Ioan 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.Y discyblion yn pyscotta yn ofer nes ymddangos o Grist iddynt, ac yn pyscotta wrth archiad Crist, ac yn ffynnu, 13 yr Iesu yn torri y bara a’r pyscod, 15 Iesu yn gorchymyn porthi ei ddefaid, 18 ac yn dangos i Betr y bydde raid iddo ddioddef hefyd, 20 Geiriau Crist a Phetr yng-hylch Ioan Efengyl-wr.

1Gwedi hynny yr ymddangosodd yr Iesu eil-waith iw ddiscyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd.

2Simon Petr a Thomas, hwn a elwir Didymus, a Nathanael yr hwn oedd o Cana yn Galilæa, a Zebedêus a dau eraill o’i ddiscyblion ef oeddynt yng-hŷd.

3A dywedodd Simon Petr wrthynt, mi a âf i byscotta: hwythau a ddywedasant, ninnau a awn gyd â thi, ac hwy a aethant, ac yn y man hwy a ddringâsant i’r llong, ac ni ddaliasant hwy ddim y nôs honno.

4Ac yn awr wedi dyfod y boreu, yr Iesu a safodd ar y lann: ond ni ŵydde y discyblion mai Iesu ydoedd.

5Yna Iesu a ddywedodd wrthynt, ô blant a oes gennwch ddim bwyd? attebasant iddo, nac oes.

6Yntef a ddywedodd wrthynt, bwriwch allan y rhwyd i’r tu dehau i’r llong, a chwi a gewch, felly y bwriasant allan, ac ni allent ei thynnu rhag maint lliaws y pyscod.

7Yna y dywedodd y discybl yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu wrth Petr: yr Arglwydd yw efe, yna Simon Petr pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisc (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr.

8Eithr y discyblion eraill a ddaethant mewn llong, (o blegit nid oeddynt bell oddi wrth dir ond yng-hylch dau-cant cufydd) dan dynnu y rhwyd pyscot,

9A chyn gynted y daethant i dîr, hwy a welent farwar a physcod wedi eu dodi arnynt, a bara.

10Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Moeswch ymma o’r pyscod a ddaliasoch yr awron.

11Simon Petr a escynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir yn llawn o byscod mawrion, cant a thri ar ddêc a deugain, ac er bod cymmaint, ni thorodd y rhwyd.

12Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, dewch cinniewch, ac ni feiddie vn o’r discyblion ofyn iddo, pwy wyt ti? am eu bod yn gŵybod mai yr Arglwydd oedd efe.

13Yna y daeth yr Iesu, ar a gymmerth fara, ac a’i dodes iddynt, a’r pyscod yr vn modd.

14Dymma yr awr hon y drydedd waith yr ymddangosod Iesu iw ddiscyblion, wedi iddo adgyfodi o feirw.

15Ac wedi iddynt giniâwa, Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon Iona, a wyt ti yn fyng-haru i, yn fwy nag y y rhai hyn? efe a ddywedodd, ydwyf, Arglwydd: ti a ŵyddost y caraf di: yna y dywedodd wrtho, portha fy ŵyn.

16Ac efe a ddywedodd wrtho eil-waith, Simon Iona, a wyt ti yn fyng-haru i? yntef a ddywedodd wrtho, ydwyf Arglwydd, ti a ŵyddost fy môd yn dy garu: efe a ddywedodd wrtho, portha fy nefaid.

17Ac efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon Iona, a wyt ti yn fyngharu i? Phetr a dristâodd, am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, a wyt ti yn fyngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho: Arglwydd ti a ŵyddost bob peth, ti a ŵyddost y caraf di, Iesu a ddywedodd wrtho: portha fy nefaid.

18Yn wîr, yn wir meddaf i ti, pan oeddit iangach ti a ymwregysit, ac a rodiit lle mynnit, eithr pan fych hên, ti a estynni dy ddwylaw, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni byddo ewyllys gennit.

19A hyn a ddywedodd efe gan arwyddo, drwy ba fath angeu y gogonedde efe Dduw, ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, canlyn fi.

20Yna y troes Petr, ac y gwelodd y discybl yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn, yr hwn hefyd Yr Iesu a ddywedodd wrtho: os ewyllysiaf iddo aros oni ddelwyf, beth i ti? canlyn di fy-fi.

23Yna yr aeth y gair hwn ym mhlith y brodyr, na fydde y discybl hwnnw farw: eithr ni ddywedase Iesu wrtho na fydde efe farw, ond, os ewyllysiaf iddo aros oni ddelwyf, beth i ti?

24Dymma y discybl hwnnw, yr hwn sydd yn testiolaethu am y pethau hyn, ac a scrifennodd y pethau hyn, ac ni a ŵyddom fod ei destiolaeth ef yn wîr.

25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai pe scrifennid bob yn vn,

Terfyn y sanctaidd Efengyl yn ôl S. Ioan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help