Luc 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Pregeth Ioan. 21 Bedyddiad Crist a’i achau.

1Yn y bymthecfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cæsar, a Phontius Pilatus yn rhaglaw Iudæa, a Herod yn Detrarch Galilæa, a’i frawd Philip yn Detrarch Ituræa a gwlâd Trachonitis, a Lysanas yn Detrarch Abilene,

2Tan yr

8Dygwch am hynny ffrwyth addas i edifeirwch: ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y gall Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9Yr awran y mae’r fwyall wedi ei gosod ar wraidd y prennau: pôb pren gan hynny a’r ni ddwg ffrwyth da a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10Yna y gofynnodd y bobl iddo gan ddywedyd: pa beth gan hynny a wnawn ni?

11Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: y Iac.2.15|JAS 2:15. 1.Ioan 3.17.neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr vn: a’r neb sydd ganddo fwyd gwnaed yr vn modd:

12A’r Publicanod hefyd a ddaethant iw bedyddio, ac a ddywedasant wrtho: yr Athro, beth a wnawn ni?

13Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ofynwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14A’r milwŷr hefyd a ofynnasant iddo ef, gan ddywedyd: a pha beth a wnawn ninnau? ac efe a ddywedodd wrthynt: na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb, a byddwch fodlon i’ch cyflog.

15Fel yr oedd y bobl yn disgwil, a phawb yn meddylied yn eu calonneu am Ioan, ai efe oedd y Crist:

16Yna yr attebodd Ioan gan ddywedyd wrthynt oll: myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio Math.3.11. Marc.1.8. Ioan.1.26. Act.1.15. & 2.4. & 11.16. & 19.4chwi â dwfr, ond y mae vn sydd gryfach nâ myfi yn dyfod, yr hwn nid wyfi deilwng i ddattod carrei ei escid: efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd glân, ac â thân.

17Yr hwn y mae ei wyntill yn ei law, ac efe a lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith iw scubor, a’r vs a lysc efe â thân anniffoddadwy.

18A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.

19Herod Math.14.3. Marc.1.9. Ioan 1.33.y Tetrarch pan geryddwyd ganddo ef am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethe efe,

20A chwanegodd hefyd heb law’r cwbl roi Ioan yng-harchar.

21A bu, pan oeddyd yn bedyddio yr holl bobl a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddio, agoryd o’r nef,

22A’r Yspryd glân a ddescynnodd mewn rhith corphorawl megis colommen arno ef, a llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab: ynot ti i’m bodlonwyd.

23A’r Iesu ei hun oedd yng-hylch dechreu ei ddeng-mlwydd ar hugein oed, mab (fel y tybid) i Ioseph Eli,

24[Fab] Matthat Lefi, Melchi, Ianna, Ioseph,

25[Fab] Matthathias, Amos, Naum, Esli, Naggai,

26[Fab] Maath, Matthathias, Semei, Ioseph, Iuda,

27[Fab] Ioanna, Rhesa, Zorobabel, Salathiel, Neri,

28[Fab] Melchi, Adi, Cosam, Elmodam, Er,

29[Fab] Iose, Eliazer, Iorim, Matthat, Lefi,

30[Fab] Simeon, Iuda, Ioseph, Ionan, Eliacim,

31[Fab] Melea, Mainan, Mattatha, Nathan, Dafydd,

32[Fab] Iesse, Obed, Booz, Salmon, Naasson,

33[Fab] Aminadab, Aram, Esron, Phares, Iuda,

34[Fab] Iacob, Isaac, Abraham, Thara, Nachor,

35[Fab] Seruch, Ragau, Phalec, Heber, Sala,

36[Fab] Cainan, Arphaxad, Sem, Noe, Lamech,

37[Fab] Mathusala, Enoch, Iarad, Maleleel, Cainan,

38[Fab] Enos, Seth, Adda, Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help