Ieremi 28 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVIII.Gau brophywydoliaeth Hananias, 12 A chywir brophwydoliaeth Ieremi.

1Ac yn y flwyddyn honno yn nechreu teyrnasiad Sedecia brenin Iuda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pummed mîs y llefarodd Hananias mab Azzur y prophwyd yr hwn oedd o Iosu.21.17.Gibeon wrthifi yn nhŷ yr Arglwydd yng-ŵydd yr offeiriaid, a’r holl bobl gan ddywedyd:

2Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel gan ddywedyd: myfi a dorrais iau brenin Babilon.

3O fewn yspaid dwy flynedd myfi a ddygaf trachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd y rhai a ddug Nabuchodonosor brenin Babilon ymmaith o’r lle hwn, ac ai cludodd i Babilon.

4Ac mi a ddygaf Iechonias fab Iehoacim frenin Iuda, a holl gaeth-glud Iuda (y rhâi a aethant i Babilon) trachefn i’r lle hwn, medd yr Arglwydd: canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

5Yna Ieremi y prophwyd a ddywedodd wrth Hananias y prophwyd yng-ŵydd yr offeiriaid, ac yng-ŵydd yr holl bobl y oeddynt yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd.

6A’r prophwyd Ieremi a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr Arglwydd: yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di, y rhai a brophwydaist, am ddwyn trachefn lestri tŷ yr Arglwydd, a’r holl gaeth-glud o Babilon i’r lle hwn.

7Etto, gwrando di yr awr hon y gair ymma yr hwn a lefarafi lle y clywech di, ac lle y clywo yr holl bobl.

8Y prophwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithe er ioed, ac a brophwydâsant am wledydd lawer, ac am deyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddryg-fyd, ac am haint.

9Y prophwyd yr hwn a brophwyde am heddwch, pan ddele gair y prophwyd yr adnabyddid y prophwyd, mai yr Arglwydd ai hanfonase ef mewn gwirionedd,

10Yna Hananias y prophwyd a gymmerodd y gefyn oddi am wddf Ieremi y prophwyd, ac ai torrodd ef.

11A Hananias a lefarodd yng-ŵydd yr holl bobl gan ddywedyd, fel hynn y dywedodd yr Arglwydd, y modd hynn y torrafi iau Nabuchodonosor brenin Babilon o fewn yspaid dwy flynedd oddi ar warr pob cenhedlaeth: ac Ieremi y prophwyd a aeth i ffordd.

12Yna y daeth gair ’r Arglwydd at Ieremi wedi i Hananias y prophwyd dorri y gefyn oddi am wddf y prophwyd Ieremi, gan ddywedyd:

13Dos di a dywet wrth Hananias gan ddywedyd: fel hynn y dywedodd, yr Arglwydd: gefynnau prenn a dorraist ti, ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haiarn.

14Canys fel hynn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, rhoddaf iau o haiarn, ar warr yr holl genhedloedd hynn, fel y gwasanaethont Nabuchodonosor frenin Babilon, îe hwynt ai gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.

15Yna Ieremi y prophwyd a ddywedodd wrth Hananias y prophwyd, gwrando atolwg Hananias, ni anfonodd yr Arglwydd mo honoti, a thi a wnaethost i’r bobl hyn goelio celwydd.

16Am hynny fel hynn y dywedodd yr Arglwydd, wele mi a’th anfonaf di allan o’r wlâd y flwyddyn hon y byddi farw: canys ti a leferaist yn wrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd.

17Felly Hananias y prophwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mîs.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help