1.Brenhinoedd 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Y frenhines Saba yn dyfod i ymweled ac i ofwyo Salomon, ac yn dychwelyd wedi clywed, a gweled arwyddion oi ddoethineb, ai gyfoeth ai gadernid ef, a rhoddi o bob vn roddion mawr iw gilydd.

1Pan glybu brenhines 2.Cron.9.1. Math.12.42. Luc.11.31.Saba glôd Salomon drwy enw’r Arglwydd: yna hi a ddaeth iw brofi ef mewn cwestiwnau caled.

2A hi a ddaeth i Ierusalem a llu mawr iawn, a chamêlod yn dwyn pêr aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Salomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

3A Salomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion hi: nid oedd dim yn guddiedic rhac y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi.

4Yna y canfu brenhines Saba holl ddoethineb Salomon: a’r tŷ’r hwn a adailadase efe.

5A bwyd ei fwrdd ef, ac eisteddiad ei weision ef, a threfn ei wenidogion ef, ai gwiscoedd hwynt, ai drulliadau ef, ai boeth offrymmau ef y rhai a offrymmodd efe yn nhŷ’r Arglwydd: ac nid oedd mwyach yspryd ynddi hi.

6A hi a ddywedodd wrth y brenin, gwîr yw’r gair yr hwn a glywais yn fyng-wlâd am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.

7Etto ni chredais i eiriau, nes i’m ddyfod ac i’m llygaid weled, ac wele ni fynegasid i mi’r hanner: mwy yw dy ddoethineb, a’th ddaioni, na’r glôd yr hon a glywais.

8Gwynfŷd dy wŷr di, gwynfydedic dy weision hyn, y rhai ydynt yn sefyll yn wastadol ger dy fron di yn clywed dy ddoethineb.

9Bendigedic fyddo dy Arglwydd Dduw’r hwn a’th hoffodd di i’th roddi ar deyrn-gader Israel: o herwydd cariad yr Arglwydd tu ag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin i wneuthur barn, a chyfiawnder.

10A hi a roddes i’r brenin chwech vgain talent o aur, a phêr aroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ni ddaeth y fath bêr arogl a hwn mwyach cyn amled, yr hwn a roddes brenhines Saba i’r brenin Salomon.

11A llongau Hiram hefyd (y rhai a gludasant aur o Ophir) a ddugasant o Ophir lawer iawn o goed 2.Cron.9.10. & 2.Cron.2.8.Almugim, ac o feini gwerthfawr.

12A’r brenin a wnaeth o’r coed Almugim annêlau i dŷ’r Arglwydd, ac i dŷ’r brenin, a thelynau, a psaltringau i’r cantorion: ni ddaeth o’r fath goed Almugim, ac nis gwelpwyd hyd y dydd hwn.

13A’r brenin Salomon a roddes i frenhines Saba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw’r hyn a roddodd efe iddi hi drwy ei law ei hun: felly hi a ddychwelodd, ac a aeth iw gwlâd, hi ai gweision.

14A phwys yr aur yr hwn a ddaeth i Salomon bob blwyddyn oedd chwe chant, a thri vgain, a chwech o dalentau aur.

15Heblaw gan y marchnadwŷr, a marsiandiaeth y llyssieuwŷr: a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlâd.

16A’r brenin Salomon a wnaeth ddau cant o dariannau aur dilin: chwech chant o aur a roddodd efe ym mhob tarian.

17A thrychant o dariannau o aur dilin, tair punt o aur a roddes efe ym mhob tarian: a’r brenin ai rhoddes hwynt yn nhŷ Pen.7.2.coed Libanus.

18A’r brenin a wnaeth orsedd-faingc fawr o Ifori: 2.Cron.9.17.ac ai goruchguddiodd a’r aur o’r goref.

19Chwech o risiau i’r orseddfaingc, a phenn crwn i’r orsedd-faingc o’r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i’r eistedd le: a dau lew yn sefyll wrth ymyl y canllawiau.

20A deuddec o lewod yn sefyll yno ar y chwe grîs o bob tu: ni wnaethpwyd felly yn vn o’r teyrnasoedd.

21A holl lestri yfed y brenin Salomon o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus aur pur: nid arian ni roddid dim bri arno yn nyddiau Salomon.

22O herwydd llongau Tharsis gan y brenin ar y môr gyd a llongau Hiram: vnwaith yn y tair blynedd y deue llong Tharsis 2.Cron.9.21.yn dwyn aur, ac arian, ac Ifori, ac eppâod, a pheunod

23A’r brenin Salomon a ragôrodd ar holl frenhinoedd y ddaiar: mewn cyfoeth a doethineb.

24A’r holl fŷd oeddynt yn ceisio wyneb Salomon: i wrando ei ddoethineb ef yr hwn a roddase Duw yn ei galon ef.

25A hwynt a ddugasant bob vn ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwiscoedd, ac arfau, a phêr aroglau, meirch, a mulod, bob blwyddyn.

26Yna Salomon a gasclodd gerbydau, a marchogion, ac yr oedd ganddo ef fil a phedwar cant o gerbydau, a deuddeng-mil o farchogion: ac ai dûg hwynt i ddinasoedd y cerbydau, ac ar y brenin yn Ierusalem.

27A’r brenin a roddes yr arian yn Ierusalem fel cerric: a’r cedr-wŷdd a roddodd efe fel y ffigus-wŷdd gwylltion y rhai yn aml mewn dol-dir.

28A mynediad y meirch y rhai gan Salomon o’r Aipht, a lliain main: marchnadyddion y brenin a gymmerasant y lliain main dan bris.

29Ac vn cerbyd a ddeue i fynu, ac a âe allan o’r Aipht, am chwech chant o arian, a march am gant a dec a deugain: ac fel hyn i holl frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd Syria y dugasant hwy trwy eu llaw hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help