Iob 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Eliphaz yn beio ar Iob am annoethineb, a rhyfyg yn erbyn Duw, gan ddangos iddo gyfiawnder Duw yn cospi yr annuwiol.

1Yna Eliphaz y Themaniad a attebodd, ac a ddywedodd,

2A ettyb doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol a dwyrein-wynt?

3A argyoedda efe a gair ni fuddia? ac ag ymadroddion ni wna efe lessâd â hwynt.

4Yn ddiau ti a dorraist ymmaith ofn: yr ydwyt yn attal weddi ger bron Duw.

5Canys dy enau sy yn dangos dy anwiredd: gan i ti ddewis tafod y rhai dichellgar.

6Dy enau sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a’th wefusau sydd yn testiolaethu yn dy erbyn.

7A aned tydi yn gyntaf dŷn? a lunied tydi o flaen y brynnau?

8A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a atteli di ddoethineb gyd a thi?

9Beth a ŵyddost ti ar na’s gwyddom ni? a ddealli di heb fod hynny hefyd gennym ninnau?

10Y mae yn ein mysc ni hên, ac oedrannus hefyd: hynach o oedran na’th dâd ti.

11Ai bychan gennit ti ddiddanwch Duw? neu a oes dim yn ddirgel ynot ti?

12Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnaf? a phaham yr amneidia dy lygaid?

13Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw: a dwyn y eiriau allan o’th enau?

14Pa beth dŷn i fod yn bûr: a’r hwn a aned o wraig i fod yn gyfiawn?

15Wele ni chafodd efe ffyddlondeb yn ei sainct: a’r nefoedd nid ydynt bûr yn ei olwg ef.

16Pa faint mwy ffiaidd, a drewedic dŷn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dyfroedd?

17Dangosaf i ti, gwrando arnaf: a’r hyn a welais a fynegaf.

18Yr hyn y mae gwyr doethion yn ei fynegu: ac nid ydynt hwy yn celu gan eu henafiaid.

19I’r rhai hynn y rhoddwyd y ddaiar yn vnic: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.

20Holl ddyddiau’r annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rifedi y blynyddoedd y rhai a guddiwyd oddi wrth y cadarn.

21Llais ofnadwy yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrudd atto ef.

22Ni chrêd efe ddychwelyd allan o dywyllwch: canys y mae efe yn canfod y cleddyf.

23Y mae efe yn crwydro am fara lle efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.

24Cystudd, a chyfyngdra ai brawycha ef: ai gorchfyga ef fel brenin parod i ryfel.

25Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw: ac yn erbyn yr Holl-alluog yr ymnerthodd efe.

26Efe a rêd yn y gwddf iddo ef: trwy dewdwr torrau ei dariannau.

27Canys tôdd efe ei wyneb ai frasder: ac a wnaeth dyrch ar dynewyn.

28A thrigodd mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, thai anghyfanneddol: y rhai oeddynt barod yn garneddau.

29Ni chyfoethoga efe, ni pheru ei olud ef ychwaith: ac nid ymestyn eu perffeithrwydd hwy ar y ddaiar.

30Nid ymedu efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef: ac efe a ymedu trwy yspryd ei enau ef.

31Ni chrêd a dwylled drwy oferedd, mai oferedd fydd ei obr ef.

32Efe a dorrir ymmaith cynn ei ddydd: ai gangen ni lassâ.

33Efe a ddihidla ei rawn surion fel gwinwydden: ac a fwrw ei flodeun fel oli-wydden.

34Canys cynnulleidfa rhacrith-wŷr sydd vnic: a thân a yssa luestai gwobr-wŷr.

35O herwydd eu bol hwy a ddarpare dwyll, gan ymddwyn gofid, ac escor ar anwiredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help