1Baich glynn gweledigaeth: beth i ti yn awr? pan ddringaist ti oll i nennau yr tai?
2Yn llawn terfysc, ac yn ddinas derfyscol y ddinas lawen, dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf, na’th feirw â rhyfel.
3Dy holl dywysogion di a gyd ffoâsant rhag y bŵa, rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gyd-rwymwyd, a’r rhai a ffoâsant ym mhell.
4 Iere.9.1. Am hynny y dywedais, peidiwch â mi, mi a alaraf mewn wylofain, na lafuriwch fyng-hyssuro am ddinistr merch fy mhobl.
5O herwydd diwrnod blinder, ac ymsathru ac ymddryssu gan Arglwydd Dduw’r lluoedd yng-lynn gweledigaeth, yn dinistrio y gaer, ac yn gweiddi ar y mynydd.
6Yna Elam hefyd a arweiniodd y cawell saethau mewn cerbyd dynnion gwŷr meirch: Cir hefyd a ddinoethodd y tarian.
7A’th ddyffrynnoedd dewisol yn lawnwyd â cherbydau, ac â gwŷr meirch, gan osod gosodasant tua’r porth.
8Ac efe a ddinoethodd dô Iuda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ y goedwic.
9A gwelsoch rwygiadau dinas Ddafydd, mai aml oeddynt, a chasclasoch ddyfroedd y pyscodlyn issaf:
10Rhifasoch hefyd dai Ierusalem, a diwreiddiasoch y tai i lawr i gadarnhau y mûr.
11A rhwng y ddau fûr y gwnaethoch lynn i ddyfroedd yr hên byscodlyn: ond nid edrychasoch am yr hwn ai lluniodd ef er ystalm.
12A’r dydd hwnnw y gwahadd Arglwydd Dduw y lluoedd i wylofain, ac i alar-nad, i foeledd hefyd, ac i ymwregyssiad â sach-liain.
13Eithr wele lawenydd, a gorfoledd, gan ladd gwarthec, a lladd defaid, gan fwytta cîg, ac yfed gwîn: gan fwytta, ac yfed, canys y foru y byddwn feirw.
14A datcuddiwyd lle y clywais i Arglwydd y lluoedd: o chymodir â hwynt am yr anwiredd hyn, hyd oni byddant feirw medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
15Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, cerdda, dos at y tressorudd hwn at Sebna, yr hwn ben teulu.
16Beth a wnei di ymma? a phwy gennit ti ymma? pan drychaist i ti ymma fedd? ô yr hwn a drychodd ei fedd yn vchel, ac a osododd ei anneddfa yn y graig:
17Wele’r Arglwydd yn dy fudo di fel mudo gŵr, a chan wisco, yn dy wisco di.
18Gan dreiglo i’th dreigl di treigliad pêl ar hŷd gwlâd lŷdan ei hymylau: yno y byddi farw, ac yno cerbydau dy ogoniant ti yn warth tŷ dy feistr.
19Yna i’th wthiaf o’th sefyllfa, ie o’th sefyllfa y dinistria efe di,
20Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fyng-wâs Eliacim fab Helcia.
21A’th ddillad di hefyd y gwiscaf ef, ac a’th wregys di y nerthaf ef: a thann ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di, ac efe a fydd yn dâd i bresswylwŷr Ierusalem, ac i dŷ Iuda.
22Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Ddafydd ar ei yscwydd ef, yna yr egyr efe, ac ni a gaeo: ac efe a gaea, ac ni a agoro.
23A mi ai hoeliaf ef fel hoel mewn mann siccr, fel y byddo yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dâd.
24Ac arno ef y croga hîl, ac eppil holl ogoniant tŷ ei dâd, yr holl faen lestri, o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd.
25Yn y dydd hwnnw medd Arglwydd y lluoedd, y symmudir yr hoel a hoeliwyd yn y mān siccr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth yr hwn arni, canys Arglwydd y lluoedd a lefarodd
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.