1A’r bobl fel tuchanwyr oeddynt flîn yng-hlustiau yr Arglwydd, a chlywodd yr Arglwydd hyn, ai ddig a enynnodd, a thân yr Arglwydd a gynneuodd yn eu mysc hwynt, ac a yssodd gwrr y gwerssyll.
2Yna y llefodd y bobl ar Moses, a gweddiodd Moses ar yr Arglwydd, a diffoddodd y tân.
3Ac a alwodd henw y lle hwnnw Taberah: am gynneu o dân yr Arglwydd yn eu mysc.
4A’r Exod.12.38.dorf yr hon yn eu mysc a flyssiasant yn ddirfawr, a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, a ŵylasant, ac a ddywedasant, pwy a’n portha ni a chîg?
5Cof yw gennym y pyscod y rhai a fwyttawsom yn yr Aipht yn rhad, y cucumerau, ar pompionau, a’r cennyn, a’r winiwn, a’r garllec.
6Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond Manna yn ein golwg.
7A’r Manna hwnnw oedd Exod.16.31. Psal.78.24. Ioan.6.31.fel hâd coriander, ai liw fel lliw Bdeliwm.
8Y bobl a aethant o amgylch ac casclasant, ac malâsant mewn melinau, neu ai curasant a gyrdd, ac berwasant mewn peiriau ac gwnaethant yn deissennau: ai flâs ydoedd fel blâs o olew îr.
9A phan ddiscynne y gwlith y nôs ar y gwerssyll, discynne y Manna gyd ag ef.
10A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, pob vn yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr, a drwg oedd gan Moses.
11Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, pa ham y drygaist dy wâs? a pha ham na chawn ffafr yn dy olwg wrth roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
12Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi ai hescorais, pan ddywedech wrthif, dwg hwynt yn dy fynwes (megis y dwg tad-maeth y plentyn sugno) i’r tîr yr hwn a addewaist trwy lŵ i’n tadau?
13O ba le i mi gîg iw roddi i’r holl bobl hynn? canys ŵylo y maent wrthif gan ddywedyd: dod i ni gîg iw fwytta.
14Ni allafi fy hunan arwain yr holl bobl hynn, canys rhy-drwm ydynt i mi.
15Ac os felly y gwnei i mi attolwg gan ladd lladd fi, os cefais ffafor yn dy olwg di: fel na welwyf fy nryg-fyd.
16Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cascl i mi ddeng wr a thrugain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn hênuriaid y bobl, ac yn swyddogion iddynt, a chymmer hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyd a thi.
17Canys descynnaf a llefaraf wrthit yno, ac mi a attaliaf o’r yspryt yr hwn sydd arnat, ac ai gosodaf arnynt hwy, felly y dygant gyd a thi faich y bobl, fel na ddygech di yn vnic.
18Am hynny dywet wrth y bobl ymsaincteiddiwch 60 erbyn y foru, a chewch fwytta cîg: canys wylasoch yng-hlustiau yr Arglwydd gan ddywedyd: pwy a ddyru i ni gîg iw fwytta? canys yn dda arnom yn yr Aipht: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gîg, a bwyttewch.
19Nid vn dydd y bwyttewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid dec diwrnod ac nid vgain diwrnod.
20[Ond] hyd fîs o ddyddiau, hyd oni ddel allan o’ch ffroenau, ai fod yn ffieidd-beth i chwi, am i chwi ddirmygu yr Arglwydd yr hwn yn eich plith, ac ŵylo o honoch yn ei wydd ef, gan ddywedyd: pa ham y daethom ymma o’r Aipht?
21A dywedodd Moses chwe chant mil o wyr traed y bobl y rhai yr ydwyf fi yn eu plith: a thi a ddywedi rhoddaf gîg iddynt iw fwytta fis o ddyddiau.
22Ai defaid a gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysc y môr a gesclir iddynt fel y byddo digon iddynt?
23Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Esai.50.2.|ISA 50:2. Esai.59.1.ai llaw yr Arglwydd a gwttogwyd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fyng-air it, ai na
24A Moses a aeth allan, ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasclodd ddeng wr a thrugain o henuriaid y bobl, ac ai gosododd hwynt o amgylch y babell.
25Yna y descynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho, ac a attaliodd or yspryt yr hwn arno, ac ai rhodddes i’r dec henafgwyr a thrugain, a thra y gorphywyse yr yspryt arnynt y prophwydent, a chwaneg ni wnaent.
26A dau o’r gwŷr a drigasent yn y gwerssyll (henw vn Eldad a henw y llall Medad) a gorphywysodd yr yspryt arnynt hwy am eu bod hwynt o’r rhai a scrifennasid, ond nid aethant ir babell, etto prophwydasant yn y gwerssyll.
27A rhedodd llangc a mynegodd i Moses ac a ddywedood, y mae Eldad a Medad yn prophwydo yn y gwerssyll.
28Ac Iosuah mab Nun gwenidog Moses oi ieuenctyd a attebodd ac a ddywedodd, Moses fy arglwydd gwahardd hwynt.
29Yna y dywedodd Moses wrtho, ai cenfigennu yr ydwyt ti trossofi? ô na bydde holl bobl yr Arglwydd yn brophwydi trwy roddi o’r Arglwydd ei yspryt arnynt.
30A Moses a aeth i’r gwerssyll, efe a henuriaid Israel.
31Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac Exod.16.13. Psal.78.26.a dynnodd sofl-iair oddi wrth y môr, ac ai tanodd wrth y gwerssyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwerssyll, a yng-hylch dau gufydd ar wyneb y ddaiar,
32Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddyd ddrannoeth, ac a gasclasant y sofl-iair: yr hwn a gasclodd leiaf a gasclodd ddêc Homer: a chan danu y tanasant o honynt o amgylch y gwerssyll.
33Y cîg etto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi pan enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn y bobl, Psal.78.31.a’r Arglwydd a darawodd y bobl a phla mawr iawn.
34Am hynny galwodd henw y lle hwnnw Beddau y blŷs: am iddynt gladdu yno y bobl a flyssiasent.
35O Feddau y blŷs yr aeth y bobl i Haseroth: ac a arhosasant yn Haseroth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.