1Ofer o naturiaeth yw ’r dynion oll y rhai y mae iddynt eisieu adnabod DuwRhuf.1.19.heb fedru adnabod yr hwn sydd, wrth y pethau da a welir: ac ni adnabuant y gweithudd, wrth ystyried y gwaith.
2Eithr hwy Deut.4.19|DEU 4:19 & 17.3.a dybiasant mai y tân, neu yr gwynt, neu yr awyr buan, neu gylch o ser, neu ddwfr chwyrn, neu oleuni y nefoedd oeddynt dduwiau yn llywodraethu y byd.
3Os am fôd yn hyfryd ganddynt degwch y rhai hyn y cymmerasant hwynt yn lle duwiau, gwybyddant pa faint gwell yw yr Arglwydd o blegit yr hwn sydd o naturiaeth yn awdur tegwch a greawdd y pethau hyn.
4Os eu gallu ai gweithrediad sydd ryfedd ganddynt hwy, ystyriant pa faint mwy yw gallu yr hwn ai gwnaeth hwynt.
5Wrth faint, a thegwch y pethau a grewyd yn gymwys, y gwelir yr hwn ai gwnaeth hwynt.
6Er hynny bai bychan sydd ar y rhai hyn, canys y maent hwy (mewn amryfus ond odit) yn ceisio Duw ac yn ewyllyssio ei gael ef.
7O blegit Rhuf.1.21.y maent hwy trwy drin ei waith ef yn chwilio ac yn coelio i’r golwg: o achos bôd y pethau a welîr yn dêg.
8Ac etto nid ydynt hwy escusodol.
9O blegit os gallent hwy ŵybod cymmaint a medru amcanu at y bŷd: pa ham na chawsant hwy yn gynt Arglwydd y pethau hynny:
10Annedwŷdd ydynt hwy, ai gobaith sydd ym mysc y meirw y rhai a alwasant waith dwylo dŷnion yn dduwiau, sef aur ac arian, pethau wedi eu dychymyg trwy gelfyddyd, a lluniau anifeiliaid, neu garrec ddifudd o waith rhyw law gynt.
11Ac os Esay.44.13.|ISA 44:13. Iere.10.3.bydde saer pren wedi iddo ef dorri pren ystymmoc, a thynnu o amgylch ei holl riscl ef, a gwneuthur llestr buddiol i wasanaethu ei fywyd trwy gelfyddyd hardd.
12Ac ymlenwi wedi iddo ef dreulio ysclodion ei waith ar arlwy ei fwyd:
13Efe a gymmere yr hyn a fwrid ymmaith o honynt hwy yn bren ystwyrgam difudd i ddim, eithr yn llawn canghennau: ac ai cerfie yn ofalus pan gaffe ennyd, ac ai llunie yn ddehallgar, ac ai gwnai ar lun dŷn.
14Neu efe ai gwnai yn debyg i anifail gwael, gan ei amliwio â choch, ai beintio â lliw, a pheintio pôb gwrthyni ynddo.
15Ac wedi iddo wneuthur iddo breswylfod addas, efe ai gosode wrth y paret, ac ai siccrhae â haiarn.
16Efe a ofale ym mlaen llaw rhag iddo syrthio, gan wybod na alle efe help iddo ei hun, o blegit delw yw efe, ac yn rhaid iddo wrth help.
17Er hynny pan weddio efe am dda, neu am ddyweddi iddo ei hun, neu am blant,
18Ni bydde arno ef gywilydd lefaru wrth y marw: eithr efe a alwe ar y gwan am iechyd, ac a ofynne hoedl i’r marw, ac a ymbilie am help gan yr hwn ni ŵydde ddim:
19Am ei daith y gweddie efe at yr hwn ni alle gerddet, ac efe a fynne gael llwyddiant mewn elw gwaith a dedwddywch llaw, gan yr hwn sydd fyscrell ei law.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.