1 A Ac fe a Math.20.25. mar.10.24.gyfododd cynnen yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fôd yn fwyaf.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a’r rhai sy mewn awdurdod arnynt a elwir yn bendefigion.
26Ond na chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith bydded megis y lleiaf, a’r llywydd megis yr hwn a fyddo yn gweini.
27Canys pwy vn fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? ond mwyaf yr hwn sydd yn eistedd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc fel vn yn gwasanaethu.
28A chwy-chwi yw y rhai a arhosasoch gŷd â mi yn fy-mhrofedigaethau.
29Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minne.
30 Math.19.28. Fel y bwyttaoch, ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeudd, a barnu deuddec-llwyth Israel.
31A’r Arglwydd a ddywedodd: Simon, Simon, wele, 1.Petr.5.8.Satan a’ch ceisiodd chwi i’ch nithio fel gwenith.
32Eithr mi a weddiais trosot na ddiffygie dy ffydd di: gan hynny, dithe pan i’th droer cadarnhâ dy frodyr.
33 Math.26.34. Mar.14.29,31.|MRK 14:29. ioan.13.38 Ac efe a ddywedodd wrtho, ô Arglwydd, yr ydwyfi yn barod i fyned gŷd â thi i garchar ac i angeu.
34Yntef a ddywedodd: yr wyf yn dywedyd i ti Petr, na chân y ceiliog heddyw, cyn i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt, Math.10.9.pan eich anfonais heb bwrs, na chod nac escidiau, a fu arnoch eisieu dim? a hwy a ddywedasant, naddo ddim.
36Yna y dywedodd wrthynt: ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs cymmered, a’r vn modd gôd, a’r nêb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37Canys yr wyf yn dywedyd i chwi fod yn rhaid cyflawni ynofi yr scrifen honno, a Esay.53.12.chŷd â’r anwir y cyfrifwyd ef: canys y mae diwedd i’r pethau o honofi.
38A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf ymma: ac efe a ddywedodd wrthynt, digon yw.
39Ac Math.26.36.|Mat 26:36. mar.14.32.|MRK 14:32. ioan.18.1wedi iddo fyned allan, efe a aeth (fel y bydde arferol) i fynydd yr Oliwydd, a’i ddiscyblion a’i canlynasant ef.
40A Math.26.41. Marc.14.38.phan ddaeth efe i’r man hwnnw, efe a ddywedodd wrthynt, gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
41Ac efe a dynnwyd oddi wrthynt tu ag ergid carreg: ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddiodd,
42Gan ddywedyd, fy Nhâd, os ewyllysi gymmeryd y cwppan hwn oddi wrthif, er hynny, nid fy ewyllys i, ond dy ewyllys di a gyflawner.
43Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo ef, iw gadarnhau.
44Eithr efe mewn ymdrech a weddiodd yn ddyfalach, a’i chwys ef oedd fel dagrau gwaed yn descyn i lawr ar y ddaiar.
45A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddiscyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch.
46Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn cyscu? codwch, a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
47Ac Math.26.47. Marc.14.43. Ioan.18.3.efe etto yn ymddiddan, wele’r dyrfa a hwn a elwyr Iudas vn o’r deuddec a aeth o’i blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu iw gusanu ef.
48A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas, ai â chusan a bradychi di Fâb y dŷn?
49A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwynt hwy a ddywedasant wrtho, ô Arglwydd, a darawn ni â chleddyf?
50Ac vn o honynt a darawodd wâs yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef.
51Yna’r Iesu a attebodd gan ddywedyd, goddefwch hyd hyn: ac efe gan gyffwrdd â’i glust a’i iachaodd ef.
52A’r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethent atto ef arch-offeiriaid a phennaethiaid y Deml, a’r henuriaid, ai fel at leidr y daethoch chwi allan â chleddyfau, ac â ffynn?
53Pan oeddwn beunydd gŷd â chwi yn y Deml nid estynnasoch ddwylo i’m herbyn, eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.
54Yna y cymmerasant ef, ac yr aethant ag ef: ac a’i dugasant ef i dŷ’r arch-offeiriad, a Phetr a’i canlynodd ef o hir-bell.
55 Math.26.69. Marc.14.66. Ioan.18.25. Ac wedi iddynt gynneu tân yng-hanol y llŷs a chŷd eistedd o honynt i lawr, yr eisteddodd Petr hefyd yn eu plith.
56A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, hwn hefyd oedd gŷd ag ef.
57Ac yntef a wadodd gan ddywedyd, ô wraig nid adwen ef.
58Ac ychydig wedi, vn arall a’i gwelodd ac a ddywedodd, a thithe wyt o honynt, a Phetr a ddywedodd, ô ddŷn nid ydwyf.
59Ac yng-hylch pen yr awr yn ôl hynny, vn arall a daerodd gan ddywedyd, yn wir yr ydoedd y dŷn hwn gŷd ag ef, canys Galilæad yw efe.
60A Phetr a ddywedodd, y dyn ni’s gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd: ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, y canodd y ceiliog.
61Yna troes yr Arglwydd, ac yr edrychodd ar Petr: a Phetr a feddyliodd am ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedase efe wrtho, Math.26.34. Ioan.13.38.cyn canu’r ceiliog y gwedi fi dair gwaith.
62Ac wedi i Petr fyned allan, efe a ŵylodd yn chwerw.
63A’r rhai a ddaliasant yr Iesu, a’i gwatwarasant gan ei daro.
64Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, tarawsant ef ar ei wyneb, gan ofyn iddo, a dywedyd, prophwyda pwy a’th darawodd?
65A llawer eraill a ddywedasant yn ei erbyn ef gan gablu
66A Math.27.1. Marc.15.1. Ioan.18.28.phan ddyddhâodd hi yr ymgynhullodd henuriaid y bobl a’r arch-offeiriaid, a’r scrifennyddion: ac a’i dugasant ef iw cyngor,
67Gan ddywedyd, ai ti yw Crist? dywet i ni, ac efe a ddywedodd wrthynt: pe dywedwn i chwi, ni’s credech:
68Ac os gofynnaf nid attebwch fi, ac ni’m gollyngwch ymmaith.
69Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw.
70A hwy oll a ddywedasant, a ydwyt ti gan hynny yn Fâb Duw? ac efe a ddywedodd wrthynt, yr ydych chwi yn dywedyd fy môd.
71Yna y dywedasant, pa raid i ni mwy wrth destiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.