tâl efe:

21Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni wneuthum yn annuwiol yn erbyn fy Nuw.

22O herwydd ei holl farnedigaethau ef ger fy mron i: ai ddeddfau ni fwriais oddi wrthif.

23Bum hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymgedwais rhag fy anwiredd.

24A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fyng-hyfiawnder: yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.

25A’r 2.Sam.22.26.trugarog y gwnei drugaredd: â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.

26A’r glân, y gwnei lendid: ac a’r cyndyn yr ymgyndynni.

27Canys ti a warêdi y bobl gystuddiedic: a ostyngi olygon vchel.

28O herwydd ti a oleui fyng-hānwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29O blegit ynot ti y rhedaf trwy fyddin: îe yn fy Nuw y llammaf dros fûr.

30Duw berffaith ei ffordd, gair yr Arglwydd sydd buredic: tarian yw efe i bawb a ymddyriedant ynddo.

31Canys pwy Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy graig eithr ein Duw ni.

32Duw a’m gwregyssodd â nerth: ac a roddes fy ffordd yn berffaith.

33Gosod y mae efe fy nhraed fel ewigod: ac ar fy vchel-fannau i’m sefydlodd.

34Efe sy yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllid bŵa dûr fy mreichiau.

35Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechydwriaeth, a’th ddeheu-law a’m cynhaliodd: a’th fwynder a’m lluosogodd.

36Ehengaist fyng-herddediad tanaf: fel na lithrodd fy sodlau.

37Erlidiais fyng-elynnion, ac ai goddiweddais: ac ni ddychwelais nes i mi eu difa hwynt.

38Archollais hwy fel na allent sefyll: syrthiasant dann fy nhraed.

39Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: cwympaist tanaf y rhai a ymgododd i’m herbyn.

40Rhoddaist hefyd i mi warrau fyng-elynnion: fel y difethwn fyng-haseion.

41Gwaeddâsant, ac nid achubudd: ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt.

42Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gwynt: melais hwynt megis pridd yr heolydd.

43Gwarêdaist fi rhag cynhennau y bobl, gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl ni’s adnabum a’m gwasanaethent.

44Pan glywant, gwrandawant arnaf: meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.

45Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynant oi carchârau.

46Byw fyddo’r Arglwydd, a bendithier fyng-hraig: a derchafer Duw fy iechydwriaeth.

47Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial: ac a dywys y bobloedd tanaf fi.

48Fyng-waredudd oddi wrth fyng-elynnion canys ti a’m derchefaist hefyd oddi wrth y rhai a gyfodent i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.

49Am hynny Rhuf.15.9.y moliannaf di ô Arglwydd ym mhlith y cenhedloedd: ac y cânaf i’th enw.

50Efe sydd yn mawrhau iechydwriaeth ei frenin, ac yn gwneuthur trugâredd iw eneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help