1Y Baich yr hwn a welodd y prophwyd Habacuc.
2Pa hŷd Arglwydd y gwaeddaf, ac ni’s gwrandewi? y bloeddiaf arnat trais, ac ni’s achubi?
3Pa ham y gwnei i’m weled coegni, ac y peri i’m edrych ar flinder? anrhaith, a thrais ar fyng-hyfer, ac y mae a gyfodd ddadl, ac ymryson,
4Am hynny y torrir cyfraith, ac nid aiff barn allan, am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn: am hynny cam farn a aiff allan.
5Gwelwch ym mysc y cenhedloedd, ac edrychwch, aruthrwch, rhyfeddwch, canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau ni choeliwch er ei mynegu i chwi.
6Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenhedlaeth chwerw, a phrysur, yr hon a rodia ar hŷd llêd y tîr i etifeddu cyfanneddoedd ni eiddi hi.
7Y mae iw hofni, ac iw harswydo, o honi ei hun y daw allan ei barn, ai rhagoriaeth.
8Ai meirch fyddant fuanach na’r lleopardiaid: Soph.3.3.a llymmach fyddant nâ bleiddiau’r hŵyr, ei marchogion hefyd a amlhânt, ai marchogion a ddeuant o bell, ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd.
9Hi oll a ddaw i dreisio: ar gyfer ei hwyneb y gwynt y dwyrain, ac hi a gascl garcharorion fel y tywod.
10Ac hi a watwar frenhinoedd, a thywyssogion a fyddant watwargerdd iddi, hi a watwar yr holl gestyll, ac a gascl lŵch, ac ai gorescyn.
11Yna y newidia hi yspryd, ac y trosedda ei grym ymma iw duw ei hun.
12Onid ti er cynt ô Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd ni byddwn feirw ô Arglwydd, ti ai gosodaist hi er barn, ac aisylfaenaist ô Dduw er cospedigaeth.
13Ydwyt lanach dy lygaid nâ gweled drwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: pa ham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, y tewi pan lyngco’r anwir cyfiawnach nag ef ei hun?
14Ac y gwnei ddynion fel pysc y môr, fel yr ymlusciaid heb lywydd iddynt?
15Cyfyd hwynt oll ai fâch, cascl hwynt yn ei rwyd, a chynnull hwynt yn er fagl am hynny efe a lawenycha ac a ymddigrifa.
16Am hynny ’r abertha efe iw rwyd; ac a lysc arogl-darth iw fagl: canys trwyddynt hwy y mae ei ran yn dew, ai fwyd yn frâs.
17A gaiff efe gan hynny danu ei rwyd? ac nad arbedo ladd cenhedlaethau bob amser?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
