1Yna Iosuah a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem: ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwŷr, ac am eu swyddogion, a hwynt a safasant ger bron Duw.
2A dywedodd Iosuah wrth yr holl bobl fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, tu hwnt i afon y trigodd eich tadau chwi gynt Tarah tad Abraham, a thad Nachor: a gwasanaethasant dduwiau dieithr.
3Ond mi a gymmerais eich tâd Abraham o’r tu hwnt i’r Genes11.31|GEN 11:31. Iudith.5.7.afon, ac ai harweiniais ef drwy holl wlâd Canaan: amlheais hefyd ei hâd ef, a Genes.21.2.|GEN 21:2 & 25.26.rhoddais iddo Isaac.
4I Isaac hefyd y rhoddais Iacob, ac Esau: ac Genes.36.8.i Esau y rhoddais fynydd Seir iw etifeddu, Genes.46.6.ond Iacob ai feibion a aethant i wared i’r Aipht.
5Ac mi Exod.3.10.a anfonais Moses ac Aaron, ac a darewais yr Aiphtiaid: pan wneuthum yn eu mysc, wedi hynny y dugum chwi allan.
6Felly y dugum eich tadau chwi o’r Aipht nes eich dyfod hyd y môr: a’r Aiphtiaid a erlidiasant ar ôl eich tadau a cherbydau, ac a gwyr meirch hyd y Exod.14.9.môr côch.
7Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd, ac efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Aiphtiaid, ac efe a ddûg y môr arnynt hwy ac ai gorchguddiodd, eich llygaid chwi hefyd a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.
8Ac mi a’ch dugais i wlâd yr Amoriaid y rhai oeddynt yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen Num.21.29.a hwynt a ymladdasant i’ch erbyn: ond myfi ai rhoddais hwynt yn eich llaw chwi fel y gorescynnasoch eu gwlâd hwynt, a minne ai difethais hwynt o’ch blaen chwi.
9 Num.22.5. Deut.23 4. Balac hefyd mab Ziphor brenin Moab a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel: ac efe a anfouodd, ac a alwodd am Balaam fab Peor i’ch melldîgo chwi.
10Ond ni fynnais i wrando ar Balaam: eithr gan fendithio y bendithiodd efe chwi, felly y gwaredais chwi oi law ef.
11A chwi a aethoch tros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Iericho a gwŷr Iericho a ymladdasant i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, a’r Hechiaid, a’r Girgaziaid, yr Hefiaid a’r Iebusiaid: ac mi ai’rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
12Ac mi a anfonais gaccwn o’ch blaen chwi, Exod.23.28. Deut.7.20. Iosua 11.20.a’r ai gyrrodd hwynt allan o’ch gŵydd chwi, dau frenin yr Amoriaid: nid a’th gleddyf di, ac nid a’th fwa.
13A mi a roddais i chwi wlâd yr hon ni lafuriasoch ynddi, a dinasoedd y rhai nid adailadasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: y gwinllannoedd, a’r olew lannoedd y rhai ni phlannasoch yr ydych yn bwyta.
14Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd, a gwirionedd: a bwriwch ymmaith y duwiau y rhai a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr: Aipht, a gwasanaethwch yr Arglwydd.
15Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu’r Arglwydd, dewiswch iwch heddyw pa vn a wasanaethwch ai’r duwiau y rhai a wasanaethodd eich tadau, y rhai o’r tu hwnt i’r Iorddonenn, ai ynte duwiau’r Amoriaid y rhai’r ydych yn trigo yn eu gwlâd: ond myfi mi a’m tŷlwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
16Yna’r attebodd y bobl ac y dywedodd, na atto Duw i ni wrthod yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dieithr.
17Canys yr Arglwydd ein Duw yw’r hwn a’n dûg ni i fynu a’n tadau o wlâd yr Aipht o dŷ’r caethiwed: a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni ym mhob ffordd a’r a rodiasom ynddi, ac ym mysc yr holl bobloedd y rhai y trammwyasom yn eu plith.
18Yr Arglwydd hefyd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid presswylwŷr y wlâd o’n blaen ni: am hynny ninneu a wasanaethwn yr Arglwydd, canys efe ein Duw ni.
19Ac Iosuah a ddywedodd wrth y bobl, ni ellwch wasanaethu’r Arglwydd: canys Duw sancteiddiol efe: Duw eiddigus yw, nid arbed efe eich anwiredd na’ch pechodau.
20O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dieithr: Pen.23.15.yna efe a ddychwel, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi wedi gwneuthur i chwi ddaioni.
21A’r bobl a ddywedodd wrth Iosuah: nage, eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.
22A dywedodd Iosuah wrth y bobl, tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis o honoch i chwi’r Arglwydd iw wasanaethu: yna y dywedasant hwythau tystion
23Am hynny yn awr bwriwch ymmaith y duwiau dieithr y rhai yn eich mysc chwi: a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.
24A’r bobl a ddywedasant wrth Iosuah: yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandawn.
25Felly Iosuah a wnaeth gyfammod a’r bobl y dwthwn hwnnw: ac a osododd iddynt ddeddfau, a barnedigaethau yn Sichem.
26Ac Iosuah a scrifennodd y geiriau hynn yn llyfr cyfraith Dduw: ac efe a gymmerth faen mawr, ac ai cyfleuodd ef yno tann y dderwen yr hon yng-hyssegr yr Arglwydd.
27Iosuah hefyd a ddywedodd wrth yr holl bobl, wele y maen hwn fydd yn destiolaeth rhyngom ni: canys efe a glywodd holl eiriau’r Arglwydd y rhai a lefarodd efe wrthym: gan hynny bydded efe yn destiolaeth rhyngoch chwi rhac i chwi wadu eich Duw chwi.
28Yna Iosuah a ollyngodd y bobl, bob vn iw etifeddiaeth.
29Ac wedi y pethau hyn y bu farw Iosuah mab Nun, gwâs yr Arglwydd: yn fab dengmlwydd a chant.
30A hwynt ai claddasant ef yn herfyn ei etifeddiaeth o fewn * Timnath-serah, yr hon ym mynydd Ephraim: o du’r gogledd i fynydd Gaas.
31Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Iosuah: a holl ddyddiau’r henuriaid y rhai a fuant fyw ar ôl Iosuah, a’r rhai a adwaenent holl waith yr Arglwydd yr hwn a wnaethe efe er Israel.
32Ac Genes.50.25.|GEN 50:25. Exod.13.19.escyrn Ioseph y rhai a ddugase meibion Israel i fynu o’r Aipht a gladdasant hwy yn Sichem mewn rhan o’r maes yr hwn a brynnase Iacob gan feibion Genes.33.19.Hemor tad Sichem er cant o arian: a buant i feibion Ioseph yn etifeddiaeth.
33Eleazar hefyd mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mrynn Phinees ei fab; yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Ephraim.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.