1Yn y dyddiau hynny nid frenin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth Dan oedd yn ceisio iddo etifeddiaeth i drigo, canys ni Iosua 19.47.syrthiase iddo ef hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ym mysc llwythau Israel.
2Am hynny meibion Dan a anfonasant oi tŷ lwyth hump o wŷr oi brô gwŷr grymmus, o Sorah, ac o Esthaol i gerdded y wlâd, ac iw chwilio, ac a ddywedasant wrthynt, ewch, chwiliwch y wlâd; yna y daethant i fynydd Ephraim hyd tŷ Micah ac a letteuasant yno.
3[Pan oeddynt] hwy wrth dŷ Micah, yna hwynt a adnabuant lais y llangc y Lefiad: ac a droasant yno, ac a ddywedasant wrtho, pwy a’th ddûg di ymma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur ymma? a pheth i ti ymma?
4Ac efe a ddywedodd wrthynt, fel hyn, ac fel hyn y gwnaeth Micah i mi: ac efe a’m cyflogodd i, ai offeiriad ef ydwyfi.
5A hwynt a ddywedasant wrtho ef, ymgynghora attolwg a Duw: fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr hon yr ydym ni yn rhodio arni.
6A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt ewch mewn heddwch: yr Arglwydd a lwydda eich ffordd chwi yr hon a gerddwch chwi.
7Yna y pum-wr a aethant ymmaith, ac a ddaethant i Lais: pan welsant hwy y bobl y rhai ynddi yn trigo mewn diogelwch yn ôl arfer y Sidoniaid yn llonydd, ac yn ddiofal, ac heb ddim yn gwneuthur sarhaed ar y wlad, yn etifeddu y frenhiniaeth, ai hwynt ym mhell oddiwrth y Sidoniaid, ac heb gyweithas rhyngddynt a neb.
8Yna y daethant at eu brodyr i Sorah, ac Esthoal: ai brodyr a ddywedasant wrthynt, beth chwi?
9Hwythau a ddywedasant, cyfodwch ac awn i fynu arnynt, canys gwelsom y wlâd, ac wele da iawn ai tewi’r ydych chwi? na russwch fyned i ddyfod i mewn i orescyn y wlâd.
10(Pan ddeloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlâd ehang therfynau) canys Duw ai rhoddodd hi yn eich llaw chwi: lle’r hwn nid ynddo brinder o ddim oll a’r y yn y byŷd.
11Am hynny yr aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sorah, ac o Esthaol chwe chanwr wedi ymwregyssu ag arfau rhyfel.
12A hwynt a aethant i fynu, ac a werssyllasant yn Ciriath-Iearim yn Iuda: am hynny y galwasant y fann honno * Mahaneh Dan hyd y dydd hwn, wele o’r tu ôl i Ciriath-Iearim.
13Ac hwy a aethant oddi yno i fynydd Ephraim: a daethant hyd tŷ Micah.
14A’r pum-wr y rhai a aethent i chwilio gwlâd Lais a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, oni ŵyddoch chwi fod yn y tai hyn Ephod, a Theraphiaid, a delw gerfiedic, a thoddedic: : gan hynny gwybyddwch yn awr beth a wneloch.
15A hwy a droasant yno, ac a ddaethant hyd dŷ y llangc y Lefiad nhŷ Micah: ac a gyfarchasant iddo yn heddychlon.
16A’r chwe chan-wr y rhai oeddynt wedi eu gwregyssu ag arfau rhyfel, oeddynt yn sefyll ddrws y porth: y rhai o feibion Dan.
17Yna’r pum-wr y rhai a aethent i chwilio y wlâd a escynnasant, a aethant i mewn yno, dugasant ymmaith y ddelw gerfiedic a’r Ephod, a’r Teraphiaid, a’r ddelw doddedic: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth gyd a’r chwe-chan-wr y rhaioeddynt wedi ymwregyssu ag arfau rhyfel.
18Pan aeth y rhai hynny i dŷ Micah, a ddugasant ymmaith y ddelw gerfiedic, yr Ephod, a’r Teraphiaid, a’r ddelw doddedic: yna’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?
19Hwyntau a ddywedasant wrtho, taw-sôn, gosot dy law ar dy safn, a thyret gyd a ni, a bydd i ni yn dâd ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ vn gŵr? na’th fod yn offeiriad i lwyth, ac i deulu yn Israel?
20A da fu galon yr offeiriad, ac efe a gymmerth yr Ephod, a’r Teraphiaid, a’r ddelw gerfiedic rac efe a aeth ym mysc y bobl.
21A hwynt a droasant, ac a aethant ymmaith: ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r golud oi blaen hwynt.
22[Pan] oeddynt hwy ym mhell oddi wrth dy Micah: yna y gwŷr y rhai yn y tai, y rhai wrth dŷ Micah, a ymgasclasant, ac a erlidiasant feibion Dan.
23A hwynt a waeddasant ar feibion Dan, hwythau a droasant eu hwynebau: ac a ddywedasant wrth Micah: beth i ti pan ydwyt yn bloeddio?
24Yntef a ddywedodd, y duwiau y rhai a wneuthum i a ddugasoch chwi ymmaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd, a pheth gennifi mwyach? pa ham gan hynny y dywedwch wrthif beth i ti?
25A meibion Dan a ddywedasant wrtho, na phâr glywed dy lef yn ein mysc ni: rhac i wŷr digllon ruthro i’th erbyn, a cholli o honot dy enioes, ac enioes dy
26Felly meibion Dan a aethant iw ffordd: pan ganfu Micah mai cryfach oeddynt hwy nag ef, yna efe a drôdd, ac a ddychwelodd iw dy ei hun.
27A hwynt a gymmerasant yr hyn a wnaethe Micah, a’r offeiriad yr hwn oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais at bobl lonydd, a diofal, ac ai tarawsant hwynt a mîn y cleddyf: ac a loscasant y ddinas a thân.
28Ac nid waredudd, canys pell hi oddi wrth Sidon, ac nid cyweithas rhyngddynt a nêb, hefyd hi mewn dyffryn yr hwn wrth Bethrehob: yna’r adailadasant y ddinas, ac a drigasant ynddi.
29A galwasant Iosua.19.47.enw y ddinas Dan, yn ôl henw Dan eu tad yr hwn a anesyd i Israel: ac er hynny Lais henw y ddinas yn gyntaf.
30Yna meibion Dan a osodasant iddynt y ddelw gerfiedic: ac Ionathan mab Gersom mab Manasses efe ai feibion fuant yn offeiriaid i lwyth Dan, hyd ddydd caeth gludiad y wlâd.
31Felly y gosodasant iddynt y ddelw gerfiedic yr hon a wnaethe Micah, yr holl ddyddiau a’r y bu tŷ Dduw yn Silo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.