1Pe llefarwn â thafodau dynion, ac angelion, a mi heb gariad gennif, yr wyf fel efydd yn seinio, neu cymbal yn tingcian.
2A phe bydde gennif brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth, a phe bae gennif yr holl ffydd, fel y gallwn symmudo Math.17.20. Luc.17.6.mynyddoedd, ac heb fod gennif gariad, nid wyfi ddim.
3A phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fyng-horph i’m llosci, a heb gariad gennif, ni wnai ddim llesâd i mi.
4Cariad sydd ddioddefus, cariad sydd gymwnascar, cariad ni chenfigenna, cariad nid yw anhydyn, nid yw yn ymchwyddo:
5Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, nid yw yn ceisio yr eiddi ei hunan, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg:
6Nid yw lawen am anghyfiawnder, onid cydlawenhau y mae â’r gwirionedd.
7Y mae yn goddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.
8Cariad byth ni chwymp ymmaith, er pallu prophwydoliaethau, a pheidio tafodau, a diflannu gŵybodaeth.
9Canys o rann y gwyddom, ac o rann yr ydym yn prophwydo,
10Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o rann a ddeleuir.
11Pan oeddwn yn fachgen, fel bachgen yr ymddiddanwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a rois heibio fachgeneiddrwydd.
12Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych mewn dammeg, ac yna y gwelwn ŵyneb yn ŵyneb: yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf megis i’m hadwaenir.
13Yr awr hon y mae yn aros, ffydd, gobaith, a chariad, y tri hyn, a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
