1 Iere.25.1. Yn y bedwaredd flwyddyn i Iehoacim fab Iosia frenin Iuda y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi gan ddywedyd:
2Cymmer i ti lyfr, ac scrifenna di ynddo yr holl eiriau y rhai a leferais i yn erbyn Israel, ac yn erbyn Iuda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd o’r dydd y lleferais i wrthit ti o ddyddiau Iosia hyd y dydd hwn.
3Onid odid pan glywo tŷ Iuda yr holl ddrwg yr hwn yr ydwyfi yn amcanu ei wneuthur iddynt, hwynt hwy a ddychwelant bob vn oi ffordd ddrygionus fel y maddeuwyf eu hanwiredd hwynt ai pechodau.
4Yna Ieremi a alwodd am Baruc fab Neriah, a Baruc a scrifennodd o enau Ieremi holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarase efe wrtho, mewn llyfr.
5Ac Ieremi a orchymynnodd i Baruc, gan ddywedyd: carcharor ydwyfi, ni allafi fyned i dŷ yr Arglwydd.
6Am hynny dos ti a darllen o’r llyfr (yr hwn a scrifennaist o’m genau) eiriau yr Arglwydd lle y clywo y bobl nhŷ yr Arglwydd ar y dydd ympryd: ac lle y clywo holl Iuda y rhai a ddelont oi dinasoedd y darlleni di hwynt.
7Fe alle y daw eu gweddi hwynt ger bron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob vn oi ffordd ddrygionus: canys mawr yr llîd, a’r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hynn.
8Felly Baruc fab Neriah a wnaeth yn ôl yr hynn oll a’r a orchymynnase Ieremi y prophwyd iddo ef, am ddarllen o’r llyfr eiriau yr Arglwydd nhŷ yr Arglwydd.
9Ac yn y bummed flwyddyn i Iehoacim fab Iosia brenin Iuda, ar y nawfed mîs y cyhoeddasant ympryd ger bron yr Arglwydd holl bobl yn Ierusalem, ac i’r holl bobl y rhai oeddynt yn dyfod o ddinasoedd Iuda i Ierusalem.
10Yna Baruc a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Ieremi nhŷ’r Arglwydd yn stafell Gemariah mab Saphan yr scrifennydd, yn y cyntedd vchaf i ddrws y porth newydd i dŷ yr Arglwydd lle y clybu yr holl bobl.
11Pan glybu Micheas mab Gemariah fab Saphan holl eiriau yr Arglwydd o’r llyfr:
12Yna efe a aeth i wared i dŷ y brenin i stafell yr scrifennydd, ac wele yr holl dywysogion oeddynt yno yn eistedd: Elisama yr scrifennydd, Dalaiah mab Semei, ac Elnathan mab Achbor, Gamariah mab Saphan, a Sedecia mab Hananias, a’r holl dywysogion.
13A Micheas a fynegodd iddynt yr holl eiriau y rhai a glywse efe pan ddarllenase Baruc o’r llyfr lle y clybu y bobl.
14Yna yr holl dywysogion a anfonasant at Baruc, Iehudi fab Nathaniah fab Selemeia, fab Cusi gan ddywedyd: cymmer yn dy law y llyfr yr hwn y darllenaist ti o honaw lle y clybu y bobl, a thyret: felly Baruc mab Neriah a gymmerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
15A hwynt a ddywedasant wrtho ef, eistedd di yn awr, a darllen ef: felly Baruc ai darllenodd lle y clywsant hwy.
16A phan glywsant yr holl eiriau, synnu a wnaethant pob vn wrth ei gilydd: a hwynt a ddywedasant wrth Baruc, gan fynegu mynegwn ni yr holl eiriau hynn i’r brenin.
17A hwynt a ofynnasant i Baruc gan ddywedyd, mynega i ni yn awr, pa fodd yr scrifennaist ti yr holl eiriau hynn oi enau ef?
18Yna Baruc a ddywedodd wrthynt, efe a draethodd yr holl eiriau hynn wrthifi ai enau: a minne scrifennais yn y llyfr ag ingc.
19Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruc, dos ti ac ymguddia ti ag Ieremi, fel na wypo neb pa le chwi.
20Ac hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn stafell Elizamah yr scrifennydd) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.
21A’r brenin a anfonodd Iehudi i ddwyn y llyfr, ac efe ai dug ef o stafell Elizamah yr scrifennydd, ac Iehudi ai darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion, y rhai oeddynt yn sefyll yn ymyl y brenin.
22A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaiaf-dŷ, ar y nawfed mîs, a thân wedi ei gynneu ger ei fron ef.
23A phan ddarllenodd Iehudi dair dalen, neu bedair, efe ai torrodd â chyllell scrifennydd, ac ai bwriodd i’r tân, yr hwn yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân yr hwn oedd ar yr aelwyd.
24Ac ni synnodd arnynt, ac ni rwygasant eu dillad: y brenin, nai holl weision ef y rhai a glywsant yr holl eiriau hynn:
25Er i Elnathan, a Dalaiah, a Gamariah ymbili a’r brenin am na losce efe y llyfr: etto ni wrandawodd efe arnynt:
26Onid y brenin a orchymynnodd i Ierahmel fab Hamelech, Saraiah fab Ezriel, a Selemiah fab Abdiel, ddala Baruc yr scrifennydd, ac Ieremi y prophwyd: ond yr Arglwydd ai cuddiodd hwynt.
27Yna y daeth gair yr Arglwydd at Ieremi (wedi i’r brenin losci y llyfr, a’r geiriau a scrifenase Baruc o enau Ieremi) gan ddywedyd:
28Dychwel, cymmer i ti etto lyfr arall, ac scrifenna di arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oeddynt yn y llyfr cyntaf, yr hwn a loscodd Iehoacim brenin Iuda.
29A dywet ti wrth Iehoacim brenin Iuda, fel hynn y dywed yr Arglwydd, ti a loscaist y llyfr hwn gan ddywedyd, pa ham yr scrifennaist ynddo drwy ddywedyd? diau y daw brenin Babilon ac a anrheithia y wlad hon: ac efe a wnaiff i ddŷn ac i anifail ddarfod o honi?
30Am hynny fel hynn y dywed yr Arglwydd am Iehoacim frenin Iuda: Iere.22.19.ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhin-faingc Dafydd, ai gelain ef a fwrir allan i wrês y dydd, ac i rew y nôs.
31Ac mi a ymwelaf ag ef, ac ai hâd, ac ai weision am eu hanwiredd, ac mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Ierusalem, ac ar wŷr Iuda yr holl ddrwg yr hwn a leferais iw herbyn, ond na wrandawsant.
32Yna Ieremi a gymmerth lyfr arall, ac ai rhoddodd at Baruc fab Neriah yr scrifennydd, ac efe a scrifennodd ynddo o enau Ieremi holl eiriau y llyfr a loscase Iehoacim brenin Iuda yn tân: ac yn hytrach fe a chwanegwyd attynt eiriau lawer fel hwyntau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.