1.Samuel 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Tywysogion y Philistiaid yn offrymmu gyd a’r Arch, ac yn ei gollwng hi adref. 19 Dialedd Duw ar y Bethsemesiaid am edrych yn yr Arch.

1A bu Arch yr Arglwydd yng-wlad y Philistiaid saith o fisoedd.

2A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid, ac am y dewiniaid gan ddywedyd: beth a wnawn ni i Arch yr Arglwydd? hyspysswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.

3Yna y dywedasant hwythau, os ydych ar ddanfon ymmaith Arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wâg, onid gan roddi y rhoddwch iddi offrwm tros gamwedd: yna i’ch iacheuir, ac y bydd hyspys iwch pa ham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.

4Yna y dywedasant hwythau, beth yr offrwm tros gamwedd yr hwn a roddom ni iddi hi? ac hwy a ddywedasant pump o ffolēnau aur, a phump o lygod aur rhif pendefigion y Philistiaid: canys yr vn plâ arnynt hwy oll, ac ar eich pendefigion chwi.

5Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a llunniau eich llygod y rhai ydynt yn difwyno y tir, a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel, ond odid efe a yscafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.

6A pha ham y caledwch chwi eich calon, megis y caledodd yr Aiphtiaid, a Pharao eu calon? pan wnaeth efe wrthiau yn eu plith hwy, Exod.12.31.oni ollyngasant hwy hwynt i fyned?

7Ac yn awr cymmerwch, a gwnewch vn fenn newydd, a dwy fuwch flith y rhai nid aeth iau arnynt: a deliwch y buchod dann y fenn, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ.

8Yna cymmerwch Arch yr Arglwydd a rhoddwch hi ar y fenn, a’r tlyssau aur y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd a osodwch mewn cîst wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned.

9Yna edrychwch os aiff hi i fynu i Bethsemes tua ei chartref, efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid ê, yna y cawn wybod nad ei law ef a gyffyrddodd a ni damwain oedd hyn i ni.

10A’r gwŷr a wnaethant felly, ac a gymmerasant ddwy fuwch, flithion, ac ai daliasant hwy tann y fenn, ac a gaeuasant eu lloi mewn tŷ:

11 ac * a osodasant Arch yr Arglwydd ar y fenn, a’r gist, air llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.

12Yna y buchod a aethant yn inion a’r hŷd y ffordd tua ffordd Bethsemes, ar hŷd yr vn briffordd yr aethant, gan gerdded, a brefu, ac ni ŵyrasant tua’r llaw ddehau, na’r llaw asswy: a phendefigion y Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.

13A Bethsemes oeddynt yn medi cynhaiaf y gwenith yn y dyffryn, ac a dderchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr Arch, ac a lawenychasant wrth ei gweled.

14A’r fenn a ddaeth i faes Iosuah y Bethsemesiad, ac a safodd yno: ac yno maen mawr, a hwynt a holltasant goed y fenn, ac a offrymmasant y buchod yn boeth offrymmau i’r Arglwydd.

15Yna y Lefiaid a ddescynnasant Arch yr Arglwydd, a’r gîst yr hon gyd a hi, yr hon y tlyssau aur ynddi, ac ai gosodasant ar y maen mawr, a gwŷr Bethsemes a offrymmasant boeth offrymmau, ac a aberthasant ebyrth i’r Arglwydd y dydd hwnnw.

16A phendefigion y Philistiaid ill pump a welsant, ac a ddychwelasant i Acaron y dydd hwnnw.

17Ac dymma y ffolennau aur, y rhai a roddase y Philistiaid yn offrwm tros gamwedd i’r Arglwydd: dros Asdod vn, dros Gasa vn, dros Ascalon vn, dros Gath vn, vn dros Acaron,

18A’r llygod aur rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid i’r pum pendefig, yn gystal y dinasoedd caeroc, a’r trefi heb gaerau: hyd y mawr Abel yr hwn y gosodasāt arno Arch yr Arglwydd, hyd y dydd hwn ym maes Iosuah y Bethsemesiad.

19Ac efe a darawodd o wŷr Bethsemes Num.4.15,20.am iddynt edrych yn Arch yr Arglwydd, ie tarawodd ym mysc y bobl ddeng-wr a thrugain, a deng-mil a deugain o wŷr: a’r bobl a alarasant, am i’r Arglwydd daro y bobl a phla fawr.

20Yna gwŷr Bethsemes a ddywedasant: pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr aiff efe oddi wrthym ni?

21Am hynny yr anfonasant gennadau at drigolion Ciriathiearim gan ddyweddyd: y Philistiaid a ddugasant adref Arch yr Arglwydd, deuwch i wared, a chymmerwch hi i fynu attoch chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help