Aggeus 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Aggeus sydd yn dangos y bydd mwy gogoniant yr ail Deml, na’r Deml gyntaf.

1Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mîs, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.

2Yn y seithfed yr vnfed ar hugain o’r mîs y daeth gair yr Arglwydd trwy law y prophwyd Aggeus, gan ddywedyd:

3Dywet yn awr wrth Zorobabel fab Salathiel tywysog Iuda, ac wrth Iosua fâb Iosedec yr arch-offeiriad, ac wrth weddill y bobl gan ddywedyd:

4Pwy yn eich plith a adawyd yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid wrth hwnnw yn eich golwg, fel peth heb ddim?

5Ac yr awr hon cymmer gyssur Zorobabel medd yr Arglwydd, ac Iosua mab Iosedec yr arch-offeiriad, cymmer gyssur, a chymmered holl bobl y tîr gyssur, medd yr Arglwydd, a gweithiwch, canys yr fi gyd â chwi, medd Arglwydd y lluoedd.

6Fy Yspryd a saif gyd â chwi y gair yr hwn a ammodais â chwi, pan eich dygais allan o’r Aipht: nac ofnwch.

7Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, vnwaith etto (bychan hynny) a mi a escydwaf y nefoedd, a’r ddaiar, a’r môr, a’r sych.

8Cynhyrfaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant y cenhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniāt medd Arglwydd y lluoedd.

9Eiddo fi’r arian, ac eiddo fi’r aur, medd Arglwydd y lluoedd.

10Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf medd Arglwydd y lluoedd, ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnheddyf, medd Arglwydd y lluoedd.

11Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed yn yr ail flwyddyn i Ddarius y daeth gair yr Arglwydd at Aggeus y prophwyd gan ddywedyd:

12Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith gan ddywedyd:

13Os dwg vn gîg sanctaidd yng-hwrr ei wisc, ac ai gwrr â gyffwrdd a’r bara, neu a’r cawl, neu a’r gwîn, neu a’r olew, neu â dim o’r bwyd, a fydd sanctaidd a’r offeiriaid a attebasant, ac a ddywedasant, na

14Ac Aggeus a ddywedodd, os vn halogedic a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn, a halogir efe? a’r offeiriaid a attebasasāt, ac a ddywedasāt, halogir.

15Yna’r attebodd Aggeus, ac a ddywedodd, felly hefyd y bobl hyn, felly y genhedlaeth hon, ger fy mron medd yr Arglwydd: ac felly holl weithredoedd eu dwylo, a’r hyn a aberthant yno sydd halogedic.

16Ac yr awr hon meddyliwch atolwg o’r diwrnod hwn a chynt, cyn rhoddi carrec ar garrec yn Nheml yr Arglwydd:

17Cyn eu bôd hwynt, pan ddelid at dwrr o vgain dêc fydde, pan ddelid at y gwin-wryf i dynnu dêc a dau vgain o’r cafn, vgain a fydde yno.

18Tarewais chwi â diflanniad, ac â mall-der, ac â chenllysc yng-hyd ag oll weithredoedd eich dwylo, a chwithau ni attafi medd yr Arglwydd.

19Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwnnw, ac er cynt, o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd Teml yr Arglwydd.

20A yw’r hâd yn yr yscubor? y winwydden hefyd, y ffigusbren, a’r pomgranad, a’r pren oliwydd ni ffrwythasant etto: o’r dydd hwn allan y bendithiaf

21A gair yr Arglwydd a ddaeth ailwaith at Aggeus y pedwerydd ar hugain o’r mîs gan ddywedyd?

22Llefara wrth Zorobabel tywysog Iuda, gan ddywedyd: myfi a escydwaf y nefoedd, a’r ddaiar.

23Ymchwelaf deyrn-gader teyrnasoedd, a dinistriaf gryfder brenhiniaethau y cenhedloedd, ymchwelaf hefyd y cerbyd ai lwyth, y meirch, ai marchogion a syrthiant bôb vn ar gleddyf ei gilydd.

24Y diwrnod hwnnw i’th gymmeraf di fyng-wâs Zorobabel mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac i’th osodaf fel sêl, canys mi a’th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.

Terfyn llyfr Prophwydoliaeth Aggeus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help