1.Cronicl 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Dinistr Rabba. 3 Cospedigaeth ar yr Ammoniaid. 4 Y Philistiaid, ai cawri yn colli yr maes.

1Darfu hefyd 2.Sam.11.1.yng-hyfnod y flwyddyn, yn amser mynediad brenhinoedd allan arwein o Ioab gadernid y fyddin, ac anrhaithio gwlâd meibion Ammon, ac efe a ddaeth, ac a warchaodd Rabba: a Dafydd oedd yn aros yn Ierusalem, pan darawodd Ioab Rabba, ai dinistrio hi,

2A 2.Sam.12.29.chymmerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben ef, a chafodd hi o bwys talent aur, ac ynddi feini gwerthfawr, ac hi a fu am ben Dafydd: ac efe a ddug anrhaith fawr iawn ddinas.

3A’r bobl y rhai ynddi, a ddûg efe allan, ac ai rhygnodd hwynt a llîf, ac ag ogau heirn, ac a bwy îll: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd i holl ddinasoedd meibion Ammon, a dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Ierusalem.

4Ac yn ôl hyn, pan gynhaliwyd rhyfel yn 2.Sam.21.18.Gezer yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbeechai yr Husiad a laddodd Sippai o feibion rhyw gawr, felly y darostyngwyd hwynt.

5A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab 2.Sam.21.19.Iair a laddodd Lahemi, brawd Goliath y Gethiad, a throed gwaiw-ffon hwnnw fel carfan gwehyddion.

6Bu hefyd trachefn ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr hîr, ai fysedd yn chwech a chwech pedwar ar hugain, yntef hefyd a anesid i’r cawr.

7Pan ddifenwodd efe Israel, yna Ionathan mab Simea frawd Dafydd ai lladdodd ef.

8Y rhai hyn a anwyd i’r cawr yn Gath, ac a laddwyd drwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help