1Geiriau Nehemias mab Hacalia, ym mis Cisleu yr vgainfed flwyddyn, pan oeddwn i ym mrenhin-lys Susan,
2Yna y daeth Hanani vn o’m brodyr, efe a gwŷr o Iuda: a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasent, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Ierusalem.
3A hwynt a ddywedasant wrthif, y gweddillion y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith mewn blinder mawr, a gwradwydd: mûr Ierusalem hefyd a ddrylliwyd, ai phyrth a loscwyd a thân.
4A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais, ŵylais hefyd, a galêrais ddyddiau a bum yn ymprydio, ac yn gweddio ger bron Duw y nefoedd,
5A dywedais, attolwg Dan.9.4.Arglwydd Dduw y nefoedd, (y Duw mawr, ac ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfammod a thrugaredd i’r rhai ai carant ef, ac a gadwant ei orchymynnion)
6Bydded attolwg dy glust yn clywed, a’th lygaid yn agored i wrando ar weddi dy wâs, yr hon yr ydwyfi yn ei gweddio ger dy fron di ddydd a nôs dros feibion Israel dy weision: ac yn cyffessu pechodau meibion Israel y rhai a bechasom i’th erbyn, mynne hefyd a thy-lwyth fy nhâd a bechasom.
7Gan lygru y llygrasom i’th erbyn: ac ni chadwasom y gorchymynnion, na’r barnedigaethau, y rhai a orchymynnaist i Moses dy wâs.
8Cofia attolwg y gair yr hwn a orchymynnaist wrth Moses dy wâs gan ddywedyd: chwi a drosseddwch, Deut.30.4.mynne a’ch gwascaraf chwi ym mysc y bobloedd.
9Ond dychwelwch attafi, a chadw fyng-orchymynnion, ai gwneuthur hwynt: pe bydde eich gwthiad chwi hyd eithaf y nefoedd, mi a’ch casclaf chwi oddi yno, ac a’ch dygaf i’r lle’r hwn a etholais i drigo o’m henw ynddo.
10A hwynt dy weision, a’th bobl: y rhai a ryddhêaist a’th fawr allu, ac a’th law nerthol.
11Attolwg Arglwydd bydded yn awr dy glust yn gwrando ar weddi dy wâs, ac ar weddi dy weision y rhai ydynt yn ewyllysio ofni dy enw, llwydda hefyd attolwg dy wâs heddyw, a chaniadhâ iddo trugâredd ger bron y gŵr hwn: canys myfi oeddwn drulliad i’r brenin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
