1Yna dyddiau Dafydd a nessauasant i farw, ac efe a orchymynnodd i Salomon ei fab gan ddywedyd:
2Myfi ydwyf yn myned ar hŷd ffordd yr holl fyd, am hynny ymnertha a bydd yn ŵr.
3A chadw gadwriaeth yr Arglwydd dy Dduw gan rodio yn ei ffyrdd ef, gan gadw ei ddeddfau ef, ai orchymynnion, ai farnedigathau, ai destiolaethau, fel yr scrifēnwyd yng-hyfraith Moses, megis Deut.29.9. Iosu.1.7.y ffynno gennit yr hyn oll a wnelech, a’r hyn oll y troech atto.
4Fel y cyflawno’r Arglwydd ei air, yr hwn a lefarodd efe wrthif gan ddywedyd: os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, gan rodio ger fy mron mewn gwirionedd, ai holl galon, ac ai holl enaid ([îe] gau ddywedyd) 2.Sam.7.12.ni thorrir na o honot ŵr ar orsedd-faingc Israel.
5Tithe hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Ioab mab Serfia a mi, yr hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i 2.Sam.3.27.Abner fab Ner, ac 2.Sam.20.10.i Amasa fab Iether, canys efe ai lladdodd hwynt, ac a ollyngodd waed yn rhyfelgar mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys yr hwn am ei lwynau, ac yn ei escidiau y rhai am ei draed.
6Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb, ac na âd iw ben-llwydni ef ddescyn i’r bedd mewn heddwch.
7Ond i feibion 2.Sam.19.31.Barzelai y Gileadiad y gwnei di drugaredd, a byddant ym mysc y rhai a fwyttânt dy fwrdd di: canys felly y daethant attafi pan oeddwn yn ffoi rhac Absalom dy frawd ti.
8Wele hefyd 2.Sam.16.5.Semei fab Gera, fab Iemini, o Bahurim gyd a thi, ac efe a’m melldithiodd i a melldith dôst y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i wared hyd yr Iorddonen i gyfarfod a mi, ac mi a dyngais i’r Arglwydd wrtho ef gan ddywedyd: 2.Sam.19.23.m’th laddaf a’r cleddyf.
9Ond yn awr na âd ti ef heb gosp, canys gŵr doeth ti, a gwyddost beth a wnei iddo: dŵg dithe ei ben-wynni ef i wared i’r bedd mewn gwaed.
10Yna Act.2.39. & 13.36.Dafydd a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd yn ninas Ddafydd.
11A’r dyddiau 2.Sam.5.4.y rhai y teyrnasodd Dafydd ar Israel ddeugain mhlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddec ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem.
12A Salomon 2.Cron 29.23.a eisteddodd ar orseddfaingc Dafydd ei dâd, ai frenhiniaeth ef a siccrhauwyd yn ddirfawr.
13Ac Adonia mab Haggith a ddaeth at Bathseba mam Salomon: a hi a ddywedodd, ai heddychlon dy ddyfodiad ti? yntef a ddywedodd, heddychlon.
14Ac efe a ddywedodd, gennif neges attati: hithe a ddywedodd, dywet.
15Yntef a ddywedodd, ti a wyddost mai eiddofi oedd y frenhiniaeth, a holl Israel a osodasent eu hwynebau, ar fyng-wneuthur i yn frenin, eithr trôdd y frenhiniaeth, ac a aeth i’m brawd: canys trwy’r Arglwydd yr aeth hi iddo ef.
16Ond yn awr dymunaf gennit vn dymyniad, na ommedd fi, hithe a ddywedodd wrtho ef, dywet.
17Yntef a ddywedodd: dywet attolwg wrth y brenin Salomon (canys ni ommedd efe dy di) am roddi o honaw ef Abisag y Sunamites yn wraig i mi.
18Yna y dywedodd Bathseba, dâ: mi a ddywedaf drosot ti wrth y brenin.
19Felly y daeth Bathseba at y brenin Salomon, i ddywedyd wrtho ef tros Adonia, a’r brenin a gododd iw chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orsedd-faingc, ac a osododd orsedd-faingc i fam y brenin, a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.
20Yna hi a ddywedodd, vn ddymuniad fechan yr ydwyfi yn ei dymuno gennit, na ommedd fi: a’r brenin a ddywedodd wrthi hi, gofyn fy mam, canys ni’th ommeddaf.
21Ac hi a ddywedodd, rhodder Abisag y Sunamites yn wraig i Adonia dy frawd ti.
22Yna’r attebodd y brenin Salomon, ar y dywedodd wrth ei fam, paham y ceisi di Abisag y Sunamites i Adonia? cais hefyd y frenhiniaeth iddo ef, (canys fy mrawd hyn na mi ydyw efe) a chyd ag ef y mae Abiathar yr offeiriad, ac Ioab mab Serfia.
23A’r brenin Salomon a dyngodd i’r Arglwydd gan ddywedyd: fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego efe, onid yn erbyn eienioes y llefarodd Adonia y peth hyn.
24Yn awr gan hynny mai byw’r Arglwydd yr hwn a’m siccrhaodd i, ac a wnaeth i mi eistedd ar orsedd-faingc Dafydd fy nhad, yr hwn hefyd a wnaeth i mi dy megis y 2.Sam.7.12.dywedase efe, heddyw yn ddiau y rhoddir Adonia i farwolaeth.
