Deuteronomium 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.1 Y rhaî ni chaent swyddau. 9 Am bechod ac aflendid. 15 am wâs ar encil. 17 am butteindra. 19 am addunedau. 24 Rhydd-did ar rawn-win ac yd gwr arall.

1Na ddeued efnuch, neu dispadd i gynnulleidfa’r Arglwydd.

2Na ddeued basterdyn i gynnulleidfa’r Arglwydd: y ddecfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynnulleidfa’r Arglwydd.

3Na ddeled Nehem.13.1.Ammoniad, na Moabiad i gynnulleidfa’r Arglwydd: y ddecfed genhedlaeth hefyd o honynt na ddeued i gynnulleidfa’r Arglwydd yn dragywydd:

4O blegit ni chyfarfuant chwi a bara, ac a dwfr yn y ffordd wrth eich dyfod o’r Aipht: ac Num.22.5.o achos cyflogi i’th erbyn Balaam fab Beor o Pethor Mesopotamia i’th felldichio di.

5Etto’r Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam, onid trôdd yr Arglwydd dy Dduw y felldith yn fendith it: canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dy di.

6Na chais eu heddwch hwynt, nai daioni hwynt dy holl ddyddiau byth.

7Na ffieiddia Edomiad canys dy frawd yw: na ffieiddia Aiphtiad, o herwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.

8Deued o honynt i gynnulleidfa’r Arglwydd, y drydedd genhedlaeth o’r meibion, y rhai a genhedlir iddynt.

9Pan elech allan gwerssyll yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhac pôb peth drwg.

10O bydd vn o honot yr hwn ni fyddo lân oddi wrth ddamwain nôs: eled allan o’r gwerssyll, na ddeued o fewn y gwerssyll.

11Ac ym mîn yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo yr haul deued i fewn y gwerssyll.

12A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwerssyll: ac yno yr ei di allan.

13A bydded gennit raw ym mysc dy arfau, a bydded pan eisteddech allan gloddio o honot a hi, yno trô di a gorchguddia dy dom.

14O herwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ym mhlith dy werssyllau i’th waredu, ac i roddi dy elynnion o’th flaen di, am hynny bydded dy werssyllau yn sanctaidd: fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthit.

15Na ddyro at ei feistr wâs yr hwn a ddiangodd attat o ddi wrth ei feistr.

16Gyd a thi y trîg yn dy fysc, yn y fan yr hon a ddewiso, yn vn o’th byrth di, lle byddo da ganddo: na chystuddia ef.

17Na fydded puttain o ferched Israel: ac na fydded putteini-wr o feibion Israel.

18Na ddwg wobr puttain, na gwerth cî dŷ’r Arglwydd dy Dduw mewn vn adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw di.

19Na chymmer lôg gan dy frawd llôg arian, llôg bwyd, Exod.22.25.(sic.)|EXO 22:15. lefit.15.36.(sic.)[na] llôg dim oll a’r a lôger.

20Gan estron y cymmeri lôg, ond na chymmer lôg gan dy frawd: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddech dy law arno, yn y tîr yr hwn yr ydwyt yn myned iddo iw orescyn.

21Pan addunedech adduned i’r Arglwydd dy Dduw nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn ai gofyn gennit, yna y bydde yn bechod ynot.

22Ond os peidi ac addunedu ni bydd pechod ynot.

23Cadw, a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau, megis yr addunedailt i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd yr hwn a draethaist o’th enau.

24Pan ddelech i winllan dy gymydog, yna bwytta o rawn-win dy wala wrth dy feddwl, ond na ddod i’th lestr

25Pan ddelech i ŷd dy gymydog, Mat.12.1.yna y cei dynnu y twyssennau a’th law: ond ni chei osod crymman ar ŷd dy gymydog.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help