Diharebion 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.

1Gwatwarus yw gwin, a therfyscaidd yw diod gadarn: pwy bynnac a sommer ynddi nid yw ddoeth.

2 Pen.19.21. Megis rhuad llew ieuangc yw ofn y brenin: y mae pwy bynag ai cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun.

3Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fynn ymmyrreth.

4Y diog ’r hwn nid ardd o herwydd y gaiaf, a aiff i gardotta yr haf, pryd na byddo dim ganddo ef.

5Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng-halon gŵr: etto’r gŵr call ai tynn allan.

6Llawer dŷn a gyhoedda ei drugaredd, ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon?

7Plant y cyfiawn a rodio yn iniawn, gwyn eu bŷd ei blant ar ei ôl.

8Brenin yn eistedd ar orsedd barn a wascar ai lygaid bob drwg.

9 1.Br 8.46.|1KI 8:46. 2.Cron.6.46.(sic.)|2CH 6:36. Ecclus.7.21|SIR 7:21. 1.Ioan.1.8. Pwy a ddichon ddywedyd? mi a garthais fyng-halon: glân wyf oddi wrth fy mhechod.

10Amryw bwysau ac amryw fesurau: ffiaidd gan yr Arglwydd bob vn o’r ddau.

11Bachgen a adweinir wrth ei ymddygiad: ai pûr ai iniawn yw ei waith.

12Yr Arglwydd a wnaeth bob vn o’r ddau, y glust i glywed, ar llygad i weled.

13Na char gyscu rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel i’th ddigonir a bara.

14Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan el o’r nailldu efe a ganmola ei hun.

15[Gwerth-fawr] yw aur a gemmau lawer: ond gwefusau gwybodaeth ydynt ddodrefn gwerthfawroccach.

16 Pen.27.13. Cymmer wisc y gwr a fachnio dros estron: a chymmer wystl gan y neb a fachnio dros estrones.

17Melus gan ŵr fara ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â gro.

18Siccrhâ dy fwriadau drwy gyngor: a thrwy gyngor diysceulus dos i ryfela.

19Y neb a ddadcuddia Pen.11.13.gyfrinach, y neb a fyddo yn athrodwr, a’r ehud ei wefusau na ymmyr â hwynt.

20 Exod.21.17. Lefit.20.9. Matth.15.4. Y neb a felldithio ei dad ai fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch dû.

21Yr etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad, ni ffynna yn y diwedd.

22Na ddywet, Deut.32.35. Pen.17.13.mi a dala ddrwg: disgwil wrth yr Arglwydd ac efe a’th achub.

23 Pen.11.1,10. Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau: a chlorian twyllodrus nid yw dda.

24 Iere.10.23. Gan yr Arglwydd llwybrau gŵr: ond beth a ddeall dŷn oi ffordd oi ffordd.

25Magl yw i ŵr lyngcû peth cyssegredig: ac wedi ei addunedau ymofyn.

26Brenin doeth a wascar yr annûwiol: ac a drŷ’r olwyn arnynt.

27Megis cannwyll yr Arglwydd yw enaid dŷn yr hon fydd yn chwilio holl gelloedd y bol.

28 Dihar.29.14. Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; ai orseddfa a gadarnheir drwy drugaredd.

29Harddwch gwŷr ieuaingc eu nerth: ac anrhydedd henafgwŷr yw gwallt gwyn.

30Cleisiau, briwiau, a dyrnodiau yn curo celloedd y bol, ydynt scrafellau’r annuwiol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help