25A’r brenin Salomon a anfonodd gyd a Banaiah mab Iehoiada, ac efe a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw.
26Ac wrth Abiathar yr offeiriad y dywedodd y brenin, dos i Anathoth, i’th frô dy hun, canys gŵr marwolaeth ti: ond ni laddaf mo honot y prŷd hyn, o herwydd arwain o honot Arch yr Arglwydd Dduw o flaen fy nhâd Dafydd, ac am dy gystuddio yn yr hyn oll y cystuddiwyd fy nhâd.
27Felly y bwriodd Salomon Abiathar ymmaith o fod yn offeiriad i’r Arglwydd, gan 1.Sam.2.31.gyflawnigair yr Arglwydd yr hwn a ddywedase efe am dŷ Eli yn Silo.
28A’r chwedl a ddaeth at Ioab, canys Pen.1.7.Ioab a ŵyrase ar ôl Adonia, er na ŵyrase efe ar ôl Absalom: yna y ffôdd Ioab i babell yr Arglwydd, ac yr ymaflodd yng-hyrn yr allor.
29A mynegwyd i’r brenin Salomon, ffoi o Ioab i babell yr Arglwydd, ac wele wrth yr allor, a Salomon a anfonodd Banaiah fab Iehoiada gan ddywedyd, dos, rhuthra arno ef.
30Felly y daeth Banaiah i babell yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrtho efe, fel hyny dywedodd y brenin, tyret allan: yntef a ddywedodd, na eithr ymma y byddaf farw: a Banaiah a ddug trachefn air at y brenin gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Ioab, ac fel hynn i’m hattebodd.
31Yna y dy wedodd y brenin wrtho ef, gwna fel y dywedodd efe, a rhuthra arno ef, a chladd ef: fel y tynnech y gwaed gwirion yr hwn a dywalltodd Ioab oddi arnafi, ac oddi ar dŷ fy nhâd i.
32A’r Arglwydd a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun: o herwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach, 2.Sam.3.27.a gwell nag ef ei hun, (ac ai lladdodd hwynt a’r cleddyf, a Dafydd fy nhâd heb ŵybod) sef Abner fab Ner tywysog llu Israel, ac 2.Sam.20.10.Amasa fab Iether tywysog llu Iuda.
33Ai gwaed hwynt a ddychwel ar ben Ioab, ac ar ben ei hâd ef yn dragywydd, ond i Ddafydd, ac iw hâd, ac iw dŷ, ac iw orsedd-faingc y bydd hedwch yn dragywydd gan yr Arglwydd.
34Felly r’ aeth Banaiah mab Iehoiada, ac a ruthrodd arno, ac ai lladdodd, ac efe a gladwyd yn ei dŷ ei hûn yn yr anialwch.
35Yna y rhoddes y brenin Banaiah fab Iehoiada yn ei le ef ar y filwriaeth, a’r brenin a roddodd Zadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.
36Y brenin hefyd a anfonodd, ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho ef: adailada it dŷ yn Ierusalem, ac aros yno, ac na ddôs allan oddi yno ymma na thraw.
37A bydded y dydd yr elech allan, ac yr elech dros afon Cedron, gan ŵybod y cei di ŵybod y lleddir di yn farw: dy waed fydd ar dy ben dy hun.
38A dywedodd Simei wrth y brenin, da yw’r gair, fel y dywedodd fy arglwydd frenin felly y gwnâ dy wâs: a Simei a arhosodd yn Ierusalem ddyddiau lawer.
39Eithr ym mhen tair blynedd y ffôdd dau wâs i Simei at Achis fab Maacha brenin Eath, a mynegwyd i Simei gan ddywedyd: wele dy weision di yn Gath.
40Yna y cyfododd Simei, ac a gyfrwyodd ei assyn, ac a aeth i Gath at Achis i geisio ei weision: ie Simei a aeth, ac a gyrchodd ei weision o Gath.
41A mynegwyd i Salomon fyned o Simeio Ierusalem i Gath, ai ddychwelyd ef.
42Yna’r anfonodd y brenin, ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho ef, oni thyngais i’r Arglwydd, ac thestiolaethais wrthit gan ddywedyd: yn y dydd yr elech allan, ac yr elech nac ymma, nac accw, gan ŵybod gŵybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthif, da yw’r gair a glywais i.
43Pa ham gan hynny na chedwaist lŵ yr Arglwydd, na’r gorchymyn yr hwn a orchymynnais i ti?
44A dywedodd y brenin wrth Simei, ti a wyddost yr holl ddrygioni yr hwn a edwyn dy galon, yr hwn a wnaethost di yn erbyn Dafydd fy nhâd: yr Arglwydd am hynny a ddychwelodd dy ddrygioni di ar dy ben dy hun.
45A bendigedic y brenin Salomon, a gorsedd-faingc Dafydd a fydd siccr o flaen yr Arglwydd yn dragywydd.
46Felly y gorchymynnodd y brenin i Banaiah fab Iehoiada, ac efe a aeth allan, ac a ruthrodd arno ef, fel y bu efe farw: a’r frenhiniaeth 2.Cron.1.1.a siccrhauwyd yn llaw Salomon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.