1Ac efe a
47A’r Iesu wrth weled meddwl eu calonneu hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl,
48Ac a ddywedodd wrthynt: pwy bynnag a dderbyn y bachgennyn hwn yn fy enw i sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m anfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith oll, fydd mawr.
49Ioan Marc.9.38.a attebodd ac a ddywedodd, ô feistr ni a welsom ryw vn yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50A’r Iesu a ddywedodd wrthynt: na waherddwch: canys y neb nid yw i’n herbyn, sydd gyd â ni.
51A bu wedi cyflawni dyddiauei gymmeriad ef i fynu, ymsycrhau o honaw ef i fyned i Ierusalem.
52Ac efe a ddanfonodd gennadau oi flaen, y rhai a gerddasant, ac a aethant i dref y Samariaid i baratoi iddo ef.
53Eithr hwynt ni dderbynient ef, am fod ei wyneb ef ar fyned tu ag Ierusalem.
54Pan wêlodd ei ddiscybliō Iaco ac Ioan hwynt hwy a ddewedasant, ô Arglwydd a fynni di i ni ddywedyd am ddyfod tân o’r nef a’u difa hwynt, 2.Bren.1.10.megis y gwnaeth Elias?
55A’r Iesu a droes ac a’u ceryddodd hwynt, gan ddywedyd, ni ŵyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.
56Ni Math.8.19. ddaeth Mab y dŷn i golli eneidiau dynion onid iw cadw: yna yr aethant i dref arall.
57A bu hwynt yn myned ddywedyd o ryw vn ar y ffordd wrtho ef: ô Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
58A’r Iesu a ddywedodd wrtho: y mae gan y llwynogod eu ffauau, a chan adar yr awyr eu nythod: eithr Mab y dŷn nid oes ganddo le i roi ei ben i lawr
59Ac efe a ddywedodd wrth vn arall, Math.8.22.dilyn fi, ac yntef a ddywedodd: Arglwydd gad i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
60A’r Iesu a ddywedodd wrtho, gad i’r meirw gladdu eu meirw: dos di a phregetha deyrnas Dduw.
61Ac arall a ddywedodd, mi a’th ddilynaf di ô Arglwydd, ond gad ti i mi yn gyntaf fyned a chanu yn iach i’r rhai sy yn fy nhŷ.
62A’r Iesu a ddywedodd wrtho: nid oes neb a’r a rydd ei law ar yr aradr, ac a edrycho ar ei ôl yn gymmwys i deyrnas Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
