1Yna Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, clyw ô Israel y deddfau, a’r barnedigaethau y rhai yr ydwyf yn eu llefaru lle y chlywoch heddyw: fel y byddo i chwi eu dyscu, a chadw ar eu gwneuthur.
2Yr Arglwydd ein Dduw a wnaeth gyfammod a ni yn Horeb.
3Nid a’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfammod hwn, ond a nyni: nyni y rhai hynny yn fyw bob vn ymma heddyw.
4Wyneb yn wyneb y llefarodd yr Arglwydd a chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
5(Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegu i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhac y tân, ac nid escynnech i’r mynydd) gan ddywedyd:
6 Exodus 19 2.|EXO 19:2. Lefit.26.1.|LEV 26:1. Psal.97.7. Yr Arglwydd dy Dduw fi, yr hwn a’th ddûg allan o dîr yr Aipht, o dŷ y caethwed.
7Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mrō i.
8Na wna it ddelw gerfiedic llun dim a’r y yn y nefoedd oddi vchod, nac a’r yn y ddaiar oddi isod, nac a’r yn y dyfroedd oddi tann y ddaiar.
9Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt, o Exod.34.7. Ierem.32.18.blegit myfi’r Arglwydd dy Dduw Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd, a’r bedwaredd o’r hai a’m casaant.
10Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, o’r rhai am carant, ac a gadwant fyng-orchymynnion.
11Na chymmer enw’r Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
12Cadw y dydd Sabboth gan ei sancteiddio ef, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw it.
13Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
14Ond y seithfed dydd Sabboth yr Arglwydd dy Dduw, na wna ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th 75 wâs, na’th forwyn, na’th ych, na’th assyn, nac yr vn o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn, yr hwn o fewn dy byrth: fel y gorphywyso dy wâs, a’th forwyn, fel ti dy hun.
15O blegit cofia mai gwâs a fuost ti yngwlâd yr Aipht, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno a llaw gadarn, ac a braich estynnedic, am hynny y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Sabboth.
16Anrhydedda dy dâd, a’th fam, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti: fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaiar, yr hon y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
17 Matth.5.21. Na ladd.
18 Luc.18.20. Ac na wna odineb.
19 Rhuf.13.9. Ac na ledratta.
20Ac na ddwg gam destiolaeth yn erbyn dy gymydog,
21Ac Ruf.7.7.na chwennych wraig dy gymydog, ac na chwennych dŷ dy gymydog, nai faes ef, nai was, nai forwyn, nai ŷch ef, nai assyn ef, na dim a’r eiddo dy gymydog.
22Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynnulleidfa, yn y mynydd o ganol y tân, y cwmmwl a’r tywyllwch llais vchel, ac ni chwanegodd ond scrifennodd hwynt ar ddwy lêch o gerric, ac ai rhoddes attaf i.
23A darfu wedi clywed o honoch y llais o ganol y tywyllwch, a’r mynydd yn llosci gan dân: yna nesasoch attaf,holl bennaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi,
24Ac a ddywedasoch, wele’r Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, ai fawredd, Deut.4.33.ai lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddyw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddŷn, Exod.20.19.a byw o honaw.
25Weithian gan hynny pa ham y byddwn feirw? o blegit y tân mawr hwn a’n difâ ni: canys os ni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach marw a wnawn.
26O blegit pa gnawd oll yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân fel nyni, ac a fu fyw?
27Nessa di a chlyw’r hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw, a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro’r Arglwydd ein Duw wrthit ti: * ac nyni a wrandawn, ac a wnawn
28Yna’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthif, a dywedodd yr Arglwydd wrthif, clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthit, da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.
29Oh na bydde hyn o galon ganddynt i’m hofni fi, ac i gadw fy holl orchymynnion i, bôb amser, fel y bydde dâ iddynt, ac iw meibion hwynt yn dragywyddol.
30Dos, dywet wrthynt, dychwelwch i’ch pebyll.
31Ond saf di ymma gyd a’m fi, ac mi a ddywedaf wrthit yr holl orchymynnion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysci di iddynt, ac a wnant hwythau, yn y wlâd yr hon yr wyfi ar roddi iddynt, iw gorescyn.
32Edrychwch gan hynny am wneuthur, fel y gorchymynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu dehau, nac i’r tu asswy.
33Cerddwch yn yr holl ffordd, yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi, fel y byddoch fyw, ac y byddo yn ddâ i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlâd, yr hon a orescynnwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.