Iob 32 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXII.Elihu (pan dawodd Iob ai dri chyfaill) yn gofyn canniad i ddywedyd ei feddwl.

1Felly y tri gŵr ymma a beidiasant ag atteb i Iob: am ei efe yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

2A digofaint Elihu mab Berachel y Buziad o genedl Ram a gynneuodd, ei ddigofaint ef a enynnodd yn erbyn Iob am farnu o honaw ef ei enaid yn gyfiawn ger bron Duw.

3Ai ddigofaint ef a gynneuodd yn erbyn ei dri chyfaill, am na chawsent hwy atteb, gan farnu o honynt hwy Iob yn euog.

4Elihu hefyd a arhosasse ar Iob yn ei eiriau: canys yr oeddynt hwy yn hynach nag ef o oedran.

5Pan welodd Elihu nad atteb gan y try-wŷr, yna y cynneuodd ei ddigofaint ef.

6Am hynny Elihu mab Barachel y Buziad a attebodd, ac a ddywedodd, ieuangc ydwyf o oedran, chwithau henuriaid: am hynny’r arswydais, ac yr ofnais ddangos fyng-ŵybodaeth i chwi.

7Meddyliais dyddiau a draethant, alliaws o flynyddoedd a ddyscant ddoethineb.

8Ond y mae yspryd mewn dŷn: ac ysprydoliaeth yr Holl-alluog sydd yn gwneuthur iddynt hwy ddeall.

9Nid mawrion fyddant ddoeth: ac nid henaf-gwŷr a ddeallant farn

10Am hynny y dywedais, gwrando fi: minne a ddangosaf fyng-ŵybodaeth.

11Wele disgwiliais am eich geiriau, clust-ymwrandewais hyd oni eich deall chwi, tra y chwiliasoch chwi am eiriau.

12Ystyriais hefyd wrthych chwithau, ac wele nid o honoch yn argyoeddu gan atteb ei eiriau ef.

13Rhac dywedyd o honoch, ni a gawsom ddoethineb: y mae Duw yn ei chwalu ef, ac nid dŷn.

14Er na hwyliodd efe ymadroddion yn fy erbyn i: myfi ai hattebaf ef, ond nid fel yr attebasoch chwi.

15Hwy a ddychrynnasant, nid attebasant mwy: gwrthodasant lefaru.

16Wedi disgwil o honof, gan na lefarant, eithr sefyll heb atteb mwy,

17Minne a attebaf fy rhan, minne a ddangosaf fyng-ŵybodaeth.

18Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yspryd ynof yn fyng-hymmell i.

19Wele fy mol fel gwîn yr hwn nid agorid: y mae efe yn hollti fel costrêlau newyddion.

20Dywedaf fel y cafwyf fy anadl: agoraf fyng-wefusau, ac attebaf.

21Ni dderbynniaf yn awr wyneb neb: ni ragrithiaf wrth ddyn.

22Canys ni wn pe rhagrithiwn pa gynted i’m cymmere fyng-wneuthur-wr fi ymmaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help