Iudith 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.2 Iudith nid ymhaloge drwy fwyd y cenhedloedd. 5 Iudith yn dymuno cael myned allā liw nôs i weddio, 11 Holophernes yn peri iddi hi ddyfod i’r wledd.

1Yna efe a orchymynnodd ei dwyn hi i mewn lle yr oedd ei dryssorau ef yng-hadw, ac a archodd hulio bwrdd iddi hi oi fwydydd ei hun, ac oi wîn i yfed.

2Ac Iudith a ddywedodd, ni fwytafi o honynt rhac bod niwed: eithr o’r pethau hyn y rhai ydynt gyd â mi y bydd nhraul.

3Yna Holophernes a ddywedodd wrthi hi, os derfydd y pethau y rhai ydynt gyd â thi, o ba lê y gallwn ni roddi eu cyffelyb hwynt i ti: nid oes gyd â ni o’th genedl di.

4Ac Iudith a ddywedodd wrtho ef, fel y mae dy enaid ty yn fyw fy arglwydd ni threulia dy wasanaeth-ferch yr hyn sydd gyd a mi hyd o­ni wnêl yr Arglwydd trwy fy llaw i yr hyn y rhoddodd efe ei frŷd arno.

5Yna gweision Holophernes ai dugasant hi i’r babell, a hi a gyscodd hyd hanner nôs, ac a gyfododd ar y wiliadwriaeth foreuol,

6A hi a anfonodd at Holophernes, gan ddywedyd: gorchymynned fy arglwydd yn awr ollwng dy wasanaeth-ferch i fyned allā i weddio.

7Yna Holophernes a orchymynnodd i’r gwil-wŷr na rwystrent hwy mo honi hi: felly hi a arhosodd yn y gwerssylloedd dri diwrnod:

8A hi a ai allan liw nôs i ddyffryn Bethulia, ac a ymolche mewn ffynnon ddwfr wrth y gwerssylloedd.

9A phan ddeue hi i fynu hi a weddie ar Arglwydd Dduw Israel ar iddo ef gyfarwyddo ei ffordd hi er derchafiad meibion ei phobl hi.

10Felly hi a ai i mewn yn lân, ac a drige yn y babell hyd oni ddyge ei bwyd yn yr hwyr.

11Ac ar y pedwerydd dydd Holophernes a wnaeth wledd iw weision ei hun yn vnic, ac ni wahaddodd efe i’r wledd neb o’r rhai oeddynt a dim negesau ganddynt: yna y dywedodd efe wrth Bagoas ei stafellydd yr hwn oedd swyddog ar yr hyn oll a’r a fedde efe, dos, cais gan yr Hebraes-wraig yn awr (yr hon sydd gyd â thi) ddyfod attom ni, fel y bwytao hi, ac yr yfo hi gyd a ni.

12Wele yn ddiau brwnt yw i ni adel heibio y fath wraig a honno heb ymddiddan â hi: oni bydd i ni ei denu hi attom ni, hi a’n gwatwar ni.

13Yna Bagoas a aeth ymmaith o ŵydd Holophernes, ac a ddaeth i mewn atti hi, ac a ddywedodd: na fydded blîn gan y ferch lân ymma ddyfod at fy arglwydd iw hanrhydeddu ger ei frō ef, ac i yfed gyd â ni win yn hyfryd, ac i fod y dydd hwn fel vn o ferched meibion Assyria y rhai ydynt yn sefyll yn nhŷ Nabuchodonosor.

14Ac Iudith a ddywedodd wrtho ef, pwy ydwyfi fel y dywedwn yn erbyn fy arglwydd: canys beth bynnac a fyddo bodlon ganddo ef, myfi ai gwnaf yn ebrwydd: a hyn fydd i mi yn dderchafiad hyd ddydd fy marwolaeth.

15Felly hi a gyfododd, ac a ymharddodd â dillad, ac â phôb addurn-wiscoedd gwragedd, ai llaw-forwyn hi a ddaeth, ac a ledodd iddi hi ar y llawr ger bron Holophernes y crwyn y rhai a gawse hi gan Bagoas iw chyfraid ei hun beu­nydd, fel yr eistedde hi, ac y bwytae arnynt.

16Pan ddaeth Iudith i mewn ac eistedd, y­na calon Holophernes a ddychlammodd oi herwydd hi, ai yspryd ef a gynhyrfodd, ac yr oedd yn chwannog iawn i gyd-orwedd â hi: canys yr oedd efe yn gwilied amser iw thwyllo hi er y dydd y gwelse efe hi.

17Yna Holophernes a ddywedodd wrthi hi, ŷf di yn awr, a bydd di lawen gyd â ni.

18Ac Iudith a ddywedodd, mi a yfaf yn awr ô arglwydd, canys fy enioes a fawrygwyd heddyw rhagor yr holl ddyddiau er pā i’m ganed

19Yna y cymmerodd hi, ac y bwytaodd, ac yr yfodd ger ei fron ef yr hyn a baratoase ei llaw­forwyn hi.

20Am hynny Holophernes a wnaeth yn llawen oi phlegit hi, ac a yfodd o wîn fwy o lawer nag a’r a yfase efe mewn vn dydd er pan a­nesid ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help