1YN y cyfamser pan ymgasclodd yng-hyd liaws aneirif o bobl, hyd oni ymsathre’r naill y llall, y ddechreuodd efe ddywedyd wrth ei ddiscyblion, yn gyntaf,
40Am hynny byddwch chwithau barod, canys yr awr ni thybygoch y daw Mab y dŷn.
41Yna y dywedodd Petr wrtho, ô Arglwydd, ai i ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ynte i bawb?
42A’r Arglwydd a ddywedodd, pwy sydd orchwiliwr ffyddlawn, a phwyllog, yr hwn y gesyd ei arglwydd ef ar ei deulu i roddi iddynt eu cyflynniaeth yn ei amser?
43Gwyn ei fyd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pā ddel yn gwneuthur felly.
44Yn wir meddaf i chwi, efe a esyd hwnnw ar gwbl ac sydd eiddo.
45Eithr os dywed y gwâs hwnnw yn ei galon, fy arglwydd a oeda ddyfod, ac felly a ddechreu guro y gweision, a’r morwynion, a bwytta, ac yfed, a meddwi:
46Daw arglwydd y gwâs hwnnw, mewn dydd nad yw efe yn meddwl, ac ar awr nid yw efe yn gŵybod, ac a’i tyrr ef ymmaith, ac a ddyru iddo ei rann gyd â’r anffyddloniaid.
47Y gwâs hwnnw yr hwn a ŵybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratodd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer:
48Eithr yr hwn ni ŵybu, ac a wnaeth bethau yn heuddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig yn enwedig i bwy bynnag y rhodded llawer, llawer a ofynnir ganddo: a chyd â phwy bynnag y gadawsant lawer, yn ceisiant fwy ganddo.
49Mi a ddaethym i yrru tân ar hŷd y ddaiar, a pheth a fynnaf i, od yw efe wedi cynneu eusys?
50Eithr y mae i mi fedydd i’m bedyddio ag ef: ac mor flin yw arnaf nes darfod.
51 Math.10.34. A ydych chwi yn tybied fy nyfod i i roddi heddwch ar y ddaiar? na ddo meddaf i chwi ond ymrafael.
52Canys o hynn allan y bydd pump yn yr vn tŷ, wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.
53Y tâd a ymranna yn erbyn y mâb, a’r mâb yn erbyn y tâd: y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam: y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
54Yna efe a Math.16.2.ddywedodd wrth y dyrfa, pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, y mae cafod yn dyfod, ac felly y mae.
55A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch y bydd hi gwresoc, a hi a fydd.
56Oh ragrithwŷr, medrwch farnu wyneb-pryd y ddaiar a’r wybr: a pha ham nad ydych yn deall y cyfamser hwn?
57Pa ham nad ydych o honoch eich hunain yn barnu beth sydd gyfiawn?
58 Math.5.25. Pan fyddwch yn myned gyd â’th wrthwynebwr at bennaeth, gwna dy oref ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho, rhac iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y rhingill, ac i’r rhingill dy fwrw i’r carchar.
59Yr wyf yn dywedyd i ti, nad ai di ymmaith oddi yno, oni thelech yr hatling eithaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.