1A 2.Mac.2.10.phan orphennodd Salomon weddio, yna y tân a ddescynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poeth offrwm, a’r ebyrth: a gogoniant yr Arglwydd a lawnodd y tŷ,
2Fel na alle yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr Arglwydd: o herwydd gogoniant yr Arglwydd a lawnase dy’r Arglwydd.
3Pan welodd holl feibion Israel y tân, a gogoniant yr Arglwydd yn descyn ar y tŷ: yna hwynt a ymgrymmasant ai hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr Arglwydd, mai dâ yw efe, a bod ei drugaredd ef yn dragywydd.
4 1.Bren.8.65. Yna yr brenin a’r holl bobl a aberthasant aberth ger bron yr Arglwydd.
5A’r brenin Salomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ŷchen, a chwech vgain mil o ddefaid: felly y brenin, a’r holl bobl a gyssegrasant dŷ yr Arglwydd.
6A’r offeiriaid oeddynt yn sefyll yn eu gorchwyliaeth, a’r Lefiaid ag offer gerdd ’r Arglwydd, y rhai a wnaethe Dafydd y brenin i gyffessu i’r Arglwydd, mai yn dragywydd ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu drwyddynt hwy: yna yr offeiriaid oeddynt yn vdcanu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oeddynt yn sefyll.
7A Salomon a gyssegrodd ganol y cyntedd yr hwn o flaen tŷ’r Arglwydd, canys yno y paratoase efe y poeth offrymmau, a braster yr aberthau hedd: canys ni alle yr allor brês yr hon a wnaethe Salomon gynnal y poeth offrwm, a’r bwyd offrwm, a’r braster.
8A Salomon a gadwodd ŵyl y pryd hynny saith niwrnod, a holl Israel gyd ag ef yn gynnulleidfa fawr iawn: o ddyfodfa Hemath hyd afon yr Aipht.
9Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymmanfa, canys cyssegriad yr allor a wnelsent hwy mewn saith niwrnod, a’r ŵyl saith niwrnod.
10Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mîs y gollyngodd efe y bobl iw pabellau yn hyfryd, ac yn llawen calon am y daioni’r hwn a wnaethe’r Arglwydd i Ddafydd, ac i Salomon, ac i Israel ei bobl.
11Pan orphennodd Salomon dŷ’r Arglwydd, 1.Bren.9.1.a thŷ yr brenin (a’r hyn oll oedd ym mrŷd Salomon ei wneuthur yn nhŷ’r Arglwydd, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus,)
12Yna’r Arglwydd a.Num.12.6.ymddangosodd i Salomon liw nôs, ac a ddywedodd wrtho ef, gwrandewais dy weddi, ac mi a dewisais y fann hon i mi yn dŷ aberth.
13Pan attaliwyf fi y nefoedd fel na byddo glaw, neu pan orchymynnwyf i’r locustiaid fwytta y ddaiar: a phan anfonwyf haint ymmysc fy mhobl,
14Os fy mhobl y rhai y gelwir fy enw yn eu mysc a ymostyngant, ac a weddiant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant oi ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachâf eu gwlâd hwynt.
15Yn awr fy llygaid a fyddant agored, a’m clustiau yn ymwrando a’r weddi y fann honn.
16Ac yn awr mi a ddetholais, ac a sancteiddiais y tŷ hwn i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon fyddant yno yr holl ddyddiau.
17Ac os rhodi dithe ger fy mron i fel y rhodiodd Dafydd dy dâd, gan wneuthur yr hyn oll a orchymynnais i ti: ac chedwi fy neddfau, a’m barnedigaethau mau fi,
18Yna y siccrhaf deyrn-gader dy frenhiniaeth di, megis yr ammodais a Dafydd dy dâd ti gan ddywedyd, ni thorrir ymmaith oddi wrthit 2.Cron.6.16.gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel.
19Ond os dychwelwch, ac gwrthodwch fy neddfau, a’m gorchymynnion y rhai a roddais ger eich bron chwi: ac os rhodiwch, ac os gwasanaethwch dduwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt hwy,
20Yna mi ai diwreiddiaf hwynt o’m gwlâd yr hon a roddais iddynt hwy, a’r tŷ ’r hwn a sancteiddiais i’m henw a fwriaf ymmaith o’m gŵydd: ac mi ai rhoddaf ef yn ddammeg, ac yn ddihareb ym mysc yr holl bobloedd.
21A’r tŷ ymma ’r hwn sydd vchel a wna i bawb ar a êl heibio iddo synnu: fel y dyweder, pa ham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r wlâd hon? ac i’r tŷ hwn?
22Yna y dywedant, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau hwynt, yr hwn ai dug hwynt allan o wlâd yr Aipht, ac iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt, ai gwasanaethu hwynt: am hynny y dûg efe yr holl ddrwg ymma arnynt hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